diffyg-ymgynghori-ar-gynllun-natur-yn-‘siom’-i-ffermwyr-dyffryn-ogwen
Home / Wales / Diffyg ymgynghori ar gynllun natur yn ‘siom’ i ffermwyr Dyffryn Ogwen

Diffyg ymgynghori ar gynllun natur yn ‘siom’ i ffermwyr Dyffryn Ogwen

Diffyg ymgynghori ar gynllun natur yn ‘siom’ i ffermwyr Dyffryn Ogwen


Ieuan Wyn

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth pobl yr ardal i wybod am y cynllun gyntaf drwy ddatganiad i’r wasg, yn ôl Ieuan Wyn

GanNia Thomas

Gohebydd rhaglen Ffermio S4C

Mae grŵp ymgyrchu wedi ei sefydlu yn Nyffryn Ogwen yn sgil pryderon am gynllun amgylcheddol newydd sydd wedi ei gyflwyno heb, fe honnir, unrhyw ymgynghori â ffermwyr yr ardal.

Mae deg o fudiadau eraill – yn cael eu harwain gan Undeb Amaethwyr Cymru – wedi anfon llythyr agored at yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n gyfrifol am y cynllun, yn ategu’r pryderon.

“Mae’n fater difrifol iawn… Doedd neb yn gwybod dim yn Nyffryn Ogwen nac yn y Nant am y cynllun,” meddai Ieuan Wyn, sydd wedi bod yn cydlynu ymdrechion y grŵp Dyfodol i Ffermydd Defaid Eryri.

Dadlau mae’r ymddiriedolaeth bod y cynllun Natur i Bobl wedi ei gyflwyno oherwydd dirywiad ecolegol difrifol yn Nant Ffrancon ac y bydd digon o gyfle i bawb yn yr ardal – gan gynnwys ffermwyr – i gyfrannu syniadau yn y dyfodol.

Ar eu gwefan, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud mai nod cynllun Natur i Bobl yw “ceisio adfer byd natur ar raddfa eang dirweddol”, dolen allanol.

“Mae cynefinoedd wedi dod yn rhanedig ac mae rhai o rywogaethau Cymru sydd fwyaf dan fygythiad… mewn perygl o ddiflannu. Gan weithio ar y cyd â chymunedau lleol, ffermwyr tenant, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner… mae clytwaith o dros 1,635 hectar o gynefinoedd yn cael ei hadfer a’i diogelu,” meddai’r corff.

Ond fe ddywedodd Ieuan Wyn fod ffermwyr yr ardal “wedi cael ein siomi” gan yr ymddiriedolaeth.

“Maen nhw wedi llunio cynllun a derbyn miliwn o bunnau heb ymgynghori,” meddai.

“Darllen datganiad yn y wasg wnaeth pobl yr ardal – dyna pryd gawson ni wybod yn gyntaf am y cynllun.”

Trystan Edwards

Disgrifiad o’r llun,

Mae Trystan Edwards o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud fod amaeth yn bendant “yn rhan o ddyfodol yr ardal”

Ar raglen Ffermio S4C, dywedodd Trystan Edwards ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei fod yn derbyn y feirniadaeth nad oedd digon o amser i ymgynghori’n llawn ag amaethwyr lleol.

Esboniodd fod yr amser i baratoi’r cais ar gyfer yr arian i dalu am y cynllun yn brin.

“Dwi’n cydnabod fod angen i ni sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn y drafodaeth. Rwan mae’r man cychwyn,” meddai.

“Mae’r cynllun yma yn rhoi adnoddau, swyddi, pobl a swyddi inni er mwyn cynnal trafodaethau nid yn unig hefo ffermwyr ond hefo’r cymunedau eang.”

Arwel a Meurig Roberts

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwel a Meurig Roberts yn poeni bod polisïau’r ymddiriedolaeth yn cael effaith ar ffermio mynydd yr ardal

Mae ffermwyr lleol hefyd yn pryderu fod yr ymddiriedolaeth yn anwybyddu traddodiadau ffermio’r ardal, yn arbennig ffermio defaid cynefin.

Dull o ffermio mynydd yw hwn lle mae’r defaid wedi dysgu pori darn penodol o dir heb yr angen am derfyn. Mae’r arferiad yna yn cael ei basio o’r ddafad i’r oen.

Mae’r brodyr Arwel a Meurig Roberts yn ffermio ger Llyn Ogwen ac yn berchen ar eu ffermydd eu hunain.

Ond maen nhw’n dweud bod polisïau’r ymddiriedolaeth yn Nant Ffrancon yn cael effaith ar ffermio mynydd yr ardal yn gyffredinol.

“‘Dan ni’n gweld nifer y defaid yn mynd o ffermydd y National Trust – felly ‘dan ni’n colli ein cymdogion i fynd i gasglu mynyddoedd ein hunain,” meddai Meurig Roberts.

“Gan fod y ddafad yn mynd o’r dirwedd mae defaid eraill yn crwydro ac wedyn mae’n cael effaith lot mwy eang mewn ffordd.”

Richard a Jên Temple Morris

Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Temple Morris yn aelod o’r grŵp ymgyrchu newydd gan ei fod yn poeni am effaith y cynllun

Un arall sy’n pryderu ydi Richard Temple Morris – sy’n ffermio ger Bethesda ac yn pori defaid ar y Carneddau. Mae rhan helaeth o’r Carneddau hefyd yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

“‘Dan ni’n poeni dipyn de yn gweld nhw’n gwagio’r Nant yma o ddefaid. Lle maen nhw yn mynd i stopio wedyn de?” meddai Richard, sydd hefyd yn aelod o’r grŵp ymgyrchu newydd.

Ac mewn llythyr agored at yr ymddiriedolaeth mae deg o fudiadau eraill yr un mor bryderus.

“Mewn ardal sy’n doreithiog o ran diwylliant, traddodiadau a hanes Cymreig a luniwyd gan genedlaethau o weithgarwch amaethyddol, mae camau diweddar a gymerwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn fwriadol neu’n anfwriadol, yn tanseilio rheolaeth diadelloedd wedi eu cynefino o ddefaid mynydd Cymreig gan ddefnyddio arferion traddodiadol,” noda’r llythyr.

“Mae newidiadau o’r fath yn bryder sylweddol i bob un ohonom.”

Yr ymddiriedolaeth ‘ddim am lwyddo heb amaeth’

Mae Trystan Edwards o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn mynnu y bydd amaeth yn parhau i fod yn rhan allweddol o ddyfodol Nant Ffrancon.

“Mae’n annatod bod amaeth yn rhan o’r dyfodol fan hyn,” meddai.

“Mi faswn i’n hoffi pwysleisio fod pori – a phori cymysg defaid a gwartheg – yn fwy o hanes traddodiad yr ardal yma.

“Dwi ddim isio pobl bryderu nad yda’ ni’n meddwl fod amaeth yn rhan o’r dyfodol.

“Dyda’ ni ddim yn mynd i fedru llwyddo i gadw’r tirlun fel mae o a chael cadwraeth ar ei orau heb amaeth.”

Bydd rhaglen Ffermio ar gael i’w wylio ar S4C am 21:00 nos Lun, 23 Tachwedd ac yna ar ITV iplayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x