Mae Ystâd y Goron yn cynnwys gwely’r môr oddi ar arfordir Cymru yn ogystal ag amrywiaeth o diroedd ac eiddo.
Ar hyn o bryd, mae’r incwm o’r asedau hynny yn mynd i Drysorlys y DU.
Mae llywodraethau Cymru wedi galw ers blynyddoedd am drosglwyddo’r cyfrifoldebau dros Ystâd y Goron i Gymru, fel sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban.
Ond dywedodd Burnham ei fod yn credu bod y trefniadau presennol yn darparu’r ffordd orau o sicrhau’r manteision economaidd a chymdeithasol mwyaf i Gymru.
Ychwanegodd nad oedd y llywodraeth yn gweld achos dros ddatganoli rheolaeth Ystâd y Goron nac i baratoi ar gyfer trosglwyddo’r cyfrifoldeb yn y dyfodol.
Dywedodd Burnham hefyd ei fod yn credu mai ‘Great British Railways’ ddylai fod yn gyfrifol am ariannu a darparu’r seilwaith rheilffyrdd, mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.
O ganlyniad, dywedodd nad oedd wedi’i argyhoeddi gan yr achos dros ddatganoli seilwaith rheilffyrdd yn llawn i Gymru.
Dywedodd y gallai hynny arwain at system fwy tameidiog a chael effaith ar wasanaethau sy’n gweithredu ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Yng nghynhadledd Llafur Cymru’r wythnos ddiwethaf, ailadroddodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Ken Skates, ei gefnogaeth i ddatganoli plismona ac Ystâd y Goron.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Rhun ap Iorwerth fod y penderfyniad yn dangos bod Burnham yn “troi ei gefn ar ddatganoli”.
“Dywedon ni y bydden ni bob amser yn llywodraeth a fyddai’n sefyll dros Gymru. Gyda’r Prif Weinidog bellach yn troi ei gefn ar ddatganoli, mae’r egwyddor honno’n bwysicach nag erioed,” meddai.
Ychwanegodd fod ap Iorwerth wedi addo gweithio’n adeiladol gyda Phrif Weinidog y DU a hynny gyda lefel o uchelgais dros Gymru “na ddangoswyd gan unrhyw un o’i ragflaenwyr”.
“Er ein bod yn falch ein bod wedi cymryd cam ymlaen ar hyblygrwydd cyllidol, a bod ein cynnig am Bartneriaeth ar gyfer Twf wrth galon trafodaethau economaidd, mae ymateb y Prif Weinidog yn siomedig iawn.
“Mae ei eiriau cynnes am ddatganoli bellach yn swnio’n wag ac nid oes amheuaeth bellach mai dim ond i ranbarthau Lloegr y mae’n cyfeirio pan fydd yn sôn am symud grym allan o Whitehall.”
Dywedodd y llefarydd fod gwrthod hyd yn oed ystyried datganoli Ystâd y Goron, cyfiawnder, plismona a seilwaith rheilffyrdd yn dangos nad yw Llywodraeth y DU yn gweld Cymru fel cenedl gyfartal.
“Nid oes gennym ddiddordeb mewn mwy o bwerau er mwyn cael mwy o bwerau,” meddai.
“Mae’r setliad presennol yn annheg, yn anghyfiawn ac yn anghynaliadwy. Mae Cymru’n cael ei hamddifadu o’r cyfle i elwa ar ei hadnoddau naturiol, i gael cyfran deg o fuddsoddiad mewn rheilffyrdd ac i ddatblygu system gyfiawnder sy’n diwallu anghenion ein pobl.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







