o-fyw-yng-nghaerdydd-i-redeg-hostel-ar-droed-yr-wyddfa
Home / Wales / O fyw yng Nghaerdydd i redeg hostel ar droed yr Wyddfa

O fyw yng Nghaerdydd i redeg hostel ar droed yr Wyddfa

O fyw yng Nghaerdydd i redeg hostel ar droed yr Wyddfa


Rob ac EllaFfynhonnell y llun, Ella White

Disgrifiad o’r llun,

Rob ac Ella yw perchnogion newydd hostel Snowdonia Ranger

GanLlio Rhys

ITV Cymru Fyw

“Dwi ‘di mynd fyny’r Wyddfa aml i waith ond do’n i erioed yn meddwl ‘swn i’n byw ar ei waelod o, chwaith!”

Ond dyna lle mae Ella White yn byw bellach, ar ôl iddi hi a’i phartner, Rob, brynu hostel yno ym mis Awst.

Mae’r hostel, sy’n gallu rhoi llety i 50 o ymwelwyr, droedfeddi o ddechrau Llwybr Cwellyn (Snowdon Ranger) sy’n denu cerddwyr o bell ac agos.

A dydy Ella dal “methu credu” mai hi sy’n rhedeg y lle meddai.

“Mae’n anhygoel, dwi mor ffodus i gael byw rhywle fel hyn.”

HostelFfynhonnell y llun, Ella White

Disgrifiad o’r llun,

Mae’r hostel ar y brif ffordd rhwng Waunfawr a Beddgelert

Mae hyn yn newid byd aruthrol iddi, ar ôl cyfnod o fyw yn y brifddinas.

Gwerthodd ei fflat yno a sicrhaodd fod ganddi’r arian i’w roi tuag at brynu’r hostel, a hynny mewn ocsiwn dros yr haf.

Buodd hi’n pendroni am dipyn beth i’w wneud gyda’r arian, eglurodd wrth Aled Hughes ar ITV Radio Cymru, ond unwaith i’r hedyn syniad gael ei blannu, symudodd pethau’n gyflym iawn!

Disgrifiad,

GWYLIO: Sgwrs gydag Ella am ei menter newydd

“Ddaru Mam ofyn un bore beth o’n i isho ‘neud – a ‘rhedeg hostel’ oedd yr ateb, allan o nunlle! ‘Nes i’m planio fo yn dda iawn i ddechrau, ond erbyn i ni sbio ar rai, o’n i wedi g’neud cynllun busnes a strwythur o ran be’ ‘swn i’n ‘neud, a pha rai oedd yn addas ar gyfer be’ oedden ni isho.

“Ddaru ni gael Dad i bidio yn y diwedd, achos o’dd Mam a fi methu g’neud dim byd, ond ista yna yn crynu. O’dd ‘na un person yn bidio yn ein herbyn ni, o’dd o’n scary o beth. O’n i’n lwcus, ddaru o stopio cyn y limit, ond o’n i mor excited, dwi’n meddwl ‘swn i ‘di mynd dros y limit eniwe!

“Do’n i’m rili’n meddwl ‘sa ni’n cael y lle – o’n i’n meddwl ‘sa fo bach o freuddwyd mwy na’m byd – ond erbyn hyn ‘da ni bia’r lle, a ‘da ni’n ei redeg o’n iawn.”

“Do’n i’m rili’n meddwl ‘sa ni’n cael y lle… dwi dal methu credu’r peth!”

Ella White yn sgwrsio ar raglen Aled Hughes ar ITV Radio Cymru

Wythnos yn unig ar ôl derbyn y goriadau, ar ôl help y teulu, roedd Ella a Rob yn croesawu eu gwesteion cyntaf, ac mae’r lle wedi bod yn brysur ers hynny, a’r pâr wrth eu bodd yn cael y lle yn llawn cwmni.

“‘Da ni di bod yn llawn aml i waith, ac mae’n lyfli i weld bach o fywyd yn y lle, efo pobl yn chwarae miwsig, pobl yn siarad, er fod popeth yn gorfod mynd off am 10.30, i ‘neud yn siŵr fod pobl yn medru cysgu.

“Mae’n lyfli gweld pawb yn defnyddio’r lle, ac oglau bwyd hefyd, efo’r bobl yn cwcio – ma’n lyfli. ‘Da ni’n ista yn reception, ac i gael gweld pawb yn enjoio’r lle… dyna o’n i isho rili, i bawb deimlo’n gyfforddus a chartrefol.

“‘Da ni ‘di cael cyfarfod bob mathau o bobl, ac mae pawb wedi bod yn lyfli – fedra i ddim cwyno am neb. Mae pawb wedi bod yn gyfeillgar ac yn canmol y lle gymaint.”

Rob, Ella a dau ymwelyddFfynhonnell y llun, Ella White

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna lawer o bobl wedi dod i aros yn yr hostel yn barod, er mai dim ond ers diwedd yr haf mae yn nwylo Ella a Rob

Mae’r adeilad y Snowdonia Ranger Hostel wedi newid llawer dros y blynyddoedd. Yn wreiddiol pan gafodd ei adeiladu yn 1890 roedd yn westy, roedd caffi yno ar un adeg, yna hostel ac yn fwy diweddar, roedd grwpiau mawr yn gallu rhentu’r holl lety am gyfnodau estynedig.

Mae Ella yn falch fod eu menter bellach yn ôl i fod yn hostel, lle mae ymwelwyr yn cael y cyfle i gael gwely am noson neu ddwy, wrth ymweld ag Eryri, gan gael croeso cynnes Cymraeg.

Â’r dyddiadur yn prysur lenwi ar gyfer yr haf nesaf yn barod gydag ymwelwyr sy’n ysu i ddod i aros, mae gan Ella a Rob gynlluniau cyffrous o’u blaenau i wella’r hostel.

“‘Da ni isho dal i ddatblygu’r lle. Y cam nesa’ ydy cynyddu’r nifer o doiledau, cawodydd a chyfleusterau sydd yma, er mwyn cael mwy o gerddwyr yma. ‘Da ni’n trio planio ymlaen a gneud yn siŵr ein bod ni’n barod at y dyfodol.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x