dros-hanner-plant-cymru-ddim-yn-gwneud-digon-o-ymarfer-corff-–-arolwg
Home / Wales / Dros hanner plant Cymru ddim yn gwneud digon o ymarfer corff – arolwg

Dros hanner plant Cymru ddim yn gwneud digon o ymarfer corff – arolwg

Dros hanner plant Cymru ddim yn gwneud digon o ymarfer corff – arolwg


plant yn chwarae pel-droed

Disgrifiad o’r llun,

Dyw 66% o blant Cymru ddim yn cymryd rhan mewn chwaraeon clwb yn rheolaidd, yn ôl arolwg newydd

Dyw mwy na hanner plant Cymru ddim yn gwneud digon o ymarfer corff, yn ôl arolwg newydd.

Mae Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026 Chwaraeon Cymru yn dangos nad yw 66% o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd.

Yn ôl Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, mae yna “anghydraddoldebau” yn bodoli, gydag incwm teuluol a hil yn chwarae rhan.

Mae’r corff yn galw am “newidiadau radical a brys” gan Lywodraeth Cymru i wneud chwaraeon yn haws i gael mynediad ato.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn cydnabod y pryderon a godwyd yn yr adroddiad a bod iechyd plant yn bwysig iawn iddyn nhw.

Eleni fe ymatebodd 122,000 o ddisgyblion o 1,000 o ysgolion i arolwg blynyddol gan Chwaraeon Cymru yn holi sut mae plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon a’u dealltwriaeth o fod yn iach.

Dangosodd fod 66% o blant ddim yn cymryd rhan mewn chwaraeon clwb yn rheolaidd, hynny yw chwaraeon mewn clybiau cymunedol neu ysgol.

Yn ôl y corff, mae “pryderon yn cynyddu ynghylch goblygiadau negyddol hyn o ran ffactorau iechyd, cymdeithasol a datblygiad ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol”.

Angen ‘newidiadau sylfaenol’ i’n darpariaeth chwaraeon

Mae’r arolwg hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod mwy na 256,000 o blant eisiau cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon neu rai newydd.

Mae Chwaraeon Cymru bellach yn galw am “newidiadau radical a brys i wneud hyn yn bosibilrwydd”.

Maen nhw hefyd am weld Llywodraeth Cymru yn rhoi chwaraeon “wrth galon” eu gweledigaeth newydd ar gyfer Cymru.

Noda’r arolwg bod yna “anghydraddoldebau” yn bodoli rhwng plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a rhai sydd ddim.

Mae lle mae plant yn byw, incwm teuluol, anabledd, rhywedd, hil, a mynediad at gyfleoedd fforddiadwy’n parhau i ddylanwadu ar allu plant i gymryd rhan.

Tanni Grey-Thompson

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Tanni Grey-Thompson, mae ‘na “angen dybryd” am newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n darparu chwaraeon i bobl ifanc

Yn ôl Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Brian Davies mae gormod o blant “yn dal i golli cyfleoedd”.

“Mae angen i chwaraeon, ysgolion, iechyd, cymunedau, trafnidiaeth, partneriaid lleol a llywodraeth ddod at ei gilydd a gweithio’n wahanol. Rhaid i chwaraeon fod yn haws cael mynediad iddyn nhw, mewn mwy o lefydd a thrwy fwy o ddarparwyr – gan gynnwys darparwyr llai traddodiadol,” meddai.

Mae Cadeirydd Chwaraeon Cymru, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, yn galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu” ar y wybodaeth sydd wedi’i rhannu gan bobl ifanc.

“Fe allwn ni wneud y newidiadau sylfaenol i’r ffordd rydyn ni’n darparu chwaraeon – newidiadau sydd eu hangen yn ddybryd er mwyn galluogi pob person ifanc i fyw bywyd actif.”

Rhodri Thomas

Disgrifiad o’r llun,

Mae “lot o ffactorau” yn dod mewn i’r rhesymau pam nad yw cymaint o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i’r ysgol

Roedd canlyniadau’r arolwg yn syndod i Rhodri Thomas, pennaeth adran addysg gorfforol Ysgol Bryntawe.

“Wrth edrych ar y darlun yma ym Mryntawe, fydde ni’n dweud bod nifer o’r disgyblion yn actif yn y gwersi ac yn gwneud llawer o bethau y tu allan i’r ysgol,” meddai.

“Ma’ ‘na heriau – wrth gwrs ma’ cyfleusterau arbennig gyda ni, a chyfleoedd arbennig o dda yn cael eu darparu – ond mae apelio i bawb yn gallu bod yn her.

“Mae nifer o ddisgyblion yn mwynhau chwaraeon ac yn gwneud lot o ddydd i ddydd ac wythnos i wythnos, mae eraill sy’n mwynhau yn y gwersi ond ddim yn cymryd cymaint o ran y tu allan i’r gwersi.”

Ychwanegodd fod nifer o ffactorau yn debygol o effeithio ar y nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon: “Mae ‘na heriau ariannol, mae’r cyfleusterau sy’n yr ardal yn effeithio ar hynny, ac mae technoleg a faint o amser mae plant yn ei dreulio ar eu ffonau ac ati yn sicr yn cael effaith hefyd.”

Osian (chwith), ioan

Disgrifiad o’r llun,

Mae Osian (chwith) ac Ioan yn mwynhau cymryd rhan mewn sawl math o chwaraeon y tu allan i’r ysgol

Er eu bod yn cydnabod rhai o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc, roedd y ffigyrau hefyd yn syndod i rai o ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Bryntawe.

Dywedodd Osian ei fod yn hoff iawn o gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon y tu allan i’r ysgol.

“Mae’r rhan fwyaf o’n ffrindiau i yn cymryd rhan mewn chwaraeon o ryw fath – pêl-droed neu rygbi, felly mae’n syndod bod dim lot o bobl yn,” meddai.

“Ma’ fe’n gallu bod yn gostus, ma’ lot o bobl yn cael heriau yn talu am kit a phethau gwahanol.. a ni’n ffodus bod nifer o lefydd ni’n gallu mynd i chwarae yn lleol.”

Yn ôl Ioan, y broblem fwyaf yw effaith technoleg a faint o amser mae pobl ifanc yn ei dreulio ar ffonau symudol.

Siwan (chwith), Elin , Maiwen

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Maiwen (dde), mae plant yn dueddol o ddilyn diddordebau eu ffrindiau a bod troi at ddiddordebau eraill yn digwydd yn naturiol wrth fynd yn hŷn

Dywedodd Siwan fod dod o hyd i’r balans rhwng gwaith ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn gallu bod yn her weithiau.

“Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn i gael amser i ymlacio a chael amser i gael meddwl chi oddi ar yr holl waith ysgol a straen,” meddai.

Mae Elin, sy’n dawnsio ac yn gwneud gymnasteg yn gyson y tu allan i’r ysgol, yn deall pam ei bod hi’n anodd i lawer o bobl fynd i glybiau chwaraeon ar ôl ysgol.

“Mae e’n llawer mwy normal nawr i bobl aros mewn yn y nos ar eu ffonau… ond dwi’n meddwl bod angen ystyried bod rhai yn gwneud chwaraeon sydd ddim mewn clwb sydd ddim yn cael ei gofnodi yn yr un ffordd.”

Ychwanegodd Maiwen nad yw hi’n gwneud llawer o ymarfer corff, heblaw cerdded, ers iddi orffen gwersi addysg gorfforol yn yr ysgol.

“Wi’n credu bod e amdano diddordeb a ffrindiau, wi’n sylweddoli nawr bod mwyafrif o’n ffrindiau i mewn i’r celfyddydau, felly fi mewn clybiau fel y côr neu drama yn lle pêl-droed.

“Mae plant yn aml jest yn dilyn eu ffrindiau nhw i beth ma’ nhw moyn neud.”

‘Uchelgais i Gymru ddod yn bwerdy diwylliannol a chwaraeon’

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae iechyd plant yn bwysig iawn i ni ac rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd yn yr adroddiad hwn.

“Mae atal salwch wrth wraidd ein rhaglen ar gyfer llywodraeth, ac mae cefnogi plant a phobl ifanc i fod yn fwy egnïol yn chwarae rhan bwysig.

“Rydym yn cyflwyno rhaglenni ataliol i gynyddu lefelau gweithgaredd, gan gynnwys trwy Milltir y Dydd / Milltir Egnïol mewn ysgolion. Mae gennym hefyd Weinidog dynodedig dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, sy’n tanlinellu ein bod o ddifri yn ymgorffori gwaith ataliol a hyrwyddo iechyd cyhoeddus ar draws y llywodraeth.

“Mae gennym eisoes uchelgais i Gymru ddod yn bwerdy diwylliannol a chwaraeon, gyda chwaraeon wrth wraidd hyn, ac rydym yn gweithio ar strategaeth newydd sy’n cynnwys partneriaid – gan gynnwys Chwaraeon Cymru – gyda galwad am dystiolaeth sydd ar agor tan 18 Rhagfyr.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x