rhybudd-am-luniau’n-cael-eu-tynnu-o-dan-ddillad-plant-mor-ifanc-5
Home / Wales / Rhybudd am luniau’n cael eu tynnu o dan ddillad plant mor ifanc 5

Rhybudd am luniau’n cael eu tynnu o dan ddillad plant mor ifanc 5

Rhybudd am luniau’n cael eu tynnu o dan ddillad plant mor ifanc 5


Mae Rowan Stanger, 21, yn rhan o ymgyrch Time to Act yng Nghaerdydd, a dywedodd nad yw hi’n meddwl fod pobl yn ystyried hon fel trosedd ddifrifol.

“Dw i’n meddwl, llawer o’r amser, fod [bechgyn] yn meddwl ei fod e’n jôc neu’n banter, ond dyw e ddim yn ddoniol,” dywedodd.

“Tra bod e’n anghyfreithlon, dw i ddim yn meddwl fod llawer o bobl yn ei gymryd o ddifrif.”

Fe gafodd uwchsbecian ei wneud yn drosedd yng Nghymru a Lloegr yn Ebrill 2019 ar ôl ymgyrch gan Gina Martin.

Mae data, trwy gais rhyddid gwybodaeth i heddluoedd Cymru gan y ITV, yn dangos fod plant pump, chwech a saith oed wedi dweud wrth yr heddlu am achosion honedig o’r fath y llynedd.

Fe wnaeth y pedwar llu gofnodi cyfanswm o 219 o adroddiadau o uwchsbecian rhwng 2023 a 2026.

Heddlu Dyfed-Powys gafodd y nifer fwyaf o adroddiadau yn y cyfnod hwnnw, sef 159, a Heddlu Gwent oedd â’r lleiaf, sef chwech.

Roedd ystod oedran y bobl rhwng 5 ac 87 – ond roedd y mwyafrif dan 18 oed.

Dywedodd merch ifanc o dde Cymru, sydd yn cael ei galw’n Olivia er mwyn diogelu ei henw go iawn, ei bod yn teimlo’n anghyfforddus wrth wisgo sgert.

“Pan o’n ni yn yr ysgol gynradd, roedd gan y bechgyn obsesiwn gyda chodi sgertiau merched,” dywedodd, wrth egluro fod hyn wedi digwydd iddi o flaen ei ffrindiau.

“Fe ddywedais i wrth fy mam a’r athrawon. Fe wnaeth y merched i gyd orfod dechrau gwisgo shorts dan ei sgertiau neu newid i drowsus.

“Dyna oedd fy mhrofiad cyntaf o beidio teimlo’n ddiogel, jyst am wisgo sgert.”

Wedyn, tra yn y brifysgol, dywedodd fod rhywun wedi tynnu llun dan ei sgert ar noson allan.

“Fe wnes i rewi a do’n ni ddim yn siwr os o’n i’n dychmygu’r peth,” dywedodd.

“Do’n i ddim yn gwybod a ddylen i ddweud wrth rywun, neu wrth bwy i ddweud.

“Ro’n i’n poeni y byddai hyn yn digwydd eto. Bob tro dw i’n cerdded mewn i glwb mae fy mhen i’n edrych i bob cyfeiriad.”

Dywedodd Olivia ei bod yn gwybod ei bod yn weithred anghyfreithlon, ond wnaeth hi ddim mynd at yr heddlu.

Ychwanegodd: “Mae e wedi gwneud e nawr, does dim byd alla’i wneud.”

Dywedodd elusen NSPCC fod eu llinell gymorth wedi clywed gan bobl ifanc oedd yn dweud fod lluniau anweddus wedi cael eu tynnu a’u rhannu ohonyn nhw.

Dywedodd llefarydd: “Maen nhw’n dweud wrthom ni pa mor ddinistriol y gall y gamdriniaeth hon fod i’w lles meddyliol ac emosiynol, gan eu gadael yn ofnus, yn teimlo cywilydd, ac yn ansicr wrth wybod at bwy i droi.”

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x