
Mae Côr Good Vibrations yn dod â phobl sy’n byw gyda Parkinson’s, eu teuluoedd a’u gofalwyr ynghyd i ganu a chymdeithasu
Mae côr yng Nghaerdydd sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda chlefyd Parkinson’s yn helpu aelodau i “wneud ffrindiau a mwynhau eu hunain, gyda’i gilydd”, yn ôl ei sylfaenydd.
Sefydlodd Roger Hampton y côr Good Vibrations ar ôl methu â dod o hyd i grŵp canu addas iddo’i hun yn dilyn ei ddiagnosis.
Bellach, mae’r côr yn dod â phobl sy’n byw gyda Parkinson’s, eu teuluoedd a’u gofalwyr ynghyd, ac mae rhai aelodau’n credu bod canu wedi helpu i leddfu rhai symptomau’r cyflwr.
“Pan fydd rhai o’n haelodau’n dechrau canu, rydym yn gweld bod eu cryndod yn lleihau,” meddai’r arweinydd Joshua Jones.
“Mae’n hyfryd gweld bod hyn yn digwydd yn gyson, wythnos ar ôl wythnos.”

Mae rhai aelodau’n credu bod canu wedi helpu i leddfu rhai o symptomau Parkinson’s
Yn ôl Roger, mae’r côr bellach yn cynnig llawer mwy na chyfle i ganu.
“Nes i fynd ati i drio dod o hyd i gôr i bobl â Parkinson’s, ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i un. Felly meddyliais, pam na wnaf i ddechrau un fy hun?
“Mae’r côr wedi rhoi cyfle i mi nad oedd gen i o’r blaen, ac mae hynny’n wir am gynifer o’r bobl yma hefyd: y cyfle i ganu, i fod yn rhan o rywbeth ac i berthyn i gymuned na fyddent efallai erioed wedi breuddwydio amdani.
“Mae’n rhoi cyfle i chi wneud ffrindiau a mwynhau eich hun, gyda’ch gilydd.”
‘Aelodau’n gallu siarad yn fwy rhugl ac yn gryfach’
Mae Eurwen Malin o’r Barri wedi bod yn aelod o’r côr ers ei sefydlu.
Roedd hi’n amheus i ddechrau a oedd angen côr penodol ar gyfer pobl â Parkinson’s, ond mae ei phrofiad ers ymuno wedi newid ei barn.
“Mae Josh yn deall ein hanghenion, mae’r ymarferion yn berthnasol ac mae’r profiad wedi bod yn wych,” meddai.
“Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac mae’r côr hefyd yn her i ni.
“Dydyn ni ddim yn dod yma i ganu caneuon syml yn unig – rydyn ni’n cael cyfle i wneud gwaith cerddorol go iawn a rhoi cynnig ar bethau mwy heriol.”

Mae Eurwen a John yn dweud bod y côr wedi’u helpu i wneud ffrindiau newydd a magu hyder
Mae John Kinn o Gaerdydd hefyd yn aelod ers y cychwyn, ac fe ymunodd gan fod ei wraig yn byw gyda Parkinson’s.
Mae’n credu bod canu yn gallu helpu aelodau i gyfathrebu’n well, gan fod angen meddwl yn gyflym, rhyngweithio ag eraill a defnyddio’r llais yn gyson.
“Mae’n wych achos mae llawer o’r aelodau’n gallu siarad yn fwy rhugl ac yn gryfach,” meddai.
‘Byw gydag anabledd yn gallu bod yn brofiad unig’
Mae myfyrwyr y coleg hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y côr, gan ganu ochr yn ochr â’r aelodau a’u helpu i roi cynnig ar ddarnau cerddorol mwy cymhleth.
Un ohonyn nhw yw Megan Hastings, sydd wedi bod yn aelod ers tua mis.
“Mae wedi bod yn bleser cael canu gyda’r aelodau a chwrdd â phobl newydd,” meddai.
“Mae’n gymuned mor hyfryd ac mae’n fy ngwneud i’n hapus bob tro rwy’n canu gyda nhw. Mae’r awyrgylch mor hamddenol ac mae’n brofiad gwych.”
Mae hi’n credu bod cael cymuned gefnogol yn arbennig o bwysig i bobl sy’n byw gydag anabledd.
“Gall byw gydag anabledd fod yn brofiad unig iawn, felly rwy’n credu bod cael cymuned fel hon yn gallu helpu’n arw.”

Mae Megan a Carwyn ymhlith myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru sy’n rhan o’r côr
Mae Carwyn Whomsley, myfyriwr cyfansoddi yn y coleg, hefyd yn helpu gyda’r ymarferion.
“Mae’n arbennig o braf gweld pobl sy’n byw gyda Parkinson’s yn ail-ddarganfod eu hunain drwy gerddoriaeth a chanu,” meddai.
“Mae gweld hynny’n digwydd yn brofiad gwych.”

Mae tua 8,600 o bobl yn byw gyda’r cyflwr yng Nghymru
Mae Parkinson’s yn gyflwr niwrolegol cynyddol sy’n gallu effeithio ar symudiadau, cydbwysedd, lleferydd a’r gallu i lyncu.
Yn ôl ffigyrau diweddar gan Parkinson’s UK, mae tua 166,000 o bobl yn y DU yn byw gyda diagnosis o’r cyflwr, gan gynnwys tua 8,600 yng Nghymru.
Yn ôl Joanne The Rapiston o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae “adborth gan gleifion a’u teuluoedd yn awgrymu bod y sesiynau canu wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hyder a’u lles meddyliol”.
“Roedd clinigwyr hefyd wedi nodi gwelliannau o ran y gallu i lyncu, cryfder y llais a lleferydd”, meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







