hywel-dda:-cymeradwyo-newidiadau-dadleuol-i-wasanaethau-strc
Home / Wales / Hywel Dda: Cymeradwyo newidiadau dadleuol i wasanaethau strc

Hywel Dda: Cymeradwyo newidiadau dadleuol i wasanaethau strc

Hywel Dda: Cymeradwyo newidiadau dadleuol i wasanaethau strc


Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cymeradwyo, mewn egwyddor, newidiadau dadleuol i’w gwasanaethau strôc.

Ar hyn o bryd, mae ward strôc ym mhob un o bedwar ysbyty’r ardal, ond mae’r bwrdd iechyd yn bwriadu symud ymlaen â’r cynllun i greu gwasanaeth strôc arbenigol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Bydd yr ysbytai eraill yn Llanelli a Hwlffordd yn darparu gwasanaeth ‘trin a throsglwyddo’ ac fe fydd uned adferiad yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Mae yna wrthwynebiad chwyrn wedi bod i’r cynlluniau, ond cafodd y penderfyniad terfynol ei wneud mewn cyfarfod ddydd Iau, wedi ail gyfnod o ymgynghori.

Yn ôl y bwrdd iechyd bydd y newidiadau yn gwella’r gwasanaeth i gleifion gan fod y gwasanaethau strôc presennol yn fregus a ddim yn cyrraedd safonau glinigol.

Fydd na ddim newid i’r gwasanaethau strôc am rai blynyddoedd.

Fis Chwefror, mewn cyfarfod eithriadol, fe benderfynodd aelodau’r bwrdd ymgynghori eto ar opsiwn a ddeilliodd o sylwadau gan y cyhoedd yn yr ymgynghoriad gwreiddiol.

Ond yn ôl bron i 70% o ymatebion i’r ail ymgynghoriad ni fydd yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio yn gwella safonau na diogelwch cleifion.

Gyda’r opsiwn yn un newydd ac yn ddiwygiad o opsiynau gwreiddiol y bwrdd iechyd, fe benderfynodd y bwrdd gynnal cyfnod pellach o ymgynghori.

Roedd adroddiad o’r ymatebion a gafodd eu casglu yn dangos “ymateb rhanedig” ar yr opsiwn amgen.

Yn ôl yr adroddiad, roedd 24% o’r rhai wnaeth ymateb yn ‘tueddu i gytuno’ gyda’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio ond mae 69% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf y byddai’r opsiwn ffafriol yn helpu i wella safonau clinigol, diogelwch cleifion a phrinder staff.

Roedd y prif bryderon yn canolbwyntio ar deithio, amseroedd trosglwyddo, capasiti ambiwlansys, capasiti Ysbyty Glangwili, mynediad i deuluoedd, ac a fyddai gwasanaethau adsefydlu ar gael yn nes at adref.

Yn ôl adroddiad y bwrdd iechyd roedd lefel y gefnogaeth yn dibynnu ar ble roedd pobl yn byw – roedd pobl yn Sir Gaerfyrddin yn fwy tebygol o gefnogi tra bod y pryderon yn gryfach yng Ngheredigion, Sir Benfro, Powys a Gwynedd.

Dywed staff y bwrdd iechyd ei bod hi’n anodd cwrdd â disgwyliadau o dan y drefn bresennol oherwydd cyfyngiadau adnoddau, ac mae llawer yn cefnogi newid fyddai’n darparu gofal arbenigol cynharach.

Yn ôl y bwrdd iechyd mae staff yn cefnogi’r egwyddor o wella gofal arbenigol ar gyfer strôc drwy ganoli gwasanaethau a gwella llwybrau gofal, ond mae nifer wedi codi pryderon ynghylch yr angen i deithio i gael mynediad at y gwasanaeth arbenigol, capasiti ar gyfer adsefydlu cleifion ar ôl strôc a materion eraill.

Yn ôl Lisa Francis, Cadeirydd Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais (AGB) mae ymatebion yr ymgyghoriad diweddaraf yn dangos cryfder y teimladau yn erbyn y newidiadau.

“Mae’r ymatebion yn dangos diffyg ymddiriedaeth aruthrol yn y bwrdd iechyd, ac ychydig o hyder y bydd yr opsiwn ffafriol yn arwain at wasanaethau strôc gwell ac yn arwain at ganlyniadau gwell”, meddai.

“Nid yw’r bwrdd iechyd wedi gallu rhoi sicrwydd i boblogaeth canolbarth a gorllewin Cymru, ei grwpiau cymunedol, ei wleidyddion, na hyd yn oed i’r rhai sy’n gyfrifol am gynllunio, comisiynu, darparu a gwella gwasanaethau strôc, y bydd ei ddewis a ffefrir yn arwain at welliannau pendant mewn perthynas â’r rhesymau a nodwyd yn y rhesymeg dros y newid.”

Ynghyd â’r grŵp ymgyrchu, mae gwleidyddion hefyd yn codi pryderon tebyg.

Dywedodd AS Ceredigion Penfro Paul Davies wrth ei fod wedi “dadlau’n gyson” dros weld gwasanaethau’n aros yn ysbytai Bronglais a Llwynhelyg.

“Nid yw unrhyw newidiadau sy’n arwain at gleifion yn gorfod teithio ymhellach i gael triniaeth yn dderbyniol”, meddai.

Galw am wasanaeth strôc 24/7 o fewn bwrdd iechyd Hywel Dda mae’r AS Anna Nicholl, “fel y gall pobl yng ngorllewin Cymru gael mynediad at y driniaeth strôc sydd ei hangen arnynt, pan fydd ei hangen arnynt, ble bynnag y maent”.

Mae’r AS Kerry Ferguson, yn dadlau bod angen “gwell trefniadau trafnidiaeth cyn gwneud newidiadau i wasanaethau”.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x