dau-ddyn-arall-wedi’u-cyhuddo-mewn-cysylltiad-saethu-yn-nhreforys
Home / Wales / Dau ddyn arall wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad saethu yn Nhreforys

Dau ddyn arall wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad saethu yn Nhreforys

Dau ddyn arall wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad saethu yn Nhreforys


Mae dau ddyn arall wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad yn ymwneud â saethu yn ardal Treforys, Abertawe.

Cafodd swyddogion arfog eu hanfon i’r A48, Heol y Clâs tua 16:15 ddydd Gwener 6 Tachwedd, lle’r oedd car, yn ôl yr heddlu, wedi’i ddifrodi mewn ffordd oedd yn gyson ag effaith ergyd gwn.

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo James Gilheaney, 49, o Lansamlet, o feddu ar arf tanio gyda’r bwriad o achosi ofn trais ac o ymosod drwy guro.

Mae Pio Gilheaney, 21, o Dreforys, wedi’i gyhuddo o ymladd yn gyhoeddus a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant.

Mae’r ddau i ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener ar ôl cael eu cadw yn nalfa’r heddlu.

Yn gynharach yr wythnos hon, ymddangosodd Thomas Patrick Gilheaney, 29, o Lansamlet, yn Llys Ynadon Abertawe wedi i’r heddlu ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Fe wadodd gyhuddiadau o fod ag arf ymosodol, machete yn ôl yr honiad, yn ei feddiant ac o ymladd yn gyhoeddus.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 11 Rhagfyr.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod pedwar dyn arall a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x