Cafodd delweddau CCTV eu dangos i’r rheithgor o Lilly a’r bachgen sydd wedi ei gyhuddo o’i llofruddio yn gadael eu cartrefi ac yn cerdded tuag at ganol y Blaenau er mwyn cyfarfod.
Mae’r delweddau’n dangos Lilly’n cydnabod y llanc ac yn pwyntio i gyfeiriad Parc Duffryn cyn cerdded lawr y ffordd. Mae’n dilyn tua 20 llath y tu ôl iddi gyda’i wyneb wedi ei hoelio ar ei ffôn bob cam o’r ffordd.
Clywodd y rheithgor mai’r delweddau o Lilly yn croesi’r bont gerdded i gyfeiriad Parc Duffryn am 18:50 oedd y tro olaf iddi gael ei gweld yn fyw.
Yn ôl yr erlyniad fe gafodd y llanc ei weld ar gamera cylch cyfyng y clwb bowls yn cerdded ar hyd gwaelod y parc toc wedi 20:00.
Am 20:18, postiodd lun ar wefan TikTok o ochr draw’r afon yn edrych i gyfeiriad y clwb bowls a’r ardal goediog lle’r oedd Lilly wedi ei llofruddio.
Yn ôl yr erlyniad, mae’r delweddau ohono’n cerdded adref yn dangos fod ei esgidiau’n wlyb ac mae’n cyffwrdd ei boced dde, fel pe bai’n sicrhau nad oedd wedi colli rhywbeth.
Clywodd y llys fod ffrind wedi anfon neges at Lilly am 20:23 yn holi: “Wyt ti’n iawn? Mae dy dad newydd gnocio’r drws i ofyn ble wyt ti.”
Wnaeth hi ddim ymateb.
Mae’r llanc, nad oes modd ei enwi oherwydd ei oed, yn gwadu llofruddio Lilly Jones ac mae’r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







