Arwel Jones Hogia’r Wyddfa a’i gariad at glwb pêl-droed Llanberis

GanIwan Arwel
ITV Cymru Fyw
“Mae tîm pêl-droed yn gallu bod yn fwy na jest tîm pêl-droed, mae’n gymuned o hapusrwydd, lle i gael sgwrs ac anghofio am bopeth arall sy’n digwydd yn y byd.”
Dyna eiriau Arwel Jones. Mae’n enwog wrth gwrs am fod yn aelod o’r grŵp Hogia’r Wyddfa ond hefyd am fod yn un o gefnogwyr selog ei glwb pêl-droed lleol, Llanberis.
Er bod Llanberis bellach yn chwarae yn y bedwaredd haen o bêl-droed yng Nghymru, mae cysylltiad Arwel gyda’r clwb yn parhau’n gryf.
Mae’n un o’r ffyddloniaid fydd yn mynd i wylio Llanbêr yn chwarae pob penwythnos ac wedi bod yn mynd ers dros 60 mlynedd, er meddai mai ef bellach yw “un o’r cefnogwyr hynaf sydd yno”.
Ac yntau yn 84 oed fe wnaeth ei gysylltiad gyda’r clwb ddechrau yn 1960, yn ddyn ifanc oedd ar fin gadael i fynd i’r coleg.

Arwel yn gwylio Llanberis gyda chriw o gefnogwyr
“Nes i ddechrau chwarae i’r clwb yn ifanc nes i mi orfod gadael i fynd i’r coleg yng Nghaerdydd.
“Dod yn ôl wedyn a chwarae am 10 mlynedd iddyn nhw. Roedd rhaid dewis wedyn rhwng y laryncs a fy nhraed achos fe wnaeth pethau brysuro efo Hogia’r Wyddfa.
“Dwi wedi bod yn Llywydd y clwb yn ogystal â bod yn hanesydd y clwb gan gyhoeddi llyfr ar yr hanes a dwi dal i fynd i’w gwylio nhw hyd heddiw,” meddai.
Mae Llanberis yn un o’r clybiau hynaf yn yr ardal. Chwilfrydedd y cefnogwyr wnaeth arwain Arwel i fynd i ymchwilio’n fwy manwl i hanes y clwb, gan fod ‘na anghytuno ymysg ffrindiau am wreiddiau’r clwb.
“Pamffled oedd o i fod ond fe ddiweddodd yn llyfr efo dros 200 tudalen am hanes un o’r clybiau hynaf yng ngogledd Cymru.
“Mae’r clwb yn mynd nôl i 1890 ac wrth gwrs bryd hynny chwarelwyr oedd yn chwarae. Mae’n anodd credu bryd hynny roedd ‘na wyth tîm ffwtbol yn Llanberis, i gyd yn gysylltiedig efo’r chwarel.”

Arwel (top chwith) yn ei ddyddiau yn chwarae i Lanberis
Ar ôl dychwelyd o’r coleg a chael swydd fel athro fe chwaraeodd Arwel i’r clwb am dros 12 mlynedd.
Wedyn daeth cyfnod eithriadol o brysur i Hogia’r Wyddfa.
“Bryd hynny doedd ‘na ddim sybs felly roedd disgwyl i rywun fod ar gael ar gyfer y gêm gyfan.
“Roeddwn i’n ofnadwy o brysur ar y pryd efo Hogia’r Wyddfa ac yn teithio Cymru a thu hwnt weithiau i ganu ar y penwythnos, felly roedd rhaid i mi stopio chwarae pêl-droed,” meddai.
Daeth cyfle wedyn yn 1990 i Arwel fod yn Llywydd y clwb, ac mae’n parhau yn y rôl hyd heddiw.
“Roedd hi yn ac mae’n parhau i fod yn anrhydedd mawr i mi gael bod yn Llywydd.
“Fan hyn ges i fy magu, i’r clwb yma dwi wedi chwarae ac yma fydda i’n dod ar ddyddiau Sadwrn i’w cefnogi nhw.
‘Cwmnïaeth’
“Mae’r gwmnïaeth yma yn arbennig. Er ein bod wedi colli rhai o’r cymeriadau mawr yn anffodus, fydda i dal yn licio mynd lawr i’r cae i gael sgwrs.
“Roedd ‘na gymeriadau ffraeth iawn yna, rhesiad ohona ni yn sefyll i wylio’r gêm. Yn anffodus mae’r rhes yna wedi mynd yn llai dros y blynyddoedd a dwi ‘ŵan hefyd wedi symud i eistedd ar fainc y tu ôl i’r gôl wrth y cwt paned.
“Doedd ddim ots gen i byth beth oedd y canlyniad ar y cae. Wrth gwrs roedd hi’n fonws os oedd Llanbêr yn ennill ond roedd cael sgwrs a dal fyny hefo cyfeillion yn bwysicach i mi.
“Dyna sydd mor sbesial am y clwb. Mae rhywun yn gallu mynd yno ac anghofio am bopeth sy’n digwydd tu allan.
“R’un peth yn y cyfnod pan o’n i’n gweithio. Os oedd ‘na broblemau neu rywbeth ddim yn iawn yn y gwaith, ro’n i’n gallu mynd lawr i Lanberis i wylio’r tîm, cael sgwrs hefo’r cefnogwyr eraill ac anghofio am broblemau bywyd yn llwyr.
“Mae’n le sy’n tynnu pobl at ei gilydd ac mae hen chwaraewyr yn dal i ddod i wylio’n gyson ac mae’r tîm rheoli hefyd yn llawn chwaraewyr sydd wedi chwarae i’r clwb o’r blaen.
“Mae’n rhan bwysig o fy mywyd i ac wedi bod ers degawdau,” meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







