cymru-yn-colli-oddi-cartref-yn-erbyn-norwy-yng-nghyngrair-y-cenhedloedd
Home / Wales / Cymru yn colli oddi cartref yn erbyn Norwy yng Nghyngrair y Cenhedloedd

Cymru yn colli oddi cartref yn erbyn Norwy yng Nghyngrair y Cenhedloedd

Cymru yn colli oddi cartref yn erbyn Norwy yng Nghyngrair y Cenhedloedd


Roedd Cymru wedi gwneud dechrau addawol i’r gêm ac wedi llwyddo i gyfyngu ar ddylanwad rhai o sêr mwyaf Norwy, gan gynnwys Erling Haaland, am gyfnodau helaeth o’r hanner cyntaf.

Dan James ddaeth agosaf at sgorio i Gymru cyn yr egwyl, ond llwyddodd golwr Norwy, Egil Selvik i’w atal.

Er i Norwy fygwth gyda chiciau cornel a chiciau rhydd, roedd amddiffyn Cymru’n gadarn wrth i’r sgôr aros yn ddi-sgôr cyn yr egwyl.

Dechreuodd yr ail hanner heb unrhyw newidiadau gan y ddau dîm.

Daeth y gôl gyntaf wedi 59 munud wrth i Antonio Nusa roi Norwy ar y blaen.

Yna wedi 68 munud, fe ychwanegodd Andreas Schjelderup ail gôl i Norwy. Cafodd y gôl ei gwirio gan VAR cyn cael ei chaniatáu.

Gadawodd Neco Williams y cae wedi anaf yn ddiweddarach yn yr ail hanner.

Cafodd Cymru gyfleoedd i leihau’r bwlch, gyda Connor Roberts a Rubin Colwill yn dod o hyd i le yn y cwrt cosbi, ond llwyddodd golwr Norwy i arbed eu hergydion.

Llwyddodd David Brooks i daro’r rhwyd wedi 83 munud i wneud hi’n 2-1.

Yn y munudau olaf, cafodd Harry Wilson a Connor Roberts gardiau melyn wrth i Norwy ennill cic gosb.

Camodd Erling Haaland ymlaen i sgorio o’r smotyn a sicrhau buddugoliaeth o 3-1 i’r tîm cartref.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x