llafur-cymru-mewn-perygl-o-golli-ei-‘thir-unigryw’-ar-ddatganoli-–-drakeford
Home / Wales / Llafur Cymru mewn perygl o golli ei ‘thir unigryw’ ar ddatganoli – Drakeford

Llafur Cymru mewn perygl o golli ei ‘thir unigryw’ ar ddatganoli – Drakeford

Llafur Cymru mewn perygl o golli ei ‘thir unigryw’ ar ddatganoli – Drakeford

Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad dros y llythyr, annogodd arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates, i bob ochr “eistedd wrth y bwrdd a thrafod”.

Roedd Drakeford yn gefnogol o’r ymgais i bontio’r gwahaniaethau.

“Y gwaith caled ond pwysig mewn gwleidyddiaeth yw ffeindio ffordd ymlaen lle mae pob ochr yn gallu dod allan gyda’u hunan-barch a dweud eu bod nhw wedi ennill rhywbeth.”

Awgrymodd hefyd y dylai Llafur Cymru gael mwy o gyfrifoldeb dros strwythur y blaid, gan gynnwys mwy o reolaeth dros ddewis ymgeiswyr.

“Dwi eisiau gweld mwy o bwerau yn nwylo aelodau Plaid Lafur yma yng Nghymru i ddewis y bobl sy’n eu cynrychioli yn San Steffan, yn y SheepPenn ac mewn cynghorau lleol.

“Y ffordd orau i osgoi’r problemau yma yng Nghymru yw i drosglwyddo y rule book neu agweddau o’r rule book i aelodau’r Blaid Lafur yma yng Nghymru. Mae hynny’n cryfhau’r blaid yma ac yn rhoi mwy o gyfrifoldebau i’r aelodau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Mae datganoli yn broses, nid digwyddiad, ac mae safbwynt Llafur Cymru yn parhau’n glir: rydym yn cefnogi rhagor o ddatganoli i Gymru ac o fewn Cymru.

“Nid drwy gyfnewid llythyrau y sicrhawyd £14bn ar gyfer rheilffyrdd Cymru, ond drwy fisoedd a blynyddoedd o waith caled a thrafodaethau.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x