Dywedodd Elin Jones: “Mae yna draddodiad cyfoethog o weisg ac argraffu yng Ngheredigion a’r cyfraniadau pennaf yna i begwn y sir, Gwasg Gomer yn Nyffryn Teifi, a gwasg Y Lolfa yn Nhalybont.
“Fel un o berchnogion cwmni teuluol Gomer, mi wnaeth John Lewis gyfraniad oes i’r byd llyfrau ac i’r economi ei Landysul annwyl.
“Roedd Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg Y Lolfa, yn arloeswr heb ei ail, yn lliwgar, egnïol, yn flaengar ac yn gymeriad a hanner. Roedd yn un o gewri’r frwydr dros y Gymraeg, ond roedd hefyd yn ddyn oedd yn mwynhau herio’r drefn, ysgogi trafodaeth a gwneud hynny gyda hiwmor.
“Sefydlodd Robat Gruffudd Y Lolfa yn Nhalybont yn 1967. Roedd yn benderfynol o brofi bod lle i’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus. Nid dim ond cyhoeddi llyfrau oedd ei fwriad, ond creu gofod i syniadau newydd, gofod i ddychan drwy sefydlu y cylchgrawn Lol, a gofod i ddadlau, ac i leisiau nad oedd bob amser yn cael eu clywed.
“Roedd yn awdur ei hun hefyd ac enillodd wobr Daniel Owen ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei waddol yn enfawr i Geredigion, i’r byd cyhoeddi ac i’r Gymraeg.”
“Mae teuluoedd lawer yn y gorllewin wedi elwa o swyddi drwy waith John Lewis yn Gomer a Robat Gruffudd yn Y Lolfa ar hyd y degawdau, ac mae miloedd, os nad miliynau, o lyfrau wedi eu cyhoeddi, eu darllen a’u mwynhau drwy greadigrwydd y ddwy wasg bwysig yma yng Ngheredigion.
“Coffa da am John Lewis, Gomer, a Robat Gruffudd, Y Lolfa.”
Parhaodd Matthew Jones: “Roedd e hefyd yn gryf o’r farn bod llwyfan rhyngwladol i theatr ifanc o Gymru, ac fe sefydlodd ŵyl theatr ryngwladol Agor Drysau, ac yn aelod gweithgar o ASSITEJ, y gymdeithas theatr ryngwladol i blant a phobl ifanc. Fe arweiniodd sawl cynhyrchiad cwmni theatr ieuenctid yr Urdd hefyd, a mawr yw ei golled ymysg yr holl bobl ifanc hynny a aeth trwy y prosiectau hynny.
“Rwy’n ystyried fy hunan yn un o’r bobl ffodus iawn a gafodd gyfle i holi Jeremy yn fanwl am ei waith wrth gyflawni fy ymchwil doethuriaeth ar Arad Goch.
“Roedd yn hael iawn o’i amser gyda fi, ac wastad yn agored ac yn ddidwyll am hanes y cwmni a’i weledigaeth am y dyfodol.
“Soniodd yn gyson am y pwysigrwydd o feithrin y genhedlaeth nesaf. Dywedodd mewn erthygl yn 1993, ‘person y theatr wyf fi, a’m prif bryder bob amser yw’r gynulleidfa yr wyf yn ddibynnol arnynt, sef plant Cymru.’
“Felly, ar ran cenedlaethau o gynulleidfaoedd o Gymru ifanc a agorwyd drws y dychymyg iddynt, diolch i ti, Jeremy.”
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







