Mewn datganiad brynhawn Mawrth, dywedodd Dan Thomas: “Ar 13 Medi, cefais fy ngwneud yn destun honiadau ffug a dwi wedi bod yn cydweithredu’n llawn â’r heddlu.
“Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod yn dod â’r ymchwiliad i ben, heb gymryd camau pellach.
“Pan ddechreuodd hyn, mi ddywedais i nad oeddwn i wedi gwneud unrhyw beth o’i le. Mae’r cyhoeddiad yma yn brawf o hynny.”
Fe ddiolchodd i’w blaid ac i Nigel Forage a Helen Jenner yn benodol gan ddweud eu bod wedi dangos “cefnogaeth arbennig”.
“I’n nheulu a phobl y Coed-duon, fy nhref enedigol, diolch am sefyll wrth fy ochr.
“Mae’r etholwyr sydd wedi fy stopio ar y stryd i ddymuno’n dda wir wedi rhoi nerth i mi yn ystod y cyfnod yma.”
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn “cymryd unrhyw honiadau o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy’n rheoli neu’n gorfodi person arall o ddifrif” a’u bod wedi cynnal “ymchwiliad trylwyr” i’r mater.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







