‘i-ni,-mae’n-anodd’-trafferth-prynu-t-yn-ardal-fwyaf-fforddiadwy-cymru
Home / Wales / ‘I ni, mae’n anodd’ trafferth prynu t yn ardal fwyaf fforddiadwy Cymru

‘I ni, mae’n anodd’ trafferth prynu t yn ardal fwyaf fforddiadwy Cymru

‘I ni, mae’n anodd’ trafferth prynu t yn ardal fwyaf fforddiadwy Cymru


GlynrhedynogFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

£116,200 ydy’r pris cyfartalog ar gyfer prynu cartref yng Nglynrhedynog, yn ôl Zoopla

GanGwydion Edwards a Stephen Fairclough

Mae pobl yn Rhondda Fach Uchaf yn dweud eu bod yn cael trafferth prynu cartref oherwydd costau byw, er bod yr ardal wedi’i henwi’n un o’r llefydd mwyaf fforddiadwy yng Nghymru.

Yn ôl Zoopla, Glynrhedynog yw’r dref fwyaf fforddiadwy yng Nghymru ar sail prisiau tai ac incwm cyfartalog.

Ond i rai pobl leol, mae perchen ar gartref yn dal i deimlo y tu hwnt i’w cyrraedd.

Mae Emma West, 36, yn rhedeg caffi yng Nglynrhedynog ac yn dweud ei bod wedi gorfod dewis rhwng buddsoddi yn ei busnes neu arbed tuag at brynu tŷ.

“Yn amlwg mi wnes i ddewis cadw fy swydd a rhoi’r arian mewn i fan hyn, ond dwi mewn sefyllfa lle mae fy mhartner yn drydanwr, crefft dda, a dwi’n rhedeg busnes.

“Mae gennyn ni arian yn dal i fod, ond does dim ar ôl i fedru arbed swm penodol at flaendal.”

Emma West

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma West, 36, yn rhedeg caffi yng Nglynrhedynog

£116,200 ydy’r pris cyfartalog ar gyfer prynu cartref yng Nglynrhedynog, ac mae Zoopla yn dweud bod prynu tŷ arferol yno’n costio “llai na dwywaith cyflogau blynyddol dau weithiwr llawn amser”.

Mae Emma wedi byw mewn ardaloedd eraill yn y gorffennol ac yn cydnabod bod eiddo’n ddrytach mewn rhai mannau, ond mae’n dweud nad yw hynny’n golygu bod prynu cartref yn hawdd.

“Dwi wedi byw tu allan i’r Cymoedd, felly fi’n gallu gweld y cymariaethau.

“Ond os y’ch chi’n edrych ar yr argyfwng costau byw r’yn ni gyd yn ei wynebu, mae popeth yn costio bom.”

Marcus Thomas

Disgrifiad o’r llun,

“I ni, mae e’n anodd. I bobl sy’n dod mewn i Gymru mae e’n hawdd a fforddiadwy,” yn ôl Marcus Thomas

Mae un o gwsmeriaid Emma, Marcus Thomas, 31, yn teithio i Wlad yr Haf i weithio.

Dywedodd mai cael swydd newydd wnaeth roi’r cyfle iddo brynu tŷ teulu yng Nglynrhedynog yn 2025.

“Symud i swydd newydd wnaeth roi’r cyfle i fi brynu’r tŷ,” meddai.

“Pan symudes i yno, llwyddes i gael ‘chydig mwy o arian. ‘Nes i arbed ‘chydig o bunnoedd ac yna mi ges i flaendal ar gyfer y tŷ.”

Er ei fod yn cydnabod bod prisiau tai yn Rhondda Fach yn gymharol isel i bobl sy’n symud o rannau eraill o’r DU, mae’n dweud bod y sefyllfa’n wahanol i lawer o bobl leol.

“Dwi’n meddwl os bydde’ chi’n byw yn Llundain, Reading, neu Brum, byddwn i’n dweud ei fod y lle hawsaf i gael eiddo achos bod gwerth tŷ yn fan hyn ac yno’n hollol wahanol.

“I ni, mae e’n anodd. I bobl sy’n dod mewn i Gymru mae e’n hawdd a fforddiadwy.”

David Ricketts

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl David Ricketts, asiant gwerthu tai, mae prisiau tai yn ne Cymru yn denu prynwyr o’r tu allan i’r ardal

Mae David Ricketts, asiant gwerthu tai, yn dweud bod prisiau tai cymharol isel yn gwneud rhannau o dde Cymru’n ddeniadol i brynwyr o’r tu allan i’r ardal.

“Ti’n cael mwy am dy bres, mae e’n llai o straen, mae’r morgais yn llai i dalu, ac mae’n ardal sydd am fynd yn well ac yn well fi’n credu.

“Bydd e’n gwella ac mi gewch chi groeso hyfryd mewn unrhyw dref yn y Cymoedd.”

Ychwanegodd Mr Ricketts nad yw pawb sy’n prynu eiddo yn yr ardal yn bwriadu byw yno eu hunain, gyda rhai’n gweld cyfle i fuddsoddi.

“Mae gennych chi fuddsoddwyr yn dod mewn achos eu bod wedi sylweddoli bod arenillion rhent yn eithaf rhesymol, ac mai dim ond tyfu y bydd e’.

“Maen nhw’n ardaloedd deniadol iawn i fyw ynddyn nhw ac i fod yn berchen eiddo hefyd.”

James Brown

Disgrifiad o’r llun,

“Mae e’n berffaith os y’ch chi’n teithio ac mae popeth ar eich stepen drws,” meddai James Brown

Mae James Brown, 56, wedi byw yn Tylorstown ers 18 mis, a phrisiau tai’r ardal oedd y prif reswm dros symud yno.

“Des o Awstralia i’r Cymoedd. Prynes y tŷ ar y we yn bur oherwydd y gost.

“Dwi’n wreiddiol o’r canolbarth yng Nghaerloyw a bydde’r un eiddo yn costio £200,000 a mwy, ond roedd e’ dan £80,000 yn y Cymoedd a 40 munud yw e’ i Gaerdydd.”

‘Perffaith os y’ch chi’n teithio’

“Mae e’n berffaith os y’ch chi’n teithio ac mae popeth ar eich stepen drws, felly mae e’n ardal fforddiadwy iawn i ddod iddi hi,” meddai.

Dywedodd James nad ef yw’r unig un sydd wedi cael ei ddenu i’r ardal gan brisiau tai.

“Ers i mi fod yma mae ‘na lawer o’r tu allan i Gymru yn prynu yn ne Cymru achos ei fod e’n fforddiadwy.

“Mae ‘na lawer o brynwyr o’r tu allan yn prynu eiddo yng Nghymru yn bendant, sydd ddim yn helpu pobl leol i brynu eiddo mae’n siŵr.

“Ond fel ro’n i’n dweud, mae’r fforddiadwyedd yn ne Cymru yn anghredadwy.”

Donna Thomas

Disgrifiad o’r llun,

“Ry’n ni eisiau rhoi’r bywyd gorau posib i’r merched gyda’r hyn sy’ ‘da ni,” meddai Donna Thomas

Mae Donna Thomas, 41, yn rhentu cartref ym Maerdy gyda’i phartner a’u dwy ferch.

Er eu bod wedi ystyried prynu tŷ, daethon nhw i’r casgliad y byddai hynny’n rhoi gormod o bwysau ar gyllid y teulu.

“Os y’n ni’n hapus ble ydyn ni, pam newid? Pam mynd i sefyllfa gyda llawer mwy o straen, pan allwn ni aros ble ydyn ni a gwneud y gorau o be’ sy’ yma?

“Bydde’ fe’n fwy o straen, bydde’ popeth yn anoddach, bydde’r arian m’ond yn mynd cyn belled â ry’n ni eisiau rhoi’r bywyd gorau posib i’r merched gyda’r hyn sy’ ‘da ni.”

‘Dim llawer yma’

Esboniodd Donna ei bod hi’n hapus i fuddsoddwyr brynu eiddo yn yr ardal a’u rhentu nhw allan i bobl sydd eisiau byw yn Rhondda Fach.

“Mae e’n golygu – pan nag y’n ni’n medru fforddio morgais ar dŷ chi’n hoffi – os yw rhywun arall yn ei brynu a’i rentu mas i chi, yna byddwn i’n dweud bod hynny’n beth da.

“Fi methu fforddio morgais ar y tŷ yma, ond dwi’n hoffi e’, a nawr dwi’n ei rentu e’.”

Ellie Thomas

Disgrifiad o’r llun,

“Sai’n credu y byddwn i eisiau byw yma,” meddai Ellie Thomas.

Mae Ellie Thomas, 25, yn byw gyda’i rhieni. Mae hi newydd orffen astudio a bydd hi’n dechrau swydd fel ciropractydd ym mis Ionawr.

Ei nod ydy arbed digon o’i swydd newydd i gael blaendal i brynu tŷ, ond mae hi’n teimlo bod byw yng Nglynrhedynog yn rhy anghysbell, er bod y tai’n rhatach, a byddai’n well ganddi fyw’n agosach at ddinas.

“Dwi ddim yn credu y byddwn i eisiau byw yma. Dwi’n teimlo nad oes ‘na lawer yn digwydd yma. Mae’r rhan fwyaf o’r siopau ar gau.

“Mae ‘na ryw un caffi, ychydig o siopau torri gwallt – does dim llawer yma. Mae gyrru i Gaerdydd yn tua 50 munud. Mae rhywun allan ohoni braidd.

Ond mae Ellie yn deall y byddai’n debygol o fod yn ddrytach ac yn anoddach prynu tŷ yn rhywle arall.

“Mae’n amlwg ei bod hi’n eitha’ anodd dod o hyd i rywle braf am bris fforddiadwy yn yr ardal rydych chi ei heisiau. Byddai’n haws i mi fyw yma.

“Mae’n gymuned hyfryd, mae pawb yn adnabod ei gilydd, ond mae ychydig yn anghysbell, ac mae petrol yn ddrud nawr hefyd.”

Pynciau cysylltiedig

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x