
Roedd mwy na 30 o weithwyr iechyd proffesiynol yn rhan o’r “Quad Squad”
GanGwen Aeron
ITV Cymru fyw
Mae cwpl o Ben-y-bont ar Ogwr yn dathlu genedigaeth eu pedwar babi, ar ôl i fwy na 30 o weithwyr meddygol proffesiynol ddod ynghyd i sicrhau genedigaeth ddiogel yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Ganwyd dwy ferch a dau fachgen i Glenna Alphonse a John Poul yn gynharach y mis hwn, yn dilyn beichiogrwydd cymhleth a oedd angen gofal arbenigol dros nifer o wythnosau.
“Roedd y cyfan wedi bod yn frwydr o’r dechrau, ond y funud y gwelais i wynebau fy mabanod, anghofiais am bopeth! Roedd y cyfan yn werth popeth,” meddai Glenna.
Ganwyd y pedwar babi yn gynnar ac roeddent yn pwyso rhwng 1 pwys 10.3 owns a 2 bwys 9.6 owns.
Mae disgwyl pedwar babi (quadruplets) ar yr un pryd yn hynod o brin, gyda dim ond tua thair i bum set yn cael eu geni yn y DU bob blwyddyn.

Mae enwau’r pedwar plentyn i gyd yn dechrau gyda’r llythyren N
Cafodd y tîm meddygol a fu’n gyfrifol am y geni ei alw’n ‘Quad Squad’, gyda mwy na 30 o glinigwyr yn cydweithio i baratoi ar gyfer genedigaeth y babanod.
Dywedodd Glenna fod y newyddion ei bod yn disgwyl pedwar babi wedi dod yn dipyn o sioc iddi hi a’i phartner.
“Ar y dechrau, fe wnes i ddadlau gyda’r meddygon, gan ddweud, ‘Does dim pedwar babi ‘na!” meddai.

Glenna Alphonse a John Poul gydag un o’u meibion yn yr uned gofal dwys
“Ond fe wnaethon nhw ail-wneud y sgan sawl gwaith a galw cydweithwyr profiadol i mewn, ac roedd yn wir. Roedd yn sioc fawr i ni.”
Oherwydd cymhlethdod y beichiogrwydd, cafodd Glenna ei chyfeirio at dîm arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd John Poul, tad y plant, ei bod wedi bod yn gyfnod ofnus i ddechrau, ond bod y gefnogaeth a gawsant gan y tîm wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
“Fe wnaethon ni gwrdd â Dr Beattie a rhoddodd gefnogaeth dda iawn i ni,” meddai.
“Fe eglurodd y byddai’r tîm yn rhoi gofal da i ni a dywedodd wrthym am beidio â phoeni am unrhyw beth. Trefnodd gwnsela i ni hefyd, ac roedd hynny’n ddefnyddiol iawn.”
‘Fel ymgyrch filwrol’
Roedd y tîm meddygol wedi treulio wythnosau’n paratoi ar gyfer genedigaeth y pedwar babi, gan gynllunio ar gyfer gwahanol senarios posibl.
Cafodd offer arbenigol ei baratoi ar gyfer pob babi, ynghyd â lle penodol yn y theatr lawdriniaeth a threfn wrth gefn i alw staff ychwanegol i mewn pe bai angen.
Pan ddaeth yn amser i’r babanod gael eu geni, cafodd y trefniadau helaeth hynny eu rhoi ar waith.

Roedd Dr Bryan Beattie, Judith Bibby a Vickie Kinsella ymhlith y tîm arbenigol a fu’n gofalu am Glenna
Disgrifiodd Dr Rachel Hayward, ymgynghorydd newyddenedigol, y broses fel “ymgyrch filwrol”.
“Neilltuwyd tîm o bump aelod o staff i bob babi, yn ogystal â’r tîm theatr a’r staff yn yr uned gofal dwys,” meddai.
Ychwanegodd Dr Nitin Goel fod nifer o gydweithwyr wedi aros ar ôl eu sifftiau, tra bod eraill wedi dod i mewn i’r gwaith yn arbennig er mwyn sicrhau bod digon o staff ar gael.
‘Dim ond hapusrwydd’
Er gwaethaf yr heriau a’r pryderon drwy gydol y beichiogrwydd, dywedodd Glenna fod gweld ei phedwar babi am y tro cyntaf yn “arbennig”
“Ro’n i wedi cael cyfnod anodd, ond y funud y gwelais i fy mabanod am y tro cyntaf, ‘nath hynny i gyd newid ac roedd y cyfnodau anodd ‘na werth e,” meddai.
Dywedodd John fod yr eiliad honno wedi newid popeth.
“Roedd popeth wedi diflannu. Dim ond hapusrwydd oedd,” meddai.
“Roedd pawb mor garedig. Fe wnaethon nhw roi 200% i ni. Fe wnaethon nhw roi o’u gorau, a mwy na hynny.”
Mae’r pedwar babi yn parhau i dderbyn gofal arbenigol, lle maen nhw’n cael cymorth wrth fwydo a datblygu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







