‘toriadau-i-gyllideb-comisiynydd-y-gymraeg-yn-gwbl-annerbyniol’
Home / Wales / ‘Toriadau i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn gwbl annerbyniol’

‘Toriadau i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn gwbl annerbyniol’

‘Toriadau i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn gwbl annerbyniol’


Toriadau i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn ‘annerbyniol’ – Cymdeithas yr Iaith

Pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, CaerdyddFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyllideb Comisiynydd y Gymraeg i ostwng tua £300,000 yn 2027-28, yn ôl cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

Mae cyllideb Comisiynydd y Gymraeg i ostwng tua £300,000 yn ôl cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi disgrifio’r toriad fel un “cwbl annerbyniol”, gan ddweud ei fod yn “mynd yn groes i amcanion maniffesto Plaid Cymru”.

Mae’r mudiad yn dweud bod angen cyllideb o £6.7m ar y comisiynydd er mwyn cyflawni eu gwaith yn effeithiol, ond mai £3.2m yn unig fydd ar gael yn 2027-28.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Gweinidog Cyllid ddweud y bydd angen i rai sefydliadau cyhoeddus, gan gynnwys comisiynwyr, ystyried “rhannu swyddogaethau a chostau ystafell gefn”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.

‘Mynd yn groes i amcanion maniffesto’

Mae’r gyllideb ddrafft yn dangos y bydd cyllideb y comisiynydd yn gostwng o £3.511m i £3.212m, sef gostyngiad o £299,000 mewn termau absoliwt.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen cynyddu cyllideb y comisiynydd, yn hytrach na’i thorri, er mwyn gallu cyflawni addewidion maniffesto Plaid Cymru sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Ymhlith yr addewidion hynny mae ymestyn safonau’r Gymraeg i fanciau, archfarchnadoedd a meysydd parcio preifat.

Yn ôl y mudiad, byddai angen cyllideb flynyddol o £6.7m ar y comisiynydd er mwyn cyfateb â’r cynnydd mewn chwyddiant ers sefydlu’r swyddfa yn 2011, pan oedd ei chyllideb yn £4.2m.

Dywedodd Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith: “Mae’r ffaith bod y Llywodraeth yn bwriadu gwneud toriadau pellach o dros £300,000 i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn gwbl annerbyniol.”

Dywedodd fod y Comisiynydd wedi wynebu toriadau dros y blynyddoedd ac mai galwad y mudiad ers tro yw i “adfer y gyllideb.”

Efa Gruffudd Jones, cyn Gomisiynydd y GymraegFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg

Disgrifiad o’r llun,

Ymddiswyddodd Efa Gruffudd Jones fel Comisiynydd y Gymraeg am “resymau personol”, gyda’r penodiad newydd i’w gyhoeddi ym mis Mai 2027

Mae adroddiad a baratowyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 6 Hydref yn dweud nad yw’n bosibl “parhau i gynnal y llwyth gwaith a mynd i’r afael â’r cynnydd mewn dyletswyddau heb gynnydd i’r capasiti presennol a’n costau gwaelodol”.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r sefydliad wedi cyrraedd y “terfyn ymarferol” o ran gwneud “rhagor o arbedion neu ailddyrannu adnoddau heb effeithio’n andwyol ar effithiolrwydd ei swyddogaethau craidd.”

Dywedodd Osian Rhys y byddai’n “llawer anoddach” cyflawni ymrwymiadau Plaid Cymru ar safonau’r Gymraeg pe bai cyllideb y comisiynydd yn “parhau i grebachu”.

“Mae’r Llywodraeth yn pwysleisio bod ‘cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn flaenoriaethau allweddol’ iddi, felly mae’n rhaid i benderfyniadau cyllideb y Llywodraeth adlewyrchu’r blaenoriaethau allweddol yma.

“Byddai torri’r strwythur sy’n gwarantu’r hawliau yma yn anghyson â hynny.”

Elin Jones, y Gweinidog Cyllid

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Elin Jones, y dylai rhai sefydliadau cyhoeddus ystyried “rhannu swyddogaethau a chostau ystafell gefn”

Daw’r toriad fel rhan o ostyngiadau o 5% i gyllidebau comisiynwyr eraill sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod gan Gomisiynydd y Gymraeg rôl reoleiddiol benodol o ran “gosod, monitro a gorfodi cydymffurfiaeth â safonau sy’n creu hawliau iaith”.

Ychwanegodd Osian Rhys fod y llwyth gwaith yn cynyddu wrth i fwy o gyrff ddod o dan y safonau.

Mae’r mudiad hefyd yn cwestiynu ymarferoldeb “rhannu adnoddau gyda swyddfeydd eraill”, gan mai “Cymraeg yw iaith weinyddol fewnol Comisiynydd y Gymraeg”.

Wrth gyflwyno’r gyllideb ddrafft, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Elin Jones, y byddai angen i rai sefydliadau cyhoeddus “weithio’n fwy effeithiol fel sefydliadau annibynnol”.

“Bydd angen i lawer o sefydliadau cyhoeddus ddefnyddio cyfle’r gyllideb hon i weithio’n fwy effeithiol fel sefydliadau annibynnol, neu, yn achos rhai, er enghraifft, ein Comisiynwyr, wrth chwilio am ffyrdd o rannu swyddogaethau a chostau ystafell gefn,” meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x