
GanGareth Wyn Williams
Gohebydd ITV Cymru
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud arbedion gwerth “o leiaf” £15m, wrth i’r sector addysg uwch wynebu pwysau ariannol cynyddol.
Yn ôl y brifysgol, mae’r cynlluniau’n rhan o ymdrech i fynd i’r afael â heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu’r sector ledled Cymru a’r DU.
Bydd yr arbedion yn cael eu cyflawni drwy ddiswyddiadau gwirfoddol ac “adolygiad hirdymor o strwythurau sefydliadol, partneriaethau a gweithrediadau masnachol”.
Er nad yw’r brifysgol wedi dweud faint o swyddi sydd yn y fantol, mae undeb UCU yn amcangyfrif y gallai rhwng 100 a 150 fod mewn peryg o gael eu colli.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn camau tebyg sydd eisoes wedi’u cymryd mewn prifysgolion eraill yng Nghymru dros y misoedd diwethaf.
Yn gynharach yn y mis fe gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth gynlluniau i leihau nifer y staff a gwneud arbedion gwerth miliynau o bunnoedd wrth geisio mynd i’r afael â diffyg yn ei chyllid.
Ym mis Mawrth fe wnaeth Prifysgol De Cymru hefyd ddweud eu bod yn torri 200 o swyddi.
Yn un o gyflogwyr mwyaf Gwynedd a’r gogledd orllewin, mae Prifysgol Bangor yn cyflogi tua 2,000 o staff a gyda thua 10,000 o fyfyrwyr.

Wrth gyhoeddi’r toriadau brynhawn Iau fe ddywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, y byddai’n gwneud y brifysgol “yn gryfach ac yn arwain at ragor o sicrwydd”.
“Mae prifysgolion yn wynebu heriau ariannol sylweddol, ac mae hynny’n golygu newidiadau mawr i’r ffordd yr ydym yn gweithredu,” meddai.
“Rydym yn cymryd camau nawr i liniaru rhagolygon economaidd anodd iawn.
“Mae’r rhain yn benderfyniadau pwysig nad wyf yn eu gwneud ar chwarae bach.”
Ychwanegodd y brifysgol fod hyn yn digwydd wrth iddyn nhw wynebu “bygythiad ariannol digynsail gyda gostyngiad yn niferoedd myfyrwyr, ffioedd dysgu sydd heb gadw’n gyson â chwyddiant, prisiau ynni cynyddol, a chostau cyflogaeth uwch, ochr yn ochr â gostyngiad yn niferoedd myfyrwyr tramor”.
‘Oes na ddyfodol i ni yn y brifysgol?’
Yn ymateb i’r cyhoeddiad fe ddywedodd Dyfrig Jones, Llywydd Undeb yr UCU, bod y sector addysg uwch yn wynebu “argyfwng nas gwelwyd o’r blaen”.
“Does neb sydd yn gweithio yn ein prifysgol ni heddiw sydd yn gallu cofio sefyllfa mor argyfyngus ar gyfer y gweithlu,” meddai.
“O ran y gymuned leol, mae’n rhaid inni gofio fod rhain gan amlaf yn swyddi o ansawdd sydd yn talu’n dda iawn, yn swyddi sefydlog ac mi fydd colli’r swyddi yna yn ergyd drom i brifysgolion ond hefyd yn un gymdeithasol a diwylliannol.
“Mae’n prifysgolion yn gwasanaethu ein myfyrwyr ond yn aml yn gwasanaethu y gymuned leol hefyd.
“Mi ydan ni mewn peryg o weld pynciau ac adrannau yn dod o dan fygythiad ac mae na beryg gwirioneddol y byddwn ni’n colli pynciau academaidd o rai rhannau o Gymru.”

“Mae’n dorcalonnus fod yn weithwyr prifysgol ar hyn o bryd.” medd Dyfrig Jones
Fe ychwanegodd: “Mi on i’n lywydd cangen yr undeb yn y brifysgol nôl yn 2020 pan athon ni drwy rownd eithriadol o anodd o ddiswyddiadau, bron i 10% o’r gweithlu wedi’i golli.
“Dwi’n cofio dweud wrth rhywun ar y pryd, ‘dwi ‘rioed yn cofio morâl mor isel’- oedd hynny chwe mlynedd yn ôl ac mae morâl wedi mynd yn is ac yn is ac yn is ers hynny.
“Mae’n dorcalonnus fod yn weithwyr prifysgol ar hyn o bryd.
“Mi yda ni’n poeni yn ddiddiwedd oes ‘na ddyfodol i ni yn y brifysgol.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







