Gyda’r opsiwn yn un newydd ac yn ddiwygiad o opsiynau gwreiddiol y bwrdd iechyd, fe benderfynodd y bwrdd gynnal cyfnod pellach o ymgynghori.
Ar drothwy’r penderfyniad terfynol, mae adroddiad o’r ymatebion a gafodd eu casglu yn dangos “ymateb rhanedig” ar yr opsiwn amgen.
Yn ôl yr adroddiad, mae 24% o’r rhai wnaeth ymateb yn ‘tueddu i gytuno’ gyda’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio ond mae 69% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y byddai’r opsiwn ffafriol yn helpu i wella safonau clinigol, diogelwch cleifion a phrinder staff.
Roedd y prif bryderon yn canolbwyntio ar deithio, amseroedd trosglwyddo, capasiti ambiwlansys, capasiti Ysbyty Glangwili, mynediad i deuluoedd, ac a fyddai gwasanaethau adsefydlu ar gael yn nes at adref.
Yn ôl adroddiad y bwrdd iechyd roedd lefel y gefnogaeth yn dibynnu ar ble roedd pobl yn byw – roedd pobl yn Sir Gaerfyrddin yn fwy tebygol o gefnogi tra bod y pryderon yn gryfach yng Ngheredigion, Sir Benfro, Powys a Gwynedd.
Dywed staff y bwrdd iechyd ei bod hi’n anodd cwrdd â disgwyliadau o dan y drefn bresennol oherwydd cyfyngiadau adnoddau, ac mae llawer yn cefnogi newid fyddai’n darparu gofal arbenigol cynharach.
Yn ôl y bwrdd iechyd mae staff yn cefnogi’r egwyddor o wella gofal arbenigol ar gyfer strôc drwy ganoli gwasanaethau a gwella llwybrau gofal, ond mae nifer wedi codi pryderon ynghylch yr angen i deithio i gael mynediad at y gwasanaeth arbenigol, capasiti ar gyfer adsefydlu cleifion ar ôl strôc a materion eraill.
Yn ôl Lisa Francis, Cadeirydd Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais (AGB) mae ymatebion yr ymgyghoriad diweddaraf yn dangos cryfder y teimladau yn erbyn y newidiadau.
“Mae’r ymatebion yn dangos diffyg ymddiriedaeth aruthrol yn y bwrdd iechyd, ac ychydig o hyder y bydd yr opsiwn ffafriol yn arwain at wasanaethau strôc gwell ac yn arwain at ganlyniadau gwell”, meddai.
“Nid yw’r bwrdd iechyd wedi gallu rhoi sicrwydd i boblogaeth canolbarth a gorllewin Cymru, ei grwpiau cymunedol, ei wleidyddion, na hyd yn oed i’r rhai sy’n gyfrifol am gynllunio, comisiynu, darparu a gwella gwasanaethau strôc, y bydd ei ddewis a ffefrir yn arwain at welliannau pendant mewn perthynas â’r rhesymau a nodwyd yn y rhesymeg dros y newid.”
Ynghyd â’r grŵp ymgyrchu, mae gwleidyddion hefyd yn codi pryderon tebyg.
Dywedodd AS Ceredigion Penfro Paul Davies wrth ei fod wedi “dadlau’n gyson” dros weld gwasanaethau’n aros yn ysbytai Bronglais a Llwynhelyg.
“Nid yw unrhyw newidiadau sy’n arwain at gleifion yn gorfod teithio ymhellach i gael triniaeth yn dderbyniol”, meddai.
Galw am wasanaeth strôc 24/7 o fewn bwrdd iechyd Hywel Dda mae’r AS Anna Nicholl, “fel y gall pobl yng ngorllewin Cymru gael mynediad at y driniaeth strôc sydd ei hangen arnynt, pan fydd ei hangen arnynt, ble bynnag y maent”.
Mae’r AS Kerry Ferguson, yn dadlau bod angen “gwell trefniadau trafnidiaeth cyn gwneud newidiadau i wasanaethau”.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







