‘Y bois wedi ‘neud hanes a chlywed Hymns and Arias yn wefr’

Doedd Max Boyce erioed wedi clywed ‘Hymns and Arias’ yn cael ei chanu fel y cafodd hi “yn neng munud ola'” y gêm
GanGwydion Edwards a Harri EvansITV Cymru Fyw
Wrth i’r dathliadau barhau ar ôl trechu Seland Newydd ddydd Sadwrn mae nifer o gefnogwyr amlwg wedi bod yn ymateb i’r perfformiad hanesyddol.
Ar Dros Frecwast dywedodd y canwr Max Boyce a chyfansoddwr y gân ‘Hymns and Arias’, nad oedd erioed wedi clywed y gân yn cael ei chanu fel y cafodd hi “yn neng munud ola'” y gêm.
“O’dd hi’n wefr i fi ac i’r tîm,” meddai Max.
“Dwi wedi dechrau ‘sgwennu ryw bwt o gân wedi’i seilio ar hen ddihareb Gymreig ti’n gwybod: ‘Hir yw pob aros’.
“‘Na beth oedd yn ‘neud gwahaniaeth,” meddai Max, gan ddweud na fydd unrhyw un “byth yn anghofio’r gêm ‘na”.

Bu cefnogwyr Cymru, fel Dan Edwards uchod, yn dathlu’r fuddugoliaeth ‘ gydol y nos
Mae buddugoliaeth yn erbyn y Crysau Duon yn golygu cymaint “achos ni’n meddwl y byd am rygbi a Seland Newydd – rheiny yw’r gorau ers cyfnod hir nawr”.
“Y ffaith bo’ ni wedi curo pawb arall, ond byth wedi curo’r Crysau Duon, mae ‘na dipyn o barch rhwng y ddwy wlad ac ma hwnna’n bwysig hefyd fi’n credu.
“Hir yw pob aros,” meddai Max Boyce.
“Gobeithio nawr bydd cefnogwyr yn mynd ddydd Sadwrn a bod yna ddim seti gwag fel dydd Sadwrn diwethaf.
“Mae cyfle nawr i aildrefnu yr holl gêm yng Nghymru achos un gêm yn erbyn Seland Newydd.”
Ychwanegodd Max Boyce fod “y bois hyn wedi gwneud hanes”.
Gwesteion priodas yn dathlu buddugoliaeth Cymru v Seland Newydd
Bydd llawer o bobl yn cofio ble’r oedden nhw brynhawn Sadwrn ond neb yn fwy na gwesteion priodas Lowri Williams a Jac Davies.
Mae fideo ohonyn nhw’n gwylio’r gêm fawr yn ystod y brecwast priodas wedi cael tipyn o sylw ar-lein.
Y ffotograffydd yn y briodas oedd Rhian Jones o Rydaman ac wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd bod gweld hanes yn cael ei greu ar y diwrnod yn “anhygoel”.
“Wrth lwc oedd o yn ystod y brecwast priodas felly oedd o’n iawn ac i fod yn deg o’n i’n edrych ar y ffôn hefyd,” meddai.
“Roedd pawb ar binnau yn meddwl ‘na, galle hanes ddim ei wneud heddi’.
“Roedd y dathliad yn anhygoel, allai ddim rhoi geiriau iddo fe. Fi’n mynd trwy’r lluniau nawr, oedd o’n grêt.”

Doedd hi ddim i fod i’r Crysau Duon ddydd Sadwrn, er gwaethaf perfformio’r Haka
Dywedodd cyn-gefnwr Cymru, Kevin Morgan, bod perfformiad Cymru yn “anhygoel” ddydd Sadwrn.
“Doedd bron i neb yn meddwl y gallen ni gael buddugoliaeth – sioc, o’dd yr 20 munud olaf yn hunllef.
“‘O chi ddim eisiau edrych ar y bêl ond ‘o chi ffili tynnu eich llygaid oddi ar y gêm. Odd y nerfau mewn shreads erbyn y diwedd!” Meddai Kevin ar Dros Frecwast.
Esboniodd fod yn “rhaid i ni ymosod yn gyson” er mwyn ennill, a’i bod hi’n “grêt gweld” Cymru yn cymryd eu cyfleoedd.
Dathlu buddugoliaeth Cymru mewn bar ym Mhatagonia – fideo Teithiau Patagonia
Roedd Tudur Owen gyda chriw mewn “tafarn groesawgar” ym Mhorth Madryn, Patagonia, a dywedodd ei bod hi’n gêm “anodd ei disgrifio”.
“Mae o’n anodd i roi mewn geiria’, y perfformiad – rhywbeth ‘neith aros yn y cof am byth ac ma’n llais i’n gwegian bore ‘ma.
“Mi oedd ‘na ddathliada’ ar ôl i’r bêl ‘na gael ei chicio i’r dorf, mi ath y dathliada’ yn eu blaen tan oria’ mân y bora,” ychwanegodd y digrifwr.
Yr ymateb o Seland Newydd
Mae’r cyn-ohebydd chwaraeon, Dewi Preece, yn byw yn Wellington, Seland Newydd, erbyn hyn a dywedodd fod y bobl draw yno “yn dechrau dod dros sioc y canlyniad”.
“Be’ sy’n neis i weld ydy does neb yn cymryd dim byd i ffwrdd o berfformiad Cymru.
“Ma’ pobl i weld yn sylwi mai Cymru nath berfformio i lefel nath neb ddisgwyl – yn sicr ddim yma yn Seland Newydd a dwi’n siŵr n’ôl adref yng Nghymru hefyd.
“Ma lot o glod wedi cael ei roi ar ddrws Cymru,” meddai, gan ychwanegu bod y Crysau Duon yn wynebu cwestiynau anodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







