carcharu-dyn-am-drais-‘dychrynllyd’-yn-erbyn-ei-gyn-bartner
Home / Wales / Carcharu dyn am drais ‘dychrynllyd’ yn erbyn ei gyn-bartner

Carcharu dyn am drais ‘dychrynllyd’ yn erbyn ei gyn-bartner

Carcharu dyn am drais ‘dychrynllyd’ yn erbyn ei gyn-bartner


John GizziFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Natasha Farah wedi dioddef cyfres o ymosodiadau a chamdriniaeth gan John Gizzi rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2026

GanNia Tudur

BBC Cymru Fyw

Rhybudd: Gallai’r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae dyn o Sir Ddinbych, oedd eisoes wedi ei garcharu yn y gorffennol am arwain gang cyflenwi cyffuriau, wedi ei ddedfrydu i bedair blynedd ac 11 mis o garchar am ymosodiadau treisgar ar ei gyn-bartner a’i rheoli drwy orfodaeth.

Roedd John Gizzi, 55, o Lanelwy wedi pledio’n euog mewn gwrandawiad blaenorol i gyhuddiad o reoli Natasha Farah drwy orfodaeth, ac o dagu chwaer Natasha, Samantha Farah yn fwriadol.

Dywedodd y barnwr bod Natasha Farah wedi wynebu ymddygiad “dychrynllyd” gan Gizzi, a’i fod yn un o’r achosion gwaethaf o reoli drwy orfodaeth yr oedd y llys wedi ei glywed erioed.

Clywodd y llys bod Natasha Farah wedi dioddef niwed difrifol i’w hymennydd ar ôl iddi, mae’n ymddangos geisio lladd ei hun yn dilyn cyfres o ymosodiadau treisgar gan Gizzi.

Natasha Farah

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr bod Natasha Farah wedi dioddef “ymddygiad dychrynllyd” gan John Gizzi

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau dywedodd y Barnwr Mills bod Gizzi wedi defnyddio “iaith misogynistaidd difrifol” tuag at Natasha Farah oedd yn “rhan o’r broses o’i bychanu…a dinistrio ei hunan-werth.”

Dywedodd bod Natasha yn aml i’w gweld gyda chleisiau, a bod Gizzi un tro wedi ymosod arni gydag offer codi pwysau (dumbell).

“Fe wnaethoch chi ei chyhuddo o gysgu gyda dynion eraill, ac ymosod arni’n gyson – weithiau o flaen pobl eraill, a hefyd o flaen ei phlentyn,” meddai’r barnwr.

“Fe wnaethoch chi ymosod arni ar Ddydd San Ffolant…ar Sul y Mamau…fe fyddai hi’n pledio arnoch chi i beidio.”

Ychwanegodd nad oedd cais i gael gorchymyn atal camdriniaeth ddomestig wedi ei gwblhau oherwydd bod Natasha wedi gofyn i’r ynadon beidio â pharhau â fo, ac roedd ganddi “nodyn oedd fel petai’n dweud wrthi beth i’w ddweud”.

Roedd Gizzi hefyd wedi ymosod ar chwaer Natasha, Samantha, wrth iddi hi geisio ei herio.

“Fe wnaethoch chi afael yn ei gwddf gyda’ch dwylo, fe ddisgynnodd i’r llawr…roedd yna farciau ar ei gwddf,” meddai’r barnwr.

Ymosodiadau corfforol a geiriol

Clywodd y llys bod Natasha Farah wedi cael ei darganfod gan John Gizzi yn anymwybodol yn ei fflat yn Llandrillo-yn-Rhos ar 7 Ebrill 2026, gyda Gizzi wedi ffonio’r gwasanaethau brys.

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Elen Owen nad oedden nhw’n dadlau mai Gizzi oedd yn gyfrifol, ond bod darganfod Ms Farah wedi arwain at ymchwiliad wnaeth ddatgelu catalog o gamdriniaeth eiriol a chorfforol ohoni gan Gizzi.

Amlinellwyd cyfres hir o ymosodiadau a chamdriniaeth yn erbyn Natasha Farah gan Gizzi rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2026.

Fe fyddai’n aml yn ei dilyn, yn ymosod arni yn ei char, yn gadael negeseuon sarhaus gan ei galw’n ‘slwt’.

Clywodd y llys iddo ymosod yn gorfforol arni ar Ddydd San Steffan a Dydd San Ffolant, a nifer o achlysuron eraill.

Ym mis Medi 2025, cafodd Natasha ei darganfod wedi cymryd gorddos, ac fe wnaeth galwad i’r gwasanaethau brys gofnodi Gizzi yn cam-drin mam Natasha, Denise yn gorfforol a geiriol.

Gwelodd chwaer Natasha, Samantha gamdriniaeth gyson o’i chwaer, ac fe wnaeth hi ei hun ddioddef ymosodiad gan Gizzi mewn tafarn ym Mae Colwyn – a arweiniodd at gyhuddiad o dagu – un o’r tri chyhuddiad y plediodd Gizzi yn euog iddyn nhw.

Roedd hefyd wedi pledio’n euog i gyhuddiad o wrthod rhoi rhif pin ei ffôn symudol er mwyn i’r heddlu gael mynediad iddo.

Denise Farah

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Natasha Farah, Denise wrth y llys bod John Gizzi wedi achosi “poen, galar, dicter ac artaith” i’w theulu

Yn y llys fe ddarllenodd mam Natasha, Denise Farah ddatganiad ynglŷn ag effaith y troseddau arnyn nhw.

Dywedodd ei bod eisiau manylu ar “effaith ddinistriol” ymddygiad Gizzi, a’r “boen, galar, dicter ac artaith” roedd o wedi ei achosi.

Disgrifiodd ei merch fel yr “enaid mwyaf prydferth, doniol a charedig yn y byd”, a dywedodd wrth Gizzi, oedd yn ymddangos yn y llys drwy gyswllt fideo, ei fod yn fwystfil diafolaidd.

Y tu allan i’r llys, fe wnaeth ffrindiau a theulu Natasha fynegi dicter ynglŷn â hyd dedfryd Gizzi.

Dywedodd ei mam y byddai hi yn parhau i ymgyrchu yn enw Natasha, i gael dedfrydu hirach mewn achosion o reoli drwy orfodaeth, gan ddisgrifio trais yn erbyn menywod a merched fel “epidemig”.

Cafodd Gizzi hefyd ddedfryd o 4 mis o garchar i gyd-redeg, am fethu â darparu rhif pin ei ffôn symudol i’r heddlu ar ôl cael ei arestio.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon Perthnasol

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x