pencampwriaeth-y-cenhedloedd:-cymru-26-29-awstralia
Home / Wales / Pencampwriaeth y Cenhedloedd: Cymru 26-29 Awstralia

Pencampwriaeth y Cenhedloedd: Cymru 26-29 Awstralia

Pencampwriaeth y Cenhedloedd: Cymru 26-29 Awstralia


Llwyddodd y gwrthwynebwyr i ymestyn y bwlch unwaith eto ar ddechrau’r ail hanner gyda Max Jorgensen yn ceisio saith munud wedi’r egwyl.

Ond o fewn pedwar munud roedd y sgôr yn 14-19 diolch i gais arall gan Lake a throsiad gan Costelow.

Aeth Cymru ar y blaen am y tro cyntaf wedi 54 munud yn dilyn symudiad gwrthymosodol gwych gan Rees-Zammit a orffennodd gyda chais gan Blair Murray.

Daeth tîm Steve Tandy dan bwysau cynyddol yn y cyfnod a ddilynodd ac ar ôl 64 munud aeth Awstralia’n ôl ar y blaen gyda chais gan Len Ikitau.

Gyda saith munud yn weddill cafodd Awstralia gic cosb i ymestyn y sgôr i 21-29.

Roedd gobaith fyrhoedlog i Gymru yn y munudau olaf yn dilyn cais gan Ryan Elias ond fe orffennodd y noson gyda cholled i’r tîm cartref.

Maen nhw’n parhau ym mhumed safle tabl hemisffer y gogledd wedi’r canlyniad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x