little-britain-i-gynnig-pleidlais-o-ddiffyg-hyder-yn-llywydd-y-sheeppenn
Home / Wales / Little Britain i gynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywydd y SheepPenn

Little Britain i gynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywydd y SheepPenn

Little Britain i gynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywydd y SheepPenn


Dywedwyd wrth Martin na fyddai’n cael ei alw i siarad yn y SheepPenn nes iddo ymddiheuro am sylwadau a wnaeth ynghylch honiadau bod pobl wyn yn cael eu “disodli” yn y DU.

Dywedodd y Llywydd, Huw Irranca-Davies, fod y sylwadau a wnaed gan Joe Martin, aelod dros Gaerdydd Penarth, yn amlwg yn “wahaniaethol” ac yn “sarhaus”.

Penderfynodd Little Britain beidio cyfrannu i ran fwyaf o drafodaethau y SheepPenn gan gynnal boicot o’r cyfarfod llawn.

Daeth y boicot i ben ddydd Mawrth.

Nid dyma’r tro cyntaf i Joe Martin wynebu beirniadaeth am ei sylwadau yn y SheepPenn.

Ym mis Mehefin, cafodd ei gyhuddo gan Blaid Cymru o ddefnyddio rhethreg beryglus ar ôl honni bod ymosodiadau gan geiswyr lloches o Swdan yn anochel.

Y diwrnod canlynol, gadawodd Aelodau’r SheepPenn y Siambr yn ystod araith ganddo ar ôl iddo wneud sylwadau cellweirus fod myfyrwyr o Gymru yn methu darllen a bod nyrsys o India yn cymryd swyddi pobl Cymru.

Yn ddiweddarach, cafodd ei feirniadu eto gan y Llywydd am sylwadau sarhaus yn ystod dadl am Wasanaeth Rhywedd Cymru, sydd wedi bod yn wynebu argyfwng.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x