cyffro-yn-abersoch-wrth-i-adeilad-yr-hen-ysgol-‘ddod-yn-fyw’-i’r-gymuned
Home / Wales / Cyffro yn Abersoch wrth i adeilad yr hen ysgol ‘ddod yn fyw’ i’r gymuned

Cyffro yn Abersoch wrth i adeilad yr hen ysgol ‘ddod yn fyw’ i’r gymuned

Cyffro yn Abersoch wrth i adeilad yr hen ysgol ‘ddod yn fyw’ i’r gymuned


Yr hwb newyddFfynhonnell y llun, Menter Rabar

Disgrifiad o’r llun,

Mae’r agoriad gan ‘Menter Rabar’ yn digwydd bron bum mlynedd union ers cau’r ysgol

GanGwydion ap Llyr Edwards

BBC Cymru Fyw

Mae bwrlwm yn Abersoch ddydd Sadwrn wrth i hwb cymunedol newydd sbon gael ei agor yn swyddogol, yn dilyn trawsnewid yr hen ysgol yno.

Cafodd Ysgol Babanod Abersoch ei chau yn 2021, ddwy flynedd cyn ei chanmlwyddiant, er gwaethaf ymgyrch i’w chadw ar agor.

Mae’r agoriad gan ‘Menter Rabar’ yn digwydd bron bum mlynedd union ers hynny a’r weledigaeth yw rhedeg caffi newydd, arddangosfa dreftadaeth o’r plwyf, ystafell amlbwrpas, hanner dwsin o unedau busnes mewn cynhwyswyr llongau wedi’u haddasu, ‘desgiau poeth’ a gardd gymunedol.

Mae’r gymuned yn “edrych ymlaen yn arw”, meddai Einir Wyn, ysgrifennydd y fenter, ac esboniodd y bydd tair swydd lawn amser yn cael eu creu o ganlyniad i’r hwb.

“Mae o’n deimlad arbennig i weld yr adeilad yn dod yn fyw unwaith eto,” esboniodd Mali Turtle, a fydd yn rheoli y caffi newydd.

Einir WynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o’r llun,

“‘Dan ni’n barod i hwylio i’r dyfodol,” meddai Einir Wyn gan ddyfynnu hen arwyddair ‘Rysgol Bach’

Esboniodd Einir Wyn wrth Cymru Fyw cyn y diwrnod mawr, er bod cwblhau’r cynllun yn llawn yn “hir yn cyrraedd”, fod y weledigaeth ar fin cael ei gwireddu.

“Mae’r adeiladwyr wedi bod yn yr adeilad ers blwyddyn i fis Medi diwethaf,” meddai.

Eglurodd fod y tywydd wedi achosi problemau, a bod “asbestos oedd wedi’i guddio dan y llawr – oedd ddim yn dangos ar y profion” – wedi dal yr amserlen yn ei hôl.

“Mae ‘na dipyn o waith wedi bod wrth sefydlu pwyllgor, ar ôl i Gyngor Gwynedd gysylltu i weld os oedd gan y gymuned ddiddordeb yn y peth.”

Unedau busnesFfynhonnell y llun, Menter Rabar

Disgrifiad o’r llun,

Mae’r unedau eisoes wedi’u harchebu’n llawn gan fusnesau

“‘Dan ni wedi gweithio’n galed hefyd i ennyn nawdd a ‘dan ni’n werthfawrogol iawn ohona’ fo,” meddai Einir.

Costiodd y prosiect dros filiwn o bunnoedd ac roedd yn rhaid i’r fenter godi £50,000 eu hunain.

Maen nhw’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, Cronfeydd Pawb a’i Le a Threftadaeth y Loteri Genedlaethol, AHNE Llŷn, Cist Gwynedd, Menter Môn, Adra, Perthyn/Cwmpas, Ymddiriedolaeth Elusennol John Andrews, Ymddiriedolaeth Ratcliff, ynghyd ag unigolion a grwpiau lleol.

Mali TurtleFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o’r llun,

“Mae o’n deimlad arbennig i weld yr adeilad yn dod yn fyw unwaith eto,” meddai Mali Turtle, a fydd yn rheoli’r caffi newydd

Bydd y fenter yn cyflogi nifer o bobl gan gynnwys tair swydd lawn amser a swyddi rhan amser hefyd.

Disgrifiodd Einir yr hwb fel un “unigryw, fydd yn le i bobl gyfarfod”, a bydd modd cynnal pob math o weithdai yno hefyd.

Mae’r unedau busnes eisoes wedi’u harchebu’n llawn, a bydd y rhain i gyd yn cael defnydd erbyn mis Ionawr.

“Mae o bendant yn neis gallu rhoi defnydd newydd i’r hen ysgol.

“‘Dan ni’n barod i hwylio i’r dyfodol,” ychwanegodd Einir gan ddyfynnu hen arwyddair ‘Rysgol Bach’, oedd â chwch hwylio a dwy ynys gyfagos yn gefndir i’r logo.

Y caffiFfynhonnell y llun, Menter Rabar

Disgrifiad o’r llun,

Mae patio newydd yn rhan o’r caffi

Un o’r rhai a fydd yn cael ei chyflogi yn llawn amser o ganlyniad i’r datblygiad ydy Mali Turtle, sy’n “edrych ymlaen” i reoli’r caffi newydd.

Mae cysylltiad teuluol i’r adeilad hefyd gan fod hen hen daid Mali, y Capten John Williams, yn gadeirydd ar gorff llywodraethwyr cyntaf yr hen ysgol.

“Mam oedd cadeirydd olaf y llywodraethwyr cyn i’r ysgol gau hefyd, felly mae ‘na gysylltiad mawr hefo’r teulu.

“Dwi’n teimlo’n falch iawn i fod yn rhan o’r prosiect fel person lleol a chyn-ddisgybl,” meddai Mali, gan sôn bod nifer helaeth o’i theulu wedi derbyn addysg yno.

Blaen adeilad/Logo Menter RabarFfynhonnell y llun, Menter Rabar

Disgrifiad o’r llun,

“Mae’r gymuned wedi brwydro ers blynyddoedd i gael gafael ar yr adeilad,” meddai Mali Turtle

Y cyn-gynghorydd Wyn Williams sy’n agor yr hwb yn swyddogol a dywedodd ei fod yn “falch iawn o gael y fraint”.

Roedd Wyn yn llywodraethwr am dros 25 mlynedd ac mae’n ŵyr i un o sylfaenwyr yr ysgol.

Abel Williams oedd enw taid Wyn. Bu’n brifathro yn Llanberis cyn symud i Abersoch i redeg busnes yno.

Yr adeilad ar ei ganolFfynhonnell y llun, Menter Rabar

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwaith caled ei gwblhau wrth drawsnewid yr hen ysgol yn hwb modern i’r gymuned

Esboniodd Mali, hyd yn oed pan oedd hi’n mynychu’r ysgol, fod yno “fygwth cau ers blynyddoedd, felly ma’ bod yn rhan o’r bennod newydd yma’n meddwl lot”.

“Dwi’n edrych ymlaen i’r caffi agor, mae o’n teimlo fel long time coming, ac ma’r gymuned wedi brwydro ers blynyddoedd i gael gafael ar yr adeilad.”

Mae’r hwb yn golygu llawer i’r gymuned, meddai Mali: “Fydd o’n dathlu diwylliant, iaith a hanesion lleol.

“Mi fydd ‘na ‘stafell treftadaeth a gofod cymunedol yna, felly gobeithio bydd y straeon lleol yna’n cyrraedd pob carfan o’r gymuned ac ymwelwyr tymhorol hefyd.”

Ychwanegodd mai ei gobaith yw y bydd pobl yn “teimlo’n gartrefol yna yng nghalon y gymuned”.

“Mae o’n deimlad arbennig i weld yr adeilad yn dod yn fyw unwaith eto.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x