Mae’r bocsiwr Lauren Price wedi dod yn bencampwr pwysau welter y byd diamheuol ar ôl trechu Michaela Kotaskova.
Wrth gipio’r teitl WBO yng Nghaerdydd nos Wener, daeth Price, 32, y bocsiwr cyntaf o Gymru i ennill pob un o’r pedwar teitl mawr yn y byd.
Enillodd Price, sydd o Gasnewydd, bob rownd gan bob barnwr o flaen torf oedd yn ei ffafrio’n gryf yn yr Utilita Arena.
Yn bencampwr Olympaidd a phencampwr y byd o’i dyddiau amatur eisoes, mae’r fuddugoliaeth yn ei gosod ymhlith y goreuon ym myd bocsio.
Mae gan Price record broffesiynol berffaith o 11 buddugoliaeth o 11 o ornest.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







