Ymdrech i wella’r profiad ar lwybr y ‘dylai pawb yng Nghymru gerdded’

“Mae Taith y Pererinion yn rhan o dreftadaeth Cymru,” meddai Myrddin ap Dafydd
GanDafydd Evans
Newyddion S4C
15 mlynedd ers ei sefydlu, mae ymdrech i gynyddu potensial un o lwybrau cerdded mwyaf ysbrydol Cymru.
Yn gynharach eleni cafodd Taith Pererin gogledd Cymru ei enwi gan gylchgrawn y National Geographic fel un o’r profiadau gorau’n y byd o ran llesiant.
Mae ymddiriedolwyr nawr eisiau manteisio ar y sylw hwnnw ac yn ymgynghori ar sut i wella’r profiad i gerddwyr yn ogystal â chynyddu’r budd i fusnesau lleol.
Fe gafodd y llwybr ei sefydlu yn 2011 ac mae wedi ei seilio ar lwybr y Camino de Santiago yng ngogledd Sbaen.
Mae’n olrhain taith pererinion ganrifoedd yn ôl i Ynys Enlli ac yn mynd ar hyd gogledd Cymru o Abaty Dinas Basing, ger Treffynnon, Sir y Fflint draw i Aberdaron ar Ben Llŷn.
Mae rhai busnesau lleol fel Cwrw Llŷn eisoes yn dathlu treftadaeth yr ardal yn eu cynnyrch, ond yn ôl un o’r cydberchnogion, Myrddin ap Dafydd, mae rhagor i’w wneud i elwa.
“‘Dan ni wedi bod ychydig bach yn swil o wneud hynny,” medd y cyn-Archdderwydd a’r cyhoeddwr llyfrau, “o blethu ein treftadaeth efo’r diwydiant ymwelwyr a’r diwydiant hamdden.”
“Mae Taith y Pererinion yn rhan o dreftadaeth Cymru ac wrth reswm mi ddylai bod pawb yng Nghymru’n cerdded y llwybr yma.”
“Ond hefyd ymwelwyr tramor. Maen nhw wrth eu boddau yn mynd i lefydd ysbrydol yn Iwerddon, Galicia, yng Ngwlad y Basg. Ac felly pam ddim yma hefyd.”

Yn ddiweddar, cynhaliodd Esgobaeth Llanelwy sesiynau ymgynghori gyda’r cyhoedd ar sut i wneud rhagor o’r llwybr.
Maen nhw’n chwilio am syniadau ar sut i wella’r profiad i gerddwyr a sut y gallai busnesau lletygarwch lleol elwa.
Mae Janet Cameron yn un o ymddiriedolwyr Taith Pererin Gogledd Cymru ac yn dweud eu bod eisiau clywed gan drigolion lleol.
“Fyse’n ddefnyddiol iawn cael rhywun sy’n gallu cludo bagiau achos mae’n daith hir.”
“Felly mae’n dipyn o fenter cario’ch pac am bythefnos. Fyse’n wych cael rhywun sy’n gallu cludo bagiau, wrach ar y cychwyn neu ar y diwedd.”
“Mae ‘na gymaint o hen gapeli ac eglwysi hyfryd ar y daith. Mae rhai pobl yn cerdded jyst er mwyn cael bod allan ac mae eraill yn cerdded o ran yr ochr ysbrydol.”
Llwybr Arfordir yn ‘helpu’ busnes
Mae Ymddiriedolaeth Taith Pererinion Gogledd Cymru’n bwriad casglu rhagor o ffigyrau am ddefnydd y llwybr eleni yn y gobaith o geisio am ragor o gyllid i’w hyrwyddo yn y dyfodol.
Yn Aberdaron. mae Iain Roberts yn cadw gwesty Tŷ Newydd ac mae’n cytuno y gallai rhagor o broffil i’r llwybr fod o fudd i fusnesau.
“Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi helpu ers tro – mae o fel rhyw brosiect sydd gan rai ohonyn nhw yn trio cerdded reit rownd Cymru.
“Mae ‘na lawer yn dod i aros am ryw ddwy neu dair noson a gwneud darnau o’r cwrs a symud ymlaen.
“Mi allai’r daith pererinion ychwanegu at Lwybr yr Arfordir. Pobl wahanol ella’n dŵad am resymau gwahanol.
“Ac wrth gwrs mae genny’ ni Enlli just ar yr arfordir yn fan ‘na’n denu hefyd.”
Mae Esgobaeth Llanelwy’n dal i wahodd syniadau am sut i wella’r daith.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







