
Mae Jeremy Turner – yr actor, y llenor a’r cyfarwyddwr theatr o Aberystwyth wedi marw yn 68 oed.
Roedd yn un o sefydlwyr y cwmnïau theatr Cwmni Cyfri Tri ac Arad Goch.
Yn 2024, ymddeolodd o’i swydd fel cyfarwyddwr artistig Arad Goch ar ôl cyfnod o 35 mlynedd wrth y llyw.
Yn ystod ei gyfnod fel cyfarwyddwr bu’n gyfrifol am sefydlu Gŵyl Agor Drysau – gŵyl ddrama ryngwladol i blant a phobl ifanc.
Wrth siarad ar raglen Beti a’i Phobol yn 2017 dywedodd mai’r “nod oedd, ac o hyd, yw creu theatr o’r safon ucha posib i’r gynulleidfa orau posib, sef plant a phobl ifanc Cymru”.
“Mae rhai pobl yn meddwl bod theatr i blant yn theatr blentynnaidd, ond dyw’r ddau beth yna ddim gyfystyr a’i gilydd.
“Mae creu theatr ystyrlon i blant a phobl ifanc yn golygu bod rhaid i ni ddeall yr hyn sydd yn eu gyrru nhw, sydd yn eu poeni nhw, sydd yn eu cyffroi nhw – a mae hynny yn waith ymchwil o hyd, a dwi wrth fy modd yn gwneud gwaith ymchwil gyda phlant bach a phobl yn eu harddegau i geisio deall beth sydd yn digwydd iddyn nhw, be sy’n digwydd yn eu pennau nhw nawr.
“Mae’r ymchwil parhaus ‘na yn rhywbeth ddechreuais i gyda fe wrth ddechrau chwilio am theatr oedd yn Gymraeg a Chymreig eu hanfod, a mae’r elfen ymchwiliol yn parhau o hyd.”

Roedd Jeremy Turner a Mari ei wraig yn ‘Dywyswyr’ Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2025.
Cafodd Jeremy Turner ei eni yn Aberdâr.
Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 1979, gan gychwyn gweithio (a chael ei ddylanwadu) gan sioe awyr agored Blodeuwedd Sheeptown Laboratory Theatre yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979.
Aeth ati wedyn i greu Cwmni Cyfri Tri gyda rhai o’i gyd-fyfyrwyr yn Aberystwyth. Cafodd Cwmni Cyfri Tri a Theatr Crwban eu huno i greu Cwmni Theatr Arad Goch ym 1989.
Teithiodd Jeremy Turner â gwaith Arad Goch i lwyfannau rhyngwladol gan berfformio yn Rwsia, De Corea, Tiwnisia, Ffrainc, Catalwnia a Gwlad Pŵyl.
“O dan arweiniad Jeremy yr esblygodd Arad Goch i fod o gwmni sirol i gwmni cenedlaethol ac i un rhyngwladol,” meddai’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, cyn-gadeirydd Bwrdd Rheoli Arad Goch.
“Cadwodd yn driw at ei egwyddorion o gyflwyno byd theatr mewn addysg. Caniataodd i blant a phobol ifanc, waeth beth fo’u cefndir, i gael mynediad at y theatr, ac roedd yn egwyddor craidd mewn democratiaeth i Arad Goch ar hyd y blynyddoedd,” ychwanegodd.
Cyhoeddodd gyfrol i blant o’r enw Guto Nyth Brân i gyd-fynd â sioe deithiol i blant yn 2012.
Yn 2024, derbyniodd ei ddoethuriaeth PhD am ei thesis yn seiliedig ar “Nodweddion hanfodol prosesau creadigol mewn theatr i gynulleidfaoedd ifanc yng nghyd-destun diwylliant a iaith leiafrifol”.
Cafodd ei urddo i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017.
Roedd ef ynghyd â’i wraig Mari yn ‘Dywyswyr’ Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2025.
Mae’n gadael ei wraig, y llenor a’r cyfarwyddydd Mari Rhian Owen a dau o blant – Tomi a Megan – a’u teuluoedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







