
Mae Cerys Morgan eisiau gweld mwy o gymorth i ofalwyr o dan 10 oed, nad ydynt efallai’n deall beth yw eu rôl
Mae Cerys Morgan, yn helpu ei brawd 16 oed, gyda’r rhan fwyaf o dasgau corfforol, fel paratoi ar gyfer yr ysgol, cymryd meddyginiaeth a’i gefnogi’n emosiynol.
Mae hi’n credu bod angen mwy o gymorth i ofalwyr o dan 10 oed gan nad ydynt, yn aml, yn deall beth yw eu rôl.
“Rydw i wedi datblygu dealltwriaeth sy’n fwy na’r hyn fyddai gan y rhan fwyaf o bobl fel chwaer,” meddai.
“Rwy’n deall sut mae’n teimlo, beth yw ei anghenion a sut y gallaf ei gefnogi os yw’n cael diwrnod anodd neu ddiwrnod da, ac yn gwybod beth sydd orau iddo yn y ffordd honno fel chwaer i’w gefnogi.”
Dywedodd ei bod yn “bwysig iawn” bod gofalwyr ifanc yn cael cymorth emosiynol er mwyn eu helpu i ddatblygu sgiliau a gwydnwch yn eu rolau.
“Pan oeddwn i’n wyth oed doeddwn i ddim yn deall beth oedd ystyr bod yn ofalwr ifanc.
“Doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai’r rôl honno’n arwain ato wrth imi fynd yn hŷn, felly rwy’n bendant yn meddwl bod angen mwy o gymorth ar ofalwyr ifanc iawn fel eu bod yn cael gwell help a chefnogaeth yn y sefyllfa honno.”
Awgrymodd y gallai Llywodraeth Cymru edrych ar gynlluniau mentora i gysylltu pobl ifanc fel y gallant siarad am eu dyddiau.
“Gallwn ni eu harwain neu eu cefnogi a dweud: ‘Roedden ni yn eich esgidiau chi’.
“Pan oeddwn i’n fach, hoffwn pe bawn i wedi cael mentor i fy nghefnogi ac i gyfathrebu ag ef hefyd.
“Byddai’n fuddiol i bob gofalwr ifanc nawr ac yn y dyfodol hefyd, ac yn ein helpu ni i gynnig ein cefnogaeth ac i gefnogi ein teuluoedd yn well mewn gwirionedd.”

Mae yna amcangyfri bod hyd at 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, ac mae dros 22,000 ohonyn nhw dan 24 oed
Mae yna amcangyfri bod hyd at 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, gyda dros 22,000 ohonyn nhw dan 24 oed.
Ddydd Llun fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth newydd i gefnogi gofalwyr di-dâl yn well.
Mae’r strategaeth newydd yn addo gwelliannau o ran cyfleon am seibiant, gwybodaeth a chyngor a gwasanaethau iecyd meddwl.
Mae’r elusen Gofal Cymru yn croesawu’r strategaeth ond yn siomedig fod addewid maniffesto Plaid Cymru i gwblhau asesiadau o anghenion gofalwyr o fewn 28 diwrnod ddim wedi’i gynnwys.
Dywed Llywodraeth Cymru mai’r nod ydi rhoi cydnabyddiaeth a chefnogaeth priodol i ofalwyr di-dâl.
Gofalu am frawd iau ‘yn anodd ac yn hawdd yr un pryd’
Mae Reece Peachy, 17 oed, o Lynebwy, yn helpu i ofalu am ei frawd ieuengaf, tra bod ei rieni’n cefnogi ei frodyr a’i chwiorydd eraill sydd ag anghenion ychwanegol.
Dywedodd fod bod yn ofalwr yn “anodd ond yn hawdd ar yr un pryd”.
“Os yw fy rhieni’n brysur yn mynd allan ac nad yw fy mrawd ieuengaf eisiau mynd, byddaf yn aros adref i ofalu amdano.
“Os oes gen i gynlluniau, bydda i a fy mam yn siarad amdano a byddaf yn ei wylio.”
“Rydych chi’n naturiol yn helpu ac rydw i wedi bod yn gwneud hyn mor hir nes ei fod yn reddf erbyn hyn.”

Dywedodd Reece Peachy fod cymorth gyda llunio CV ac ymweliadau hwyliog wedi helpu gofalwyr ifanc
Dywedodd Reece y gall fod yn “anodd weithiau” wrth iddo geisio cydbwyso ei gyfrifoldebau â’r coleg, gweld ei ffrindiau a’i gariad, a dysgu gyrru.
“Rhaid i mi roi fy mrawd yn gyntaf cyn unrhyw beth arall.
“Mae’n gallu teimlo’n rwystredig ac yn unig iawn oherwydd dydw i ddim yn treulio llawer o amser gyda phobl eraill ac weithiau mae’n rhaid i mi roi’r neilltu bethau rydw i eisiau eu gwneud.”
Dywedodd fod ei grŵp gofalwyr ifanc lleol wedi helpu’n fawr, drwy ddarparu teithiau o amgylch Cymru a’i helpu i ennill ei Wobr Dug Caeredin i’w chynnwys ar ei CV.
“Mae wedi gwneud bywyd gymaint yn well. Pan ddaethwn yn ofalwr ifanc, doeddwn i ddim yn siŵr sut oedd hynny’n mynd i effeithio ar fy mywyd,” meddai.
Mae’n bwriadu cwblhau ei gwrs gwaith coed yn y coleg cyn cychwyn prentisiaeth – a pharhau i helpu ei rieni.
“Rwy’n gwybod os byddaf yn symud yn rhy bell i ffwrdd y byddan nhw’n cael trafferth,” meddai.
“Mae fy rhieni wastad yn dweud pa mor ddiolchgar ydyn nhw am yr hyn rydw i’n ei wneud.”
‘Mae rhai ohonom yn deffro am bump o’r gloch y bore’
Mae Hunter Watts, 17 oed, o Faesteg, yn ofalwr ifanc sy’n cefnogi ei chwaer ag awtistiaeth a’i rieni.
Dywedon nhw: “Rydw i wedi bod yn ofalwr ifanc ers i fy chwaer fach gael ei geni, sef pan oeddwn i tua dwy oed.
“Cafodd hi ddiagnosis o awtistiaeth pan oeddwn i’n bedair oed ond dim ond tua Blwyddyn 5 yn yr ysgol gynradd y cefais fy nghydnabod yn ofalwr ifanc, ac fe gymerodd amser er ei fod yn eithaf amlwg.
“Doeddwn i ddim yn teimlo’n od am y peth oherwydd dyna oedd fy arfer ers tyfu i fyny. Roeddwn i’n gwybod ei fod yn wahanol.”

Mae Hunter wedi helpu gyda gofal ei chwaer iau ers yn ifanc iawn – erbyn hyn, mae hefyd yn gofalu am ei rieni
Dywed Hunter fod mynychu’r grŵp cymorth yng Nghanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr wedi helpu’n fawr.
“Maen nhw wedi fy helpu i lawer hefyd, ac rydw i hefyd yn gofalu am fy mam a’m tad oherwydd mae arthritis gan y ddau ohonyn nhw.
“Dydw i ddim yn byw gyda fy chwaer fach bellach. Mae hi wedi symud i ofal preswyl oherwydd difrifoldeb ei hawtistiaeth, ac fe wnaeth y grŵp gofalwyr fy helpu drwy hynny. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi ymdopi cystal oni bai amdanyn nhw.”
Mae Hunter yn credu bod mwy o gymorth y gellid ei gynnig i ofalwyr di-dâl, yn enwedig i bobl ifanc.
Dywed bod angen sylw i ddau beth, a’r cyntaf yw “ymwybyddiaeth, oherwydd dydy pobl ddim yn deall beth rydyn ni’n mynd drwyddo.
“Mae rhai ohonom yn deffro am bump o’r gloch y bore. Mae’n rhaid i rai helpu rhieni neu frodyr a chwiorydd i wisgo, rhoi eu meddyginiaeth iddyn nhw, eu bwydo neu eu golchi cyn ysgol.
“Yna mae pobl yn gwneud hwyl am eich pen oherwydd eich bod ychydig yn fwy blinedig neu’n hwyr, ond dydyn nhw ddim yn gwybod beth rydych chi wedi bod yn ei wneud.
“Y peth arall yw darparu mwy o gymorth i’r person rydyn ni’n gofalu amdano fel nad yw’r baich mor drwm arnon ni. Pe bai mwy o gymorth i’n brodyr a’n chwiorydd neu ein rhieni, fyddai dim rhaid i ni wneud cymaint o dasgau sy’n effeithio ar ein haddysg.
“Mae’n effeithio ar eich bywyd cymdeithasol, ar y ffordd rydych chi’n tyfu i fyny ac ar eich bywyd fel oedolyn hefyd.
“Rwy’n meddwl mai’r peth pwysicaf yw rhoi seibiant i ofalwyr ifanc, yn enwedig yn ystod oriau ysgol, oherwydd mae rhai gofalwyr ifanc wedi methu mynd i’r coleg gan fod yn rhaid iddyn nhw ofalu am eu teulu. Dylai fod rhywbeth yn ei le yn ystod oriau ysgol i helpu gofalwyr ifanc.”
Sefyll o flaen dosbarth ac egluro beth yw gwaith gofalwr ifanc
Mae Neraya, 15, yn helpu i ofalu am ei dwy chwaer, sydd ag anghenion gwahanol, ac mae wedi gorfod egluro beth mae gofalwyr ifanc yn ei wneud wrth athrawon.
Mae hi’n helpu ei chwiorydd i baratoi i fynd i’r ysgol ac yn rhoi cymorth emosiynol a chefnogaeth.
Dydy hi ddim yn meddwl bod pobl yn deall beth mae gofalwyr ifanc yn ei wneud, a’u bod yn aberthu pethau fel bywyd cymdeithasol.
“Mae ‘na ddiffyg dealltwriaeth o bethau fel peidio gallu mynd i rywle achos bod ‘na broblem adra gyda fy chwaer yn sâl.
“Dwi wedyn yn poeni amdani yn ystod y dydd.”

Mae diffyg dealltwriaeth ynghylch natur y baich ar ofalwyr ifanc yn destur pryder i Neraya
Fel llysgennad i ofalwyr ifanc mae codi ymwybyddiaeth yn bwysig iddi.
“Roedd rhai yn pigo arnaf fi gan nad oedden nhw’n deall beth oedd yn mynd ymlaen gyda fy chwaer, ac roedden nhw’n cymryd yn ganiataol ei bod hi’n ddrwg.
“Pan o’n i’n yr ysgol gynradd, bu’n rhaid i mi fynd i sefyll o flaen y dosbarth i egluro beth oedd gofalwr ifanc, am nad oedd yr athrawon yn deall.”
Mae hi’n dweud bod angen cefnogaeth ymarferol a bod angen i ofalwyr ifanc deimlo “yn ddilys.”
“Mae angen cyfle i ni gael plentyndod ein hunain, hefyd,” meddai.
‘Rhaid peidio byth cymryd gofalwyr yn ganiataol’
Gofalwyr di-dâl yw “asgwrn cefn gofal” cymunedau ledled Cymru, medd y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Delyth Jewell.
“Bob dydd, maen nhw’n darparu gofal a chefnogaeth hanfodol i berthnasau a ffrindiau, gan gydbwyso hynny â’u bywydau eu hunain,” meddai.
“Mae eu cyfraniad at iechyd a lles ein cenedl yn eithriadol, ond rhaid inni beidio byth â’i gymryd yn ganiataol.
“Mae gofalwyr yn ganolog i’n huchelgais am system gofal cymdeithasol gryfach ac mae’n rhaid iddyn nhw gael y gydnabyddiaeth, y cymorth ymarferol a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.”

Mae cyfraniad gofalwyr di-dâl yn eithriadol, medd Delyth Jewell, Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae’r elusen Gofal Cymru yn dweud bod rhai agweddau cadarnhaol yn y strategaeth newydd, ond nad ydi’r llywodraeth wedi mynd yn ddigon pell.
“Mae rhai elfennau i’w croesawu yn y strategaeth newydd, yn enwedig o ran mynediad at ofal seibiant a’r awydd i weld mwy o ofalwyr yn cael cymorth,” meddai Rob Simkins o’r elusen.
Ond mae’n siomedig bod addewid maniffesto Plaid Cymru i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau “hanfodol” wedi’i hepgor.
Mae siom hefyd “bod yr ymrwymiad maniffesto i sicrhau bod asesiadau o anghenion gofalwyr yn cael eu cwblhau o fewn 28 diwrnod ar goll o’r strategaeth”.
Mae’r cymorth sy’n dilyn asesiad, meddai, yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i ofalwyr di-dâl, sydd yn aml yn cael eu “gwthio allan o waith ac yn methu dal ati mewn swydd”.
“Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i ni yw sicrhau bod bywydau gofalwyr di-dâl yn well,” ychwanegodd.
“Nid ydym wedi ein darbwyllo y bydd y strategaeth hon yn mynd cymaint ag yr hoffem iddi fynd, nac ychwaith ei bod yn adlewyrchu’r uchelgais oedd gan y llywodraeth cyn yr etholiad.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymgysylltu’n helaeth ag ystod eang o grwpiau gofal cymdeithasol, a bydd y strategaeth newydd yn helpu sicrhau cydnabyddiaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl.
“Rydym yn ystyried a oes angen newidiadau i gryfhau’r cymorth i ofalwyr, gan gynnwys gosod amserlen ar gyfer cwblhau asesiadau o anghenion gofalwyr.”
Pynciau cysylltiedig
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







