gallai-toriadau-prifysgol-aberystwyth-fod-yn-‘ergyd-ofnadwy’-i’r-dref
Home / Wales / Gallai toriadau Prifysgol Aberystwyth fod yn ‘ergyd ofnadwy’ i’r dref

Gallai toriadau Prifysgol Aberystwyth fod yn ‘ergyd ofnadwy’ i’r dref

Gallai toriadau Prifysgol Aberystwyth fod yn ‘ergyd ofnadwy’ i’r dref


Yn ôl Dr Emma Sheppard, o gangen Aberystwyth Undeb UCU Cymru, mae “enaid y dref” yn dod o gael prifysgol yno, ac mae’n rhybuddio am yr effaith ehangach ar yr economi leol.

“Mae ‘na bryder mawr… yn y dref ac yn ehangach hefyd,” meddai.

“Mae cymaint o enaid y dref yn dod o gael prifysgol yma, a’r holl bethau eilradd, y tafarndai, y siopau, pethau felly yn cael eu cynnal o gael poblogaeth o fyfyrwyr sy’n dod mewn yn gyson… felly mae am gael effaith fawr, a dyna beth ni fwya’ crac amdano.”

Ychwanegodd eu bod hefyd yn anhapus am y bygythiad i swyddi a’r straen posibl ar staff yn sgil yr ailstrwythuro.

“Ni’n grac oherwydd yn amlwg mae’n swyddi ni dan fygythiad, a’n bywoliaeth ni dan fygythiad, ond hefyd [yn teimlo’n] drist oherwydd mae hon yn brifysgol wych, yn lle gwych i weithio, ac yn lle gwych i fyw.

“Mae wir yn teimlo fel bod y brifysgol yn cael ei gwanhau, felly mae ‘na dristwch hefyd ymhlith fy nghydweithwyr.”

Mae undeb yr UCU yn galw am gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod “sefyllfa ariannol y sector addysg uwch yn heriol tu hwnt, ac mae’n bosibl y bydd rhai prifysgolion, fel sefydliadau hunanlywodraethol, yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i warchod eu cynaliadwyedd ariannol”.

Ychwanegodd eu llefarydd: “Ry’n ni’n cydnabod y pryder y bydd llawer o fyfyrwyr a staff Aberystwyth yn ei deimlo, ac yn disgwyl i brifysgolion weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar unrhyw gynlluniau ailstrwythuro.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x