dedfryd-dyn-o-lanelwy-wnaeth-gam-drin-ei-gyn-bartner-yn-‘anaddas’
Home / Wales / Dedfryd dyn o Lanelwy wnaeth gam-drin ei gyn-bartner yn ‘anaddas’

Dedfryd dyn o Lanelwy wnaeth gam-drin ei gyn-bartner yn ‘anaddas’

Dedfryd dyn o Lanelwy wnaeth gam-drin ei gyn-bartner yn ‘anaddas’


John GizziFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gizzi ei garcharu yn y gorffennol am arwain gang cyflenwi cyffuriau

Mae ‘na alwadau i ailedrych ar ddedfryd dyn o Sir Ddinbych a gafodd ei garcharu’r wythnos diwethaf am ymddygiad “dychrynllyd” tuag at ei gyn-bartner.

Cafodd John Gizzi, 55, o Lanelwy, ddedfryd o bedair blynedd ac 11 mis dan glo ar ôl pledio’n euog i reoli ei gyn-bartner drwy orfodaeth, a thagu ei chwaer yn fwriadol.

Mae swyddfa’r Twrnai Cyffredinol wedi cadarnhau fod nifer o geisiadau wedi’u cyflwyno i ymestyn y ddedfryd, gyda chyn-gomisiynydd Heddlu’r Gogledd ymhlith y rhai sydd wedi gofyn i’r ddedfryd gael ei chyfeirio at y Llys Apêl.

Nid oedd Heddlu’r Gogledd na Gwasanaeth Erlyn y Goron am wneud sylw ar y mater ar hyn o bryd.

Cyn y gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau, roedd Gizzi eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiad o reoli Natasha Farah drwy orfodaeth, ac o dagu chwaer Natasha, Samantha Farah yn fwriadol.

Dywedodd y barnwr fod Natasha Farah wedi wynebu ymddygiad “dychrynllyd” gan Gizzi, a’i fod yn un o’r achosion gwaethaf o reoli drwy orfodaeth yr oedd y llys wedi ei glywed erioed.

Y tu allan i’r llys, fe wnaeth ffrindiau a theulu Natasha fynegi dicter ynglŷn â hyd dedfryd Gizzi.

Dywedodd ei mam y byddai hi yn parhau i ymgyrchu yn enw Natasha, i gael dedfrydu hirach mewn achosion o reoli drwy orfodaeth, gan ddisgrifio trais yn erbyn menywod a merched fel “epidemig”.

Arfon Jones

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arfon Jones wedi gofyn i’r Twrnai Cyffredinol ystyried hyd y ddedfryd

Yn ôl Arfon Jones, cyn-gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, mi roedd o’n teimlo fod rhaid gweithredu ar ôl gweld ymateb y teulu y tu allan i’r llys.

“Dwi’m yn meddwl fod y ddedfryd yn addas i amgylchiadau’r troseddu i gymharu â dedfrydau pobl eraill am wneud pethau tebyg,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Ar ôl clywed ymateb y teulu’r wythnos diwetha’ dwi’n meddwl y dyla’ ni gyd ‘neud ‘wbath.

“Dwi wedi anfon cais at y Twrnai Cyffredinol ar y sail bod y ddedfryd ddim yn addas.

“…Dwi wedi anfon y cais dros y penwythnos a dwi wedi rhestru rhesymau pam, ac os ydi’r Twrnai Cyffredinol yn cytuno mi allith o anfon yr achos a’r ddedfryd i’r Llys Apêl, ac mi allen nhw adolygu’r sefyllfa.”

Nic Parry

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y cyn-farnwr, Nic Parry doedd dedfryd Gizzi “ddim yn un ysgafn”

Yn ôl swyddfa’r Twrnai Cyffredinol, maen nhw wedi derbyn nifer o geisiadau mewn cysylltiad â dedfryd John Gizzi.

Bydd gan eu swyddogion 28 diwrnod i’w hystyried a gwneud penderfyniad.

Dwylo’r barnwyr ‘wedi eu clymu’

Dywedodd y cyn-farnwr, Nic Parry ei bod hi’n bwysig fod y cyhoedd yn sylweddoli fod “dwylo’r barnwyr mewn sefyllfaoedd fel hyn wedi eu clymu”.

“Mae ‘na uchafswm dedfryd o bum mlynedd, dyna’r gwir plaen amdani,” esboniodd.

“Mae’r dyn wedi pledio’n euog, mae ganddo hawl statudol i gael gostyngiad o lan at draean falle chwarter – yn sydyn ‘da chi lawr o bum blynedd i riw dair blynedd a phedwar mis, ac mae o ‘di cael pedair blynedd ac 11 mis.

“Oedd mi oedd ‘na drosedd arall, ond fel mae pethe ar hyn o bryd, dydi hi ddim yn ddedfryd ysgafn.”

Dywedodd Heddlu’r Gogledd mai mater i’r llysoedd fyddai unrhyw adolygiad ac na fyddai’n briodol iddyn nhw wneud sylw.

Yn yr un modd doedd gan Wasanaeth Erlyn y Goron ddim sylw ar hyn o bryd – gan ddweud mai mater i swyddfa’r Twrnai Cyffredinol ydi hyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x