‘cant-o-geisiadau-am-swyddi,-ond-dim-llwyddiant’-–-yr-her-sy’n-wynebu-pobl-ifanc
Home / Wales / ‘Cant o geisiadau am swyddi, ond dim llwyddiant’ – yr her sy’n wynebu pobl ifanc

‘Cant o geisiadau am swyddi, ond dim llwyddiant’ – yr her sy’n wynebu pobl ifanc

‘Cant o geisiadau am swyddi, ond dim llwyddiant’ – yr her sy’n wynebu pobl ifanc


Mae Morgan Harvey, 26, yn gweithio gyda’r Urdd fel swyddog nofio cymunedol ar ôl cyflawni prentisiaeth.

“Pan wnes i orffen ysgol, o’n i ddim yn siŵr iawn beth i’w wneud, ond roedd gwneud y brentisiaeth wedi agor fyny cyfleoedd i fi i fynd yn syth i swydd, cael profiadau ac ennill cyflogaeth,” meddai Morgan.

Mae adroddiad Milburn hefyd yn cynnig cyfle i edrych ar sut y gellir gwella’r sefyllfa i bobl ifanc, drwy ganolbwyntio ar y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad at gyfleoedd a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Ond yn ôl Ffion, mae angen mwy o gefnogaeth uniongyrchol ar bobl ifanc.

“Fi’n credu bod angen mwy o coaching ar bobl ifanc.

“Pan o’n i yn y coleg, o’n nhw’n dweud taw’r brifysgol oedd yr un peth bydd yn bendant yn sicrhau swydd yn y dyfodol.

“Ond dydy hynny ddim yn wir, a dydy e ddim wedi helpu fi fel o’n nhw’n dweud, felly fi’n credu bod angen mwy o gyfleoedd i wneud pethau gwahanol.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x