cynllun-newydd-i-geisio-dod-gofal-mewn-coridorau-ysbyty-i-ben
Home / Wales / Cynllun newydd i geisio dod gofal mewn coridorau ysbyty i ben

Cynllun newydd i geisio dod gofal mewn coridorau ysbyty i ben

Cynllun newydd i geisio dod gofal mewn coridorau ysbyty i ben


Gofal brysFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynnydd yn sgil y cynllun newydd yn cael ei adrodd yn gyhoeddus bob blwyddyn, cyn cynnal adolygiad llawn yn 2030

GanOwain Clarke

Gohebydd ITV Cymru

Dod â gofal mewn coridorau i ben erbyn 2029 a helpu cleifion i ddychwelyd adref o’r ysbyty o fewn 72 awr.

Dyna rai o’r amcanion sydd wedi’u hamlinellu mewn cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau gofal brys.

Mae’r cynllun yn cydnabod bod gormod o bobl yn wynebu oedi hir ac yn cael profiadau gwael, ac yn nodi cyfres o dargedau i’w cyrraedd dros bum mlynedd er mwyn cyflymu gofal a sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd adref yn gynt.

Bydd mesurau perfformiad newydd hefyd yn cael eu cofnodi o’r gwanwyn nesaf, a bydd £23m o gyllid yn cael ei glustnodi ar ei gyfer.

Mae’r cynllun yn cael ei gyhoeddi ar ôl i’r corff sy’n cynrychioli meddygon brys rybuddio bod cleifion yn cael eu “niweidio” ac yn cael “profiad ofnadwy” oherwydd bod unedau brys dan eu sang.

Pam mae angen newid?

Mae’r cynllun yn nodi problemau a all gael effaith ddifrifol ar ddiogelwch, urddas, annibyniaeth ac adferiad cleifion, yn enwedig pobl hŷn a phobl fregus.

  • Oedi cyn trosglwyddo cleifion i’r ysbyty: Mae ystadegau’n awgrymu bod ambiwlansys yn cymryd, ar gyfartaledd, dwy awr a 24 munud i drosglwyddo cleifion ar ôl cyrraedd yr ysbyty, gan arwain at 184,850 o “oriau coll” yn 2025/26.

  • Oedi mewn adrannau brys: Treuliodd cleifion 85 oed a throsodd gyfartaledd o saith awr a 13 munud mewn adran frys cyn cael eu derbyn i’r ysbyty neu eu rhyddhau, tra bod 15% o gleifion o bob oed wedi aros am fwy na 12 awr yn 2025/26.

  • Oedi yn yr ysbyty ac wrth aros am ofal: Bu’n rhaid i 62,346 o bobl a gafodd eu derbyn i’r ysbyty mewn argyfwng aros yno am fwy na 21 diwrnod yn 2025/26, ac ar unrhyw adeg mae tua 1,400 o gleifion yn aros mewn gwelyau er eu bod yn ddigon iach yn feddygol i adael.

Achosodd oedi o fwy na 48 awr wrth ryddhau cleifion 345,000 o “ddiwrnodau gwely coll” i’r gwasanaeth iechyd, ac amcangyfrifir bod y gost yn gyfanswm o tua £172m, gan fod pob gwely yn costio rhwng £500 a £600 y dydd.

ward ysbytyFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

Un o gerrig milltir allweddol y cynllun yw dileu gofal mewn coridorau erbyn 2029

Beth mae’r cynllun yn ei gynnwys?

Tra bod targedau presennol yn mesur rhannau o daith y claf, er enghraifft faint o amser mae’n ei gymryd i ambiwlans gyrraedd neu faint o amser mae pobl yn aros mewn uned frys, bydd y cynllun hwn yn gosod nodau ar gyfer y “daith gyfan” o safle’r argyfwng, drwy’r driniaeth ac ymlaen at wella gartref.

Mae’n dweud, er bod gwasanaethau ysbyty yn parhau’n “hanfodol”, y dylai pobl fynd yno dim ond pan fo angen gofal arbenigol arnynt, ac y dylent aros yno am y cyfnod byrraf sy’n glinigol angenrheidiol.

Lle bo angen i glaf fynd i’r ysbyty, mae’r cynllun yn canolbwyntio ar sicrhau mynediad cyflym at wasanaethau lle mae amser yn hanfodol, fel gwasanaethau strôc a chalon, yn ogystal â throsglwyddo cleifion yn ôl adref yn ddiogel ac yn gyflym.

Mae’r cynllun yn cynnwys chwe maes gwaith, gyda cherrig milltir i’w cyrraedd yn 2027, 2028 a 2029, ac adolygiad i’w gynnal yn 2030.

Un o’r cerrig milltir allweddol yw dileu gofal mewn coridorau neu mewn mannau anaddas eraill erbyn 2029.

Mabon ap Gwynfor

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, fod angen gwella mynediad at driniaeth a helpu cleifion i ddychwelyd adref yn gynt

Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor: “Pan fydd rhywun angen gofal brys, dylent wybod y bydd cymorth yn dod yn gyflym, y byddant yn cael y gofal cywir, ac y byddant yn treulio dim ond cyhyd yn yr ysbyty ag sydd ei angen.

“Nid oes digon o bobl yn profi hyn yn gyson heddiw, ac mae’n rhaid i hynny newid.

“Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn gwneud hynny, gyda mwy o ofal yn nes at adref, asesiad a thriniaeth gyflymach, a gwell cymorth i helpu pobl i fynd adref yn gynt.”

Ychwanegodd fod angen “gosod uchelgais glir i ddileu gofal mewn coridorau drwy wella llif cleifion a sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle iawn, heb arosiadau y gellid eu hosgoi mewn coridorau ysbytai”.

Mae’r corff sy’n cynrychioli meddygon brys wedi rhybuddio droeon bod cleifion yn dioddef niwed oherwydd eu bod yn cael eu trin mewn mannau anniogel mewn adrannau brys.

Wrth siarad ar raglen Politics Sheepland ddydd Sul, rhybuddiodd Dr Katja Empson o Goleg Brenhinol y Meddygon Brys fod gormod o gleifion yn cael profiadau “ofnadwy”.

Gan bwysleisio bod staff yn gweithio’n eithriadol o galed, dywedodd ei bod yn “anodd darparu gofal yn y ffordd gywir i gleifion”.

“Mae ein cleifion yn cael profiad ofnadwy drwy’r system gofal brys,” ychwanegodd.

“Maen nhw’n aml yn treulio amser hir iawn yn aros am wely, ac yn aml mewn ardal amhriodol iawn.

“Rydym yn achosi niwed oherwydd oedi yn yr adrannau achosion brys.”

Dywedodd fod hyn oherwydd bod ysbytai’n llawn a bod nifer fawr o’r gwelyau’n cael eu defnyddio gan bobl a oedd yn barod i gael eu rhyddhau.

Dychwelyd adref o fewn 72 awr

Er mwyn ceisio mynd i’r afael ag oedi hirdymor, mae’r cynllun yn gosod uchelgais i ryddhau cleifion o’r ysbyty o fewn 72 awr.

Er bod y cynllun yn cydnabod na fydd pob claf yn gallu dychwelyd adref o fewn tri diwrnod, mae’n dweud y dylai’r system fod yn ddigon cryf i ganiatáu i hynny ddigwydd lle bo modd.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cleifion yn cael asesiad cynnar gan uwch feddyg, profion diagnostig cyflym a chefnogaeth prydlon gan dimau fferyllol a therapi.

Nod y cynllun yw trin mwy o bobl ar yr un diwrnod, a sicrhau mai dim ond pan fo “gwerth clinigol” y bydd pobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty.

Mae’r cynllun hefyd yn dweud y dylid osgoi dyblygu asesiadau a throsglwyddiadau diangen pan fo claf yn yr ysbyty, ac y dylai gwaith ar adferiad, maeth ac adsefydlu ddechrau’n gynnar ar ôl cwblhau triniaeth, yn rhannol er mwyn osgoi i gyflwr claf waethygu o fod yn segur yn yr ysbyty.

Yn ganolog i’r uchelgais hwn mae sicrhau bod y gwaith o gynllunio ar gyfer trosglwyddo claf yn ddiogel adref yn dechrau o’r eiliad y mae’n cyrraedd yr ysbyty.

deffibriliwrFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

5% o bobl sy’n goroesi ar ôl dioddef ataliad ar y galon yn y gymuned yng Nghymru, o’i gymharu â 8% yn Lloegr a 10% yn Yr Alban

Mae’r cynllun hefyd yn anelu at fynd i’r afael â’r gyfradd isel o bobl sy’n goroesi ar ôl dioddef ataliad ar y galon yn y gymuned.

Mae’n nodi, o’r 2,800 o ataliadau ar y galon sy’n digwydd y tu allan i’r ysbyty bob blwyddyn, mai dim ond un o bob 20 o bobl yng Nghymru, neu 5%, sy’n goroesi.

Mae’r gyfradd yn sylweddol uwch yn Lloegr, sef 8%, ac yn yr Alban, sef 10%.

Mae’r cynllun yn gosod uchelgais i Gymru ddod yn “Genedl o Achubwyr Bywyd” erbyn 2029.

Mae hyn yn cynnwys hyfforddi mwy o bobl i fod yn hyderus wrth gyflawni CPR a chodi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc.

Dylai ymatebwyr cymunedol, clinigwyr ambiwlans a gwasanaethau brys eraill hefyd “weithio fel un”.

Bydd y cynllun hefyd yn archwilio a all technoleg newydd helpu i achub bywydau, gan gynnwys defnyddio dronau i gludo diffibrilwyr, er y bydd angen ystyried yr holl dystiolaeth cyn cymryd unrhyw gam i gyflwyno hynny.

‘Rydw i’n brawf byw bod CPR yn gweithio’

Mae Ed Grant, ymatebydd cymunedol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gafodd ei achub ei hun gan CPR, yn cefnogi’r nod o wneud Cymru yn Genedl o Achubwyr Bywyd.

Mae Grant wedi treulio 50 mlynedd yn gwirfoddoli gyda’r gwasanaethau brys, gan gynnwys gyda gwasanaethau bad achub a Gwylwyr y Glannau, ac mae wedi bod yn ymatebydd cyntaf i’r gwasanaeth ambiwlans am y 12 mlynedd diwethaf.

Mae ymatebwyr cymunedol yn aml yn cyrraedd argyfwng cyn yr ambiwlans, gan ddarparu gofal hanfodol yn ystod y munudau cyntaf.

Mae’n annog mwy o bobl i ddysgu sgiliau achub bywyd, gan ddweud y gall yr hyn sy’n digwydd yn ystod munudau cyntaf argyfwng olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

“Rydw i’n brawf byw bod CPR yn gweithio,” meddai, gan gofio sut y gwnaeth ei wraig ei gadw’n fyw ar ôl iddo ddioddef ataliad ar y galon gartref dair blynedd yn ôl.

“Yn ffodus roedd fy ngwraig yn gwybod CPR oherwydd fy mod wedi ei dysgu hi.

“Fe ddechreuodd CPR arnaf fi, galw’r ambiwlans a galw un o fy ymatebwyr hefyd.”

Gwirfoddolwr GIG - Ed Grant

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ed Grant wedi gwirfoddoli gyda’r gwasanaethau brys ers 50 mlynedd ac mae’n annog mwy o bobl i ddysgu sgiliau achub bywyd

Dywedodd Mr Grant, sydd bellach yn helpu i hyfforddi recriwtiaid newydd, fod ymyrraeth gynnar yn hollbwysig.

Mewn un achos fe helpodd i adfywio menyw oedrannus a oedd wedi dioddef ataliad ar y galon: “Llwyddais i’w chael hi’n ôl, diolch byth.

“Ers hynny, rwy’n cael cerdyn Nadolig ganddi bob blwyddyn yn fy niolch am ei bywyd.”

Targedau newydd

Bydd cynllun gofal brys newydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfres o fesurau a thargedau newydd a fydd yn cael eu cofnodi a’u hadrodd arnynt o’r gwanwyn nesaf.

Bydd y rhain yn ceisio mesur:

  • yr amser a gymerir i adnabod, ymateb, asesu, gwneud diagnosis a darparu triniaeth;

  • cyfraddau goroesi, adferiad, aildderbyn ac osgoi niwed;

  • profiadau pobl o ofal a lefelau gofal mewn coridorau;

  • pa mor effeithiol y mae pobl yn adennill eu hannibyniaeth;

  • unrhyw amrywiadau sy’n gysylltiedig â daearyddiaeth neu ddemograffeg.

Dr Siobhan Lewis

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Siobhan Lewis y bydd y fframwaith newydd yn helpu i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar anghenion unigol cleifion

Bydd cynnydd yn erbyn y cynllun yn cael ei adrodd yn gyhoeddus bob blwyddyn, cyn adolygiad llawn yn 2030.

Dywedodd Arweinydd Clinigol Cenedlaethol gofal i bobl fregus yng Nghymru a Meddyg Ymgynghorol mewn Geriatreg, Dr Siobhan Lewis:

“Rydym eisoes yn gweld effeithiau poblogaeth sy’n heneiddio a phobl sy’n byw gyda nifer o gyflyrau meddygol yn ein hardaloedd gofal acíwt, a dydy’r angen am ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn erioed wedi bod mor fawr.

“Dwi’n teimlo y bydd y fframwaith hwn yn hanfodol wrth gefnogi’r gwaith o ddarparu hynny i bobl Cymru.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x