galw-am-fwy-o-‘amrywiaeth-o-gyfleoedd’-i-ddenu-graddedigion-yn-l-i-gymru
Home / Wales / Galw am fwy o ‘amrywiaeth o gyfleoedd’ i ddenu graddedigion yn l i Gymru

Galw am fwy o ‘amrywiaeth o gyfleoedd’ i ddenu graddedigion yn l i Gymru

Galw am fwy o ‘amrywiaeth o gyfleoedd’ i ddenu graddedigion yn l i Gymru


Mae’r ymgynghorydd addysg, Geraint Rees, yn cytuno nad yw gadael Cymru i astudio o reidrwydd yn beth negyddol, ond dywedodd fod angen sicrhau bod gan y wlad y cyfleoedd i ddenu pobl yn ôl.

Aeth yntau i Brifysgol Rhydychen i astudio Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg, gan nad oedd cyrsiau tebyg ar gael yng Nghymru ar y pryd, ond dywedodd mai dychwelyd i Gymru oedd ei “fwriad o’r cychwyn”.

Mae’n credu bod angen mwy o gydweithio rhwng prifysgolion Cymru, yn ogystal â chysylltiadau cryfach rhwng y sector addysg a busnesau.

“Does dim unrhyw broblem ‘da fi gyda phobl yn dewis mynd i’r brifysgol ble bynnag maen nhw eisiau, neu pobl yn gwneud gyrfa ble maen nhw eisiau hefyd, ond mae Cymru wir angen y capasiti.

“Mae gyda ni bob prifysgol yn cystadlu yn hytrach na gallu cael strategaeth genedlaethol gwbl eglur ynglŷn â ble ni’n rhedeg pa gyrsiau a sut ni’n anelu at gael pob un o’r llefydd ‘na yn anelu at fod yn y top 10% yn y byd.

“Mae’r system yn un o gystadleuaeth yn hytrach na chydweithio.

Dywedodd hefyd bod problem strwythurol yng Nghymru, gan nad oes llawer o gwmnïau Cymreig â phencadlysoedd yma.

“Mae swyddi uwch yn y sector preifat yn denau yng Nghymru, ac mae hwnna yn creu problem delwedd,” meddai.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x