ydych-chi-wedi-ennill-un-o-goronau-rhiannon?
Home / Wales / Ydych chi wedi ennill un o goronau Rhiannon?

Ydych chi wedi ennill un o goronau Rhiannon?

Ydych chi wedi ennill un o goronau Rhiannon?


Roedd y goron a enillodd Siân, 18 mlynedd yn ôl, yn ychwanegiad hyfryd i’r casgliad o emwaith gan Rhiannon yr oedd eisoes ganddi, sy’n cynnwys cadwyn, modrwy a broets o ddyluniad ‘Melangell’.

“Mae Rhiannon wedi dod yn symbol gweledol o Gymreictod,” meddai, “pan mae rhywun yn gwisgo ei hun yn y bore, ac yn hunan-uniaethu fel Cymraes yn y byd.

“Dwi’n gwybod fod amryw o fy ffrindiau i nôl yn St Andrews yn fy nghofio i’n gwisgo’r gadwyn efo’r ysgyfarnogod yn rhedeg rownd y cylch bywyd; mae honno wedi bod yn rhan o pwy ydw i yn y byd ers cyn y goron.

“O ystyried mod i wedi mwynhau ei gwaith hi eisoes, allwch chi ddychmygu pa mor hyfryd oedd o i ddal rhywbeth unigryw ganddi.

“Mae’r goron wedi ei glanhau o’r newydd, yn sgil clywed am y ffaith fod Rhiannon yn ymddeol.

“Mae rhai pobl yn hoffi cael coron maen nhw’n gallu ei gwisgo, cadair maen nhw’n gallu eistedd ynddi… ond mae ‘na rywbeth hyfryd yn ei dal hi yn fy llaw.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x