
Roedd Gwyndaf a Georgina yn gweithio i’r ITV yng Nghaerdydd cyn penderfynu symud i’r ynys
Mae mis wedi mynd heibio ers i Gwyndaf Hughes a Georgina Rannard adael Caerdydd i ddechrau bywyd newydd yn ffermio ar Ynys Enlli.
Er eu bod yn disgwyl bywyd tawelach ar yr ynys, maen nhw wedi cael eu synnu gan “ba mor brysur” a chymdeithasol yw hi yno.
Wrth i’r gaeaf agosáu, mae’r cwpl yn paratoi i ofalu am yr anifeiliaid ac ymdopi â’r tywydd, wrth geisio dod i arfer â ffordd wahanol o fyw..
Mae aelod newydd o’r teulu hefyd wedi ymuno â nhw – ci defaid Cymreig bach o’r enw Caio, a gobaith y cwpl yw ei hyfforddi i’w helpu i ofalu am y defaid yn y dyfodol.

Mae’r pedair wythnos gyntaf ar yr ynys “wedi fflio” yn ôl Gwyndaf
“Ma’ ‘di bod yn rili da, ‘dan ni wedi mwynhau hyd yn hyn, ac mae’r mis cynta’ wedi fflio heibio,” meddai Gwyndaf.
“Mae amser yn gweithio’n wahanol ar Ynys Enlli, ac mae dyddiau llawn gwaith yn ‘neud i amser fynd yn gyflym iawn.
“Mae’r ffaith bo’ ni wedi bod yma am fis yn dipyn o sypreis.”
Tawelwch yr ynys ar hyn o bryd yn ‘rhyfedd’
Un o’r pethau sydd wedi gwneud argraff arno yw’r newid wrth i ymwelwyr adael yr ynys a’r tymor tawelach ddechrau.
“Fel mae pobl yn gadael yr ynys, mae’n deimlad rhyfedd,” meddai.
“Aron a Lois ydy’r wardeiniaid sydd yn aros ar yr ynys gyda ni, ac roedden ni’n bedwar yn sefyll ar y traeth ar ôl i’r criw ola’ adael, a nath o hitio mai jest ni sydd yma dros y gaeaf.
“Mae’n rili neis, a ma’n neis cael yr amser distaw – dyna be’ ‘dan ni angen i ‘neud y gwaith.
“Mae’n rhyfedd cymaint o dawelwch sydd yma ar hyn o bryd.”

Bu Gwyndaf yn helpu ar fferm ei daid a’i nain ym Mhen Llŷn o oedran ifanc iawn
Ond un o’r pethau sydd wedi synnu’r cwpl fwyaf yw pa mor brysur ydi bywyd cymdeithasol yr ynys.
“Roedden ni’n meddwl y byddai symud i Ynys Enlli yn ddistaw, a dwi’n siŵr bod pobl yn meddwl y bysen ni’n eistedd o flaen y tân,” meddai Gwyndaf.
“Ond na, mae ‘na gymdeithas briliant o bobl, ac mae pawb mor groesawgar,” .
“Yn cerdded o un ochr i’r llall, mae pawb isio sgwrs i weld sut ‘dan ni’n setlo.
“Mae pob dim mewn diwrnod yn cymryd 10 gwaith yn hirach gyda sgyrsiau – mae social life prysurach gyda ni yma nag yn byw yn Y Barri!”

Roedd Gwyndaf yn edrych ymlaen at allu symud yn ôl i Ben Llyn i fyw ble gafodd ei fagu
Gyda’r Nadolig a misoedd oerach ar y gorwel, bydd angen i’r cwpl gynllunio ymlaen llaw, yn enwedig gan fod y tywydd yn gallu effeithio ar deithiau cwch i’r tir mawr.
“Bydd ‘Dolig yn brysur – bydd dal angen i ni gadw golwg ar yr anifeiliaid, mae cadw llygad ar y tywydd hefyd yn bwysig iawn,” esboniodd.
Dywedodd fod angen sicrhau bod bob dim yn ddiogel “mewn gwyntoedd mawr – os oes dipyn o dywydd drwg bydd dim cwch i ddod â neges”.
“Felly mae angen cynllunio ymlaen llaw a gwneud yn siŵr bod digon o fwyd.”
Er y gallai stormydd achosi difrod i “ffensys a’r to”, mae Gwyndaf yn dweud bod y tai ar yr ynys wedi sefyll ers blynyddoedd lawer.
“Cyn belled bo’ ni’n meddwl ymlaen llaw a pharatoi, fe fydden ni’n iawn.
“Er, mae’r gwynt yn swnllyd,” meddai.

Mae Gwyndaf a Georgina wedi cymryd yr awenau gan Gareth a Meriel Roberts, a fu’n gofalu am y fferm am 20 mlynedd
Mae’r ddau hefyd yn edrych ymlaen at gael Nadolig tawelach, gydag anrheg wedi’i drefnu ar eu cyfer.
“Bydd yn neis cael Nadolig distaw braf,” meddai.
“Mae Gareth, oedd yn byw yma gynt, wedi cadw gŵydd i ni, felly edrych ‘mlaen at hynny.
“Paratoi ydy pob dim yn Enlli, fel mae Gareth wedi d’eud wrtha’ i – os wyt ti’n paratoi, eith rhai pethau’n wrong, ond os dwyt ti ddim yn paratoi, bydd pob dim yn mynd yn wrong!”

Mae Georgina a Gwyndaf wedi croesawu Caio, ci defaid Cymreig 15 wythnos oed, i’r ynys
Ac nid y gwaith ffermio a’r paratoi ar gyfer y gaeaf yw’r unig bethau sy’n llenwi eu dyddiau, gan fod y cwpl wedi croesawu ci bach i’r ynys yn ddiweddar.
“‘Dan ni wedi cael ci defaid Cymreig – ei enw ydy Caio, ac mae o’n 15 wythnos oed,” meddai Gwyndaf.
“‘Dan ni wedi gwirioni!”
Y gobaith yw y bydd Caio yn gallu cael ei hyfforddi i helpu gofalu am y defaid ar yr ynys.
Ar ôl gadael eu bywydau prysur yn y cyfryngau yng Nghaerdydd, mae’n ymddangos bod mis cyntaf Gwyndaf a Georgina ar Enlli wedi bod yn llawn gwaith, sgyrsiau a phrofiadau newydd – gyda digon mwy i ddod wrth i’r gaeaf afael.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







