darganfod-stori-gudd-am-frenhines-olaf-cymru-yn-nhapestri-bayeux-ar-l-trip-yn-y-fan-i-ynys-mn
Home / Wales / Darganfod stori gudd am Frenhines olaf Cymru yn Nhapestri Bayeux ar l trip yn y fan i Ynys Mn

Darganfod stori gudd am Frenhines olaf Cymru yn Nhapestri Bayeux ar l trip yn y fan i Ynys Mn

Darganfod stori gudd am Frenhines olaf Cymru yn Nhapestri Bayeux ar l trip yn y fan i Ynys Mn

Rich OwenFfynhonnell y llun, Rich Owen

Disgrifiad o’r llun,

Rich Owen a’i fan

GanAnna George

ITV Cymru Fyw

Mae awdur llyfr newydd am frwydr Hastings 1066 a thapestri Bayeux wedi darganfod gwybodaeth newydd am Ealdgyth, Brenhines olaf Cymru.

Yn ôl Rich Owen, awdur y gyfrol, Traitor of 1066, mae Ealdgyth i’w gweld yng ngolygfa 47 y tapestri enwog sy’n cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain tan haf 2027.

Rich Owen yw’r hanesydd cyntaf i gyhoeddi bod Ealdgyth, gwraig Gruffudd ap Llywelyn, a ddaeth wedyn yn wraig i’w elyn sef Brenin Lloegr, Harold II, i’w gweld yn y tapestri.

Ond ei ganfyddiad mwyaf syfrdanol yw fod y tapestri’n dangos bod Brenin Lloegr wedi treisio Brenhines olaf Cymru.

‘Brenin Lloegr wedi treisio Brenhines olaf Cymru’

Eglurodd ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru:

“Wrth gyhoeddi’r llyfr yma dwi braidd yn ofnus i fod yn onest achos fe wnaeth beth ddechreuodd fel taith bersonol yn chwilio am Frenhines Cymru droi mas i fod yn ymchwiliad mwyaf i 1066 ac i’r Bayeux Tapestry.

“Dwi’n credu bod hi’n ymddangos o fewn y frodwaith yma ac mae arbenigwyr hanes, ac arbenigwraig ar y tapestri, yn cytuno.

TapestriFfynhonnell y llun, Rich Owen

Disgrifiad o’r llun,

Golygfa 47 Tapestri Bayeux. Yn ôl Rich mae Brenhines olaf Cymru i’w gweld yma

“Mae hi ar scene 47. Mae ‘na embroidery o fenyw a phlentyn sy’n gadael adeilad sydd ar dân ac mae haneswyr Lloegr yn glir iawn taw denig mae hi.

“Ond dyw hi ddim yn edrych fel bod hi’n denig ac os y’ch chi’n gwybod y stori i gyd a’r cod – y cod sy’n decodio y tapestri – mae’n dod yn amlwg mai Ealdgyth, Brenhines Cymru yw hi, a bod y tapestri’n cuddio stori gudd drwyddi i gyd – sy’n dweud hanes y frenhines a’r brad sydd ynghlwm â’r stori.

“Ac uchel-frâd sy’n high treason, ac fel diweddglo mae’r stori gudd hon yn cyhuddo Harold, Brenin Lloegr o dreisio Brenhines Cymru.”

Darganfod Ealdgyth yn Llyfrgell Llangefni

Bu Rich yn ymchwilio ac yn ysgrifennu’r gyfrol am dros ddegawd cyn penderfynu cyhoeddi’r gyfrol.

Mae’n dweud mai sgwrs gyda’i ffrind a’r hanesydd, y diweddar Siôn Davies wnaeth ei gymell i ysgrifennu’r gyfrol yn y lle cyntaf ac i roi llais i stori Ealdgyth.

Er mwyn gwneud hynny roedd rhaid teithio’r wlad yn ei fan las er mwyn dod o hyd i ffynonellau oedd yn sôn am Ealdgyth, Brenhines Cymru rhwng 1055 ac 1063.

llyfrFfynhonnell y llun, Rich Owen

Disgrifiad o’r llun,

Fe ysbrydolodd llyfr yn Llyfrgell Llangefni Rich Owen i ymchwilio ymhellach i stori Ealdgyth er mwyn cyhoeddi ei gyfrol ei hun

Ond yn Llyfrgell Llangefni y daeth ar draws Ealdgyth am y tro cyntaf.

Meddai: “Oedd e’n llyfr pwysig am ei fod yn cynnwys lluniau o’r tapestri, felly yn Llyfrgell Llangefni ges i hyd i Ealdgyth am y tro cyntaf.

“O’n i wedi mynd ar campervan trip i trial ymgolli yn y stori – rownd Eryri a Sir Fôn – ardaloedd oedd yn bwysig iawn yn y cyfnod yna.

“Gwrddes i â sawl menyw yn Sir Fôn oedd yn ysbrydoledig, ac mae eu hanes nhw’n y llyfr hefyd, gan gynnwys Anti Dodo.

“Dwi hefyd yn ddiolchgar i Gymdeithas Hanes Rhuddlan lle mae Twtil.

“Yn Twtil yn Rhuddlan oedd Gruffudd ac Ealdgyth yn teyrnasu ar Gymru am saith mlynedd fel gwlad annibynnol.”

‘Taith hir yn feddyliol’

Mae Rich yn dweud i’w daith yn ysgrifennu’r gyfrol fod yn daith hir yn gorfforol, wrth fuddsoddi ei amser yn crwydro Cymru, ond hefyd yn daith bersonol anodd.

Eglurodd: “Oedd hi’n daith hir yn feddyliol hefyd achos oedd Siôn wedi cael diagnosis o ganser hanner ffordd drwyddo’r daith, ac o’n i wedi ‘neud addewid y bydde ni’n dod o hyd i Ealdgyth.

“Oedd hynna yn rhoi lot o bwysau yn feddyliol ar y daith er mwyn bennu y daith hefyd – i ffeindio be’ oedd tygned Ealdgyth ar ôl 1066 achos mae arbenigwyr o Loegr yn credu iddi gael ei lladd yn 1066.

“Ond ffeindion ni dystiolaeth ei bod hi yn fyw yn 1066 a dwi’n gobeithio bo’ ni wedi ffeindio lle gafodd hi ei chladdu i lawr yn Ffrainc.”

Y diweddar Siôn DaviesFfynhonnell y llun, Teulu’r diweddar Siôn Davies

Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Siôn Davies

Mae’n gobeithio hefyd bod cyhoeddi hanes Ealdgyth yn rhoi llais teilwng iddi yn hanes Cymru.

Eglurodd: “Gofynnodd Siôn bedwar cwestiwn i fi cyn iddo ddweud wrtha i fod e wedi cael diagnosis.

“Gofynnodd e, ‘Wyt ti’n Gymro?’ Wedes i ydw. ‘Wyt ti’n Gymro prowd?’ Wedes i ydw.

“Wedodd e, ‘Beth yw enw Brenin a Brenhines ola’ Cymru ac fe enwes i siwt gymaint o bobl o’n i’n meddwl oedd yn candidates drwy be o’n i’n meddwl o’n i wedi dysgu yn yr ysgol ond doedd yr ateb ddim yn gywir.

“Felly fe ofynnodd e, ‘Sut wyt ti’n teimlo bo’ ti ddim yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn ola?, a wedes i cywilydd i fod yn onest.”

Ymateb

Mae Rich yn cydnabod na fydd pawb yn derbyn yr hyn mae’n honni’n y gyfrol.

Eglurodd: “Mae ‘na gysgodion tywyll yn hanes bob gwlad, ac mae hon yn gysgod tywyll ar hanes Cymru a Lloegr.

“Mae’r gyfrol newydd ei chyhoeddi ond dwi wedi cael bach o ymateb Cymdeithas Hanes Sussex.

“Maen nhw’n eitha crac achos mae nhw’n clodfori Harold fel arwr diwetha Anglo-Saxon Lloegr.

“Mae’r llyfr yn cyhuddo fe o fod yn fradwr a dyw’r cyhuddiad ei fod e wedi treisio Brenhines olaf Cymru ddim yn eistedd yn gyffroddus iawn gyda nhw.

“Ond fel’na mae hanes yn cael ei ‘sgwennu, i siwtio pwy bynnag sy’n sgwennu fe, a dyw hanes am Frenhines ola’ Cymru ddim wedi cael ei ‘sgwennu erioed o’r blaen.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x