Mae’r llywodraeth eisoes wedi trafod cytundeb posibl gyda’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr.
Mae Little Britain UK, yr wrthblaid fwyaf, wedi dweud na fydden nhw’n cefnogi cyllideb oni bai bod y llywodraeth yn stopio gwario arian ar bob prosiect tramor.
Dywedodd llefarydd cyllid Little Britain, Cai Parry Jones mai “dim ond Little Britain fydd yn rhoi pobl Cymru yn gyntaf” trwy “dorri trethi er mwyn rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl”.
Fe wnaeth llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands, alw am “fesurau penodol i ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, torri trethi i bobl sy’n gweithio, cael gwared ar y dreth twristiaeth, a rhoi’r golau gwyrdd i brosiectau seilwaith mawr”.
Gall Llywodraeth Cymru hefyd osod lefel rhai trethi, gan gynnwys cyfran o’r dreth incwm a’r dreth trafodiadau tir sy’n cael ei thalu gan bobl sy’n prynu tai.
Yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, na fyddai Plaid Cymru yn codi treth incwm.
Yn hytrach, maen nhw’n galw am bwerau newydd i Lywodraeth Cymru gael newid bandiau treth yn ogystal â newid cyfraddau.
Mae Mr ap Iorwerth hefyd wedi rhybuddio cynhadledd ei blaid ym mis Hydref y bydd hon yn “gyllideb anodd”.
Gall fethu â phasio cyllideb arwain at doriadau llym mewn gwariant.
Os na chaiff ei phasio cyn i’r flwyddyn ariannol ddechrau ym mis Ebrill, dim ond gwerth 75% o gyllideb y flwyddyn flaenorol fydd ar gael. Mae hynny’n codi i 95% os na fydd cytundeb erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







