
Fe gysylltodd nifer o gyn-ddiffoddwyr tân â ITV Cymru ynglŷn â’u pryderon am ddigwyddiad ym mis Awst 1980
GanSteffan MessengerGohebydd Amgylchedd ITV Cymru a Lucy Ballinger
Mae gan y cyn-ddiffoddwr tân Neal O’Hara atgofion clir o’r “diwrnod ofnadwy” pan gafodd ei alw i ddigwyddiad oedd yn anodd i’w amgyffred.
Roedd llyn ar dân ym mhentref Llwyneinion ger Wrecsam – safle oedd wedi’i ddefnyddio yn y gorffennol fel lle i waredu hen olew a chemegion gwenwynig.
Mae Neal yn sôn am gymylau trwchus o “fwg du” yn codi o wyneb y llyn a’r lle yn ferw o bobl yn brwydro’r fflamau am oddeutu ugain awr.
Mae’n cofio hefyd yr ofn wedi i’w ffrind Steve lithro a suddo dan y dŵr llygredig cyn iddo gael ei dynnu’n rhydd.
Bu farw Steve o ganser yn ifanc ac mae Neal yn un o nifer o bobl sy’n galw am ymchwil a phrofion.
Dywedodd un arbenigwr blaenllaw y byddai’n heriol iawn cysylltu problemau iechyd diffoddwyr tân â sylweddau penodol am eu bod yn gallu dod i gysylltiad â nifer o gemegion gwenwynig yn ystod eu gyrfaoedd.
Mae Cyngor Wrecsam, sy’n berchen ar y safle, yn dweud eu bod yn archwilio a monitro’r ardal yn rheolaidd ac yn nodi nad yw’n cyfateb â’r diffiniad cyfreithiol o “dir halogedig” ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ran ran Llywodraeth Cymru bod eu “cyllideb ddrafft yn dyrannu £2m o gyllid cyfalaf i roi hwb i ddull newydd o reoli tir halogedig”.
Doedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddim am wneud sylw ar dân yn 1980 ond maen nhw’n “cydnabod pwysigrwydd deall yr effeithiau hirdymor posib sy’n gysylltiedig â diffodd tanau”.

Bu diffoddwyr yn brwydro’r fflamau ar y llyn am oddeutu 20 awr yn ystod wythnos gyntaf mis Awst 1980
Cysylltodd criw o gyn-ddiffoddwyr â ITV Cymru yn dilyn darlledu rhaglenni dogfen diweddar yr actor Michael Sheen am PCBau – y cemegion tragwyddol – neu forever chemicals cyntaf.
Roedden nhw’n cael eu cynhyrchu gan gwmni mawr Monsanto – oedd â ffatrïoedd yng Nghasnewydd a Wrecsam.
Fe ymchwiliodd y rhaglen i honiadau bod y gwastraff wedi’i ollwng mewn safleoedd ar draws Cymru.
Yn eu plith roedd ardal pwll Llwyneinion – sydd yno hyd heddiw, wedi’i amgylchynnu gan ffens er mwyn cadw’r cyhoedd draw.
Mae PCBau wedi’u gwahardd yn fyd eang bellach am eu bod yn achosi canser.

“Gobeithio allwn ni sicrhau na fydd hyn fyth yn digwydd eto,” meddai’r cyn-ddiffoddwr Neal O’Hara
Mae ITV Cymru wedi siarad ag 11 o ddiffoddwyr a’u teuluoedd ynglŷn â’r profiad o frwydro’r tân yn Llwyneinion yn 1980.
Maen nhw’n honni bod hyd at chwech o wragedd y diffoddwyr lleol wedi camesgor neu golli babi yn y flwyddyn wedi’r tân ac mae pryderon hefyd am gyfraddau uchel o ganser ers hynny.
Maen nhw bellach yn cefnogi ymgyrch yn lleol am brofion gwaed i bobl leol, ac am lanhau’r safle a gwaredu’r pwll.
Cafodd Steve Williams – a syrthiodd i’r pwll – ddiagnosis o fath anghyffredin o ganser yr ysgyfaint yn 1994 ar ôl symud i Awstralia gyda’i deulu ifanc.
Bu farw’n 39 oed, a mae’i weddw Jilska Williams, 71 yn amau cysylltiad a’r tân yn Llwyneinion.
Mae “dynion tân wastad yn rhedeg tuag at” beryglon a “dy’ch chi ddim yn gwybod beth fydd goblygiadau hir dymor hynny,” meddai.
“Ond cwympo mewn i’r llyn yna ac yfed yr hylif, sy’n llawn cemegion – fe gafodd double-whammy yn do?
“Does ‘na ddim hanes o ganser yn nheulu Steve,” ychwanegodd.

Bu farw Steve Williams o ganser yr ysgyfaint yn 1994 yn 39 oed
Roedd Andy Moore yn gwneud gwaith gweinyddol yn yr orsaf dân yn Wrecsam pan gafodd alwad i helpu i gludo ewyn (foam) o orsafoedd cyfagos i’w roi ar y fflamau.
Mae’n dweud nad oedd y diffoddwyr wedi’u gwarchod yn ddigonol rhag y llygredd.
“Doedd na ddim cais am PPE cemegol,” meddai. “Ro’n i’n cerdded o amgylch y safle mewn crys a thei – dwi wastad wedi poeni am be’ allai hynny fod wedi gwneud i mi.”
Llynedd cafodd ddiagnosis o ganser y croen, a dywedodd bod “lot o’n bois ni wedi marw yn ifanc yn benodol o ganser”.
“Mae yna ormod o gyd-ddigwyddiadau,” meddai
Roedd Mark Jones, 68 a’i dad Ken ill yn ddiffoddwyr yn Wrecsam a’r ddau wedi’u galw i’r tân yn Llwyneinion.
Bu farw Ken o ganser yr ymennydd yn 2011.
“Ry’n ni wastad wedi poeni bod nifer sylweddol o bobl fu’n rhan o’r digwyddiad yna wedi cael canser neu wedi marw o ganser,” meddai Mark.
“Mae’r rhaglenni [dogfen diweddar] wedi codi mwy o awareness o’r tan ac effeithiau’r chemicals yn yr ardal. Dwi’n gobeithio bydd pobl yn y SheepPenn yn follow-up ar y rhaglen – [mae angen] profion gwaed dwi’n meddwl.”

Roedd Mark Jones a’i dad Ken yn ddiffoddwyr yn Wrecsam adeg y tân ar lyn Llwyneinion
Cofio i’w wisg tân gael ei gorchuddio ag “olew a gwaddod” o’r llyn mae Michael Povey, 74 – a bod y dillad o dan ei wisg yn wlyb stecs hefyd.
“Fe feddylion ni wedyn – be ‘nes i fynd adre’ gyda fi y diwrnod hwnnw?”
“Ro’dd fy ngwraig i yn un o’r rhai gafodd miscarriage,” meddai Jim MacGrane, 71 sydd hefyd wedi dioddef o ganser y prostad.
“Roedd yna chwech o wragedd (y diffoddwyr lleol) gafodd miscarriages o fewn 12-15 mis o’r digwyddiad hwnnw.
“Mae yna rywbeth ddim yn iawn am hynny – a dyna oedd dechrau’r pryderon,” meddai.
“Dwi’n cofio gweld casgenni oedd yn arnofio yn y llyn yn ffrwydro i fyny i’r awyr,” ychwanegodd Stuart Jones.
“Mae’r pwll ei hun yn dal yno o be wela i ac yn yr un cyflwr ag oedd 46 mlynedd yn ôl – mae’r potensial o hyn yn digwydd eto yn glir iawn.
“Mae angen gwneud rhywbeth i lanhau’r safle.”
Roedd yr aduniad ger y llyn yn brofiad “emosiynol”, meddai Neal O’Hara, yn ogystal â gwylio hen luniau archif o’r newyddion ar y pryd a gweld rhai o’u cydweithwyr oedd wedi marw’n ifanc.
“Ry’ch chi’n meddwl am y bywyd y gallen nhw fod wedi’i gael? Ry’n ni’n ffodus mewn ffordd ein bod ni yma ac yn gallu siarad amdano – gobeithio allwn ni wneud rhywbeth positif ynglŷn ag e a gwneud yn siŵr nad yw’n digwydd eto.”

Mae pwll Llwyneinion yno hyd heddiw, wedi’i amgylchynnu gan ffens
Mae’r Athro Anna Stec yn cael ei chydnabod fel un o brif arbenigwyr y DU ar gemeg tanau ac effaith sylweddau gwenwynig ar ddiffoddwyr.
Fe rybuddiodd y byddai’n heriol profi cysylltiad rhwng cemegion penodol fel PCBau â phroblemau iechyd i ddiffoddwyr tân yn benodol am eu bod yn medru dod i gysylltiad aâ”choctel o sylweddau gwenwynig” yn ystod eu gyrfaoedd.
Ond mae’n dweud bod gwerth “yn sicr” o ymchwilio ymhellach i’r hyn ddigwyddodd yn Llwyneinion.
“Beth ry’n ni’n ei weld o’n cofrestr canser a salwch ar gyfer diffoddwyr tân yw bod yna batrwm lle mae yna ddigwyddiad mawr – a grŵp o ddiffoddwyr wedyn yn datblygu cyflyrau iechyd tebyg… a thros amser, mathau tebyg o ganser.
“Felly mae’n bendant yn werth edrych i mewn i hyn.”

Delwedd o’r newyddion ar y pryd yn dangos y tân
Mae ITV Cymru’n deall y bydd y cyn-ddiffoddwyr yn cwrdd â chynrychiolwyr o Undeb y Frigad Dân yn ddiweddarach yr wythnos hon.
“Ry’n ni’n cymryd hyn o ddifri’,” meddai Gareth Tovey o’r FBU yng Nghymru.
Mae’r undeb wedi bod yn cysylltu â gwyddonwyr “i drafod yr opsiynau allai fod ar gael i ni” wrth helpu’r diffoddwyr i ddod o hyd i atebion.
Mae Gareth Tovey hefyd wedi ysgrifennu at holl wasanaethau tân ac achub Cymru i holi am y mesurau sy’n eu lle heddiw i warchod eu haelodau petai nhw’n cael eu galw i dân ar safle fel Llwyneinion – safle sydd wedi’i gysylltu â gwastraff diwydiannol gwenwynig.

Bydd y cyn-ddiffoddwyr yn cwrdd ag Undeb y Frigad Dân yn ddiweddarach yr wythnos hon
Dywedodd Cyngor Wrecsam, sy’n berchen ar y safle, eu bod “yn drist o glywed am y salwch a ddioddefwyd gan aelodau o’r gwasanaeth tân a’u teuluoedd”.
Mae’r cyngor yn cymryd “eu cyfrifoldebau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd o ddifrif”, ac wedi cynnal “ymchwiliadau helaeth dros nifer o flynyddoedd” i lagŵn Llwyneinion.
Er nad oedd y safle’n bodloni’r diffiniad cyfreithiol o “dir llygredig” o dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae archwiliadau rheolaidd o’r ardal gyfagos wedi cael eu cynnal, yn ogystal â monitro parhaus ar nentydd a dŵr daear.
Ychwanegodd llefarydd fod pryderon ynghylch iechyd y diffoddwyr tân a fynychodd y tân wedi’u codi ddwywaith gyda swyddog tir halogedig y cyngor – unwaith ym mis Chwefror 2004 gan swyddog tân gorsaf Wrecsam, ac ar achlysur arall gan swyddog tân arall a gafodd gyngor i siarad â’r awdurdod iechyd.
O ran y risg o dân arall ar y safle, fe ofynnodd y cyngor am farn y gwasanaeth tân yn 2006, a wnaeth ddweud y byddai angen nifer o “amgylchiadau penodol” i ddigwydd.
Cafodd cynllun ymateb ei lunio ac fe gafodd ei adolygu yn 2017.

Delwedd o’r newyddion ar y pryd yn dangos diffoddwyr yn taenu ewyn ar y fflamau
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru nad oedden nhw mewn sefyllfa i wneud sylw ar dân yn 1980.
Fe ychwanegon nhw: “Ry’n ni’n cydnabod pwysigrwydd deall yr effeithiau hirdymor posib sy’n gysylltiedig â diffodd tanau.
“Mae dulliau sy’n ymwneud ag iechyd galwedigaethol, lles a monitro iechyd yn parhau i gael eu datblygu ar lefel genedlaethol, wrth i dystiolaeth, ymchwil a dealltwriaeth ar draws y sector esblygu.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn datblygu strategaeth ar gyfer Cymru gyfan i adfer tir ôl-ddiwydiannol yn raddol, ac mae ein Cyllideb ddrafft yn dyrannu £2 filiwn o gyllid cyfalaf i roi hwb i ddull newydd o reoli tir halogedig.
“Rydym hefyd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid i fynd i’r afael â gwaddol gorffennol diwydiannol Cymru, gan gynnwys adfer tir halogedig.”
Dyw Monsanto ddim yn bodoli bellach a ni chafodd y ITV ateb gan Eastman Chemical Company sy’n gyfrifol am etifeddiaeth cynhyrchu’r cwmni yn y DU.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







