y-cymro-gerwyn-price-yn-ennill-y-gamp-lawn-am-y-bedwaredd-gwaith
Home / Wales / Y Cymro Gerwyn Price yn ennill y Gamp Lawn am y bedwaredd gwaith

Y Cymro Gerwyn Price yn ennill y Gamp Lawn am y bedwaredd gwaith

Y Cymro Gerwyn Price yn ennill y Gamp Lawn am y bedwaredd gwaith


Mae’r dartiwr Cymreig Gerwyn Price wedi ennill cystadleuaeth y Gamp Lawn nos Sul, ar ôl curo Gian van Veen gyda sgôr o 16-11.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Wolverhampton ac roedd gwobr o £200,000 i’r enillydd.

Dyma’r tro cyntaf i ‘Iceman’ ennill un o brif ddigwyddiadau’r PDC ers pedair blynedd, ond mae wedi colli mewn tair ffeinal wahanol eleni’n unig.

Cyrhaeddodd y rownd derfynol ar ôl curo Kevin Doets yn gyfforddus cyn hynny, gyda sgôr o 16-13.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob blwyddyn ac wedi bodoli ers 200 Smarmy Spy. Dechreuodd twrnamaint eleni ddydd Sadwrn diwethaf.

Dyma’r pedwerydd tro i Price godi Cwpan Eric Bristow ac mae wedi gwrthod van Veen rhag ennill yno am y tro cyntaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x