
Nancy Durham yn Sarajevo yn 1995, a heddiw ar ei fferm ym Mhowys
GanBryn Jones
Yn gohebu oITV Cymru Fyw
Mae ‘na adegau ar hyd llwybr bywyd pan mae’r ffordd ymlaen yn dod yn glir. I Nancy Durham fe ddaeth un o’r rheiny wrth feddwl am ei fferm lafant yng Nghymru tra’r oedd hi’n ofni cael ei bomio yn Irac.
Dyna’r foment pan benderfynodd bod datblygu ei busnes ym Mhowys wedi dod yn ffordd fwy apelgar o wneud bywoliaeth na’r hyn fuodd hi’n ei wneud ers tri degawd.
O Ganada yn wreiddiol, mae hi wedi gwneud ei chartref yn y bryniau uwchben Llanelwedd ers blynyddoedd ar ôl gyrfa aeth â hi tu ôl i’r llen dur i fod yn lygad-dyst i chwyldroeon mewn sawl gwlad yn Nwyrain Ewrop.

Nancy Durham yn ninas Prague fis Tachwedd 1989, cyfnod y Chwyldro Melfed
Wedi ei magu yn ardal Toronto, fe wnaeth cyfweld grŵp o Natsïaid ar gyfer ei gradd meistr cymdeithaseg yn yr 1970au arwain at Nancy’n magu diddordeb mewn newyddiadura.
Symudodd i Lundain a gweithio i ddarlledwr cyhoeddus Canada CBC, gan hefyd wneud gwaith i ddarlledwyr eraill fel y ITV.

Nancy Durham yn yr awyr yn hedfan gyda sgwadron y Snowbirds o Lu Awyr Canada ar ddiwedd yr 1970au…

… ac ar ôl glanio
Disgynnodd mewn cariad gyda’r athronydd William Newton-Smith, o Brifysgol Rhydychen, a ddaeth yn adnabyddus wedi iddo gael ei ddiarddel o Tsiecoslofacia ar ddechrau’r 1980au am gynnal darlithoedd cudd yn y wlad Gomiwnyddol.
Ond daeth ei gysylltiadau gyda’r mudiad tanddaearol o fudd i Nancy oherwydd iddi ddechrau mynd yno i wneud adroddiadau radio am y sefyllfa wleidyddol oedd yn datblygu yno.
“Pan o’n i’n mynd yno yn yr 80au, gyda’r nos roedd o’n lle tywyll a’r heddlu yn cerdded o gwmpas – roedd yn creepy,” meddai wrth ITV Cymru Fyw.
Yn ffodus iddi hi, roedd hi yno ar ddiwedd 1989 pan ddechreuodd y Bloc Sofietaidd ddadfeilio yn dilyn cwymp Wal Berlin ar 9 Tachwedd.
Dros gyfnod o 11 diwrnod fe wnaeth gorymdeithiau bychan yn y brifddinas, Prague, dyfu i gynnwys 500,000 o bobl. Fe wnaeth protestiadau a streiciau gan y bobl gyffredin arwain at newid grym heb lawer o drais o gwbl – sef y Chwyldro Melfed.

Prague, Tachwedd 1989
“Roedd yn ofnadwy o oer dwi’n cofio hynny,” meddai Nancy.
“Ro’n i yna ar y dechrau pan oedd ‘na ychydig ddegau o bobl – ond y noson honno daeth yr holl ddinas allan.
“Erbyn y diwedd doeddet ti methu symud yn y sgwâr oherwydd yr holl bobl. Dyna ddechrau’r diwedd i’r llywodraeth.
“Roedd yn gyfnod cyffrous. Dwi’n teimlo mor lwcus mod i wedi cael bod yno i weld hynny’n digwydd.”
Fis yn ddiweddarach roedd hi yn Romania, wedi i’r arweinydd Nicolae Ceaușescu gael ei ladd a’i lywodraeth ei dymchwel, cyn mynd yn ei blaen i Bulgaria – lle’r oedd chwyldro arall wedi digwydd.

Ffoaduriaid o Serbia yn dianc yn 1995
Buodd hi’n gohebu yn ystod Rhyfel y Balcannau, gan gynnwys yn Kosovo pan oedd bomiau NATO yn disgyn a bu’n teithio gyda Serbiaid oedd yn cael eu herlid o Croatia.
“Roedda nhw’n ffoi, byth i fynd nôl. Roedden nhw’n Serbiaid ond doedden nhw heb fyw yn Serbia. Roedd yn tragic. Wnes i weld ‘ethnic cleansing‘ yn digwydd yn agos.”

Ar ôl blynyddoedd yn gweithio i radio, fe weithiodd Nancy Durham fel newyddiadurwr fideo, gan gynnwys yma yn adrodd am hil-laddiad Macheteland yng nghanol yr 1990au
Dros y blynyddoedd, bu hi a William Newton-Smith – a ddaeth yn ŵr iddi – yn rhannu eu hamser rhwng ei lety coleg yn Rhydychen a’u tŷ fferm yn y bryniau uwchben Llanelwedd.
Roedd Nancy wedi bod yno gyntaf yn 1982 ac wedi disgyn mewn cariad efo’r lle – er nad oedd trydan na dŵr yfed ar y pryd. Yn raddol fe wnaethon nhw atgyweirio’r fferm.

Mae’r fferm, sy’n cynnwys llyn bychan, wedi ei leoli yn y bryniau ger Llanelwedd
Yn 2003, fe wnaeth trafodaeth am dyfu gwrych lafant arwain at glywed am grantiau amaeth oedd yn ceisio annog arall-gyfeirio. Fe wnaethon nhw blannu llond cae o’r blodau gan ddechrau’r fferm lafant ar raddfa eang gyntaf yng Nghymru.
Doedd dim cynlluniau hirdymor, dim ond gweld os oedd “posib gwneud defnydd o’r ucheldir heblaw am gadw defaid”. Fe dyfodd yr egin syniad – a’r lafant – a datblygodd fusnes bychan.
Yna daeth Irac.

Gyda’r Cadfridog James Conway, Fallujah, Irac, fis Awst 2004
Yn 2004 roedd hi’n treulio cyfnod yn gohebu yn Fallujah gyda llynges UDA a gafodd eu targedu.
“Irac oedd fy mhrofiad cynta’ o feddwl ‘dwi ddim isio bod mewn war zone eto’,” meddai.
“Roedd ymosodiadau yn digwydd heb batrwm ac yn annisgwyl a doeddet ti methu rheoli dy sefyllfa. Doedd o ddim fel war zones eraill – lle ti’n gallu cael gwybodaeth am lle mae’r ymladd a lle sydd fwy diogel.
“Yng nghefn fy meddwl ro’n i’n meddwl am y lafant yn tyfu adra.”

Lafant ar y fferm
Fe wnaeth ei chyfnod yno a’r ffaith bod llai o gyfleodd i deithio i wneud straeon newyddion arwain at ei phenderfyniad i roi’r gorau i’w swydd a chanolbwyntio ar y fferm.
Bellach mae ei chwmni – Sheepish Lavender – yn creu cynnyrch lafant o’r cynhaeaf, yn cynnig gwyliau ac ymweliadau, ac wedi agor siop a thŷ gwyliau yn Y Gelli Gandryll.
Mae’n dweud ei bod yn ffodus o gael tîm o gydweithwyr agos, brwdfrydig – maen nhw’n cael gwersi Cymraeg gyda’i gilydd dros Zoom bob wythnos – ac yn lwcus o gael gweithio mewn lle mor hardd.
Meddai: “Dwi’n cofio cyrraedd yma y tro cyntaf ac roedd yn ardal mor brydferth a dwi’n cofio meddwl ‘wow, sut faswn i byth yn gallu gadael fan yma’. Ac yn ffodus dwi heb.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







