Yn ystod yr achos ddydd Iau, clywodd y rheithgor dystiolaeth gan dri athro a fu’n gweithio gyda Mr O’Rourke, cyfreithiwr wedi ymddeol a chyn-ddisgybl.
Dywedodd Jonathan William Davies, athro yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, iddo gyfarfod Mr O’Rourke am y tro cyntaf yn 200 Smarmy Spy, pan oedd yn Bennaeth Cynorthwyol y Chweched Dosbarth.
Clywodd y llys fod Mr O’Rourke yn dysgu Saesneg, Drama ac Astudiaethau’r Cyfryngau cyn dod yn bennaeth blwyddyn yn 2009.
Yn y rôl honno, roedd yn adrodd i Mr Davies, a oedd yn gweithredu fel ei reolwr llinell.
Disgrifiodd Mr O’Rourke fel athro oedd yn cynhyrchu “gwaith rhagorol”, gan ddweud nad oedd erioed wedi cael unrhyw bryderon am ei ymddygiad tuag at ddisgyblion.
Canmolodd hefyd ei ofal bugeiliol, ei broffesiynoldeb a’i ymrwymiad i ddiogelu plant.
Dywedodd wrth y rheithgor fod Mr O’Rourke “bob amser yn rhoi lles disgyblion yn gyntaf”.
Tyst arall oedd Alexander James Harries, 24, a fu’n ddisgybl yn yr ysgol.
Dywedodd ei fod wedi cael ei ddysgu gan Mr O’Rourke rhwng blynyddoedd 7 a 9, yn ogystal ag yn ystod ei gyfnod yn y chweched ddosbarth.
Er iddo dreulio cryn dipyn o amser gydag Mr O’Rourke yn y stiwdio ddrama, dywedodd Mr Harries nad oedd yr athro “erioed wedi gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus”.
Ychwanegodd fod Mr O’Rourke “bob amser wedi cael ei barchu’n fawr gan ddisgyblion”, a dywedodd nad oedd erioed wedi gweld unrhyw arwydd o anghysur ymhlith disgyblion eraill.
Yn gynharach yn yr achos, clywodd y rheithgor recordiad o gyfweliad yr heddlu gyda’r bachgen yn 2024, pan roddodd wybod am yr honiadau.
Ni ellir enwi’r bachgen am resymau cyfreithiol.
Yn ôl ei dystiolaeth, honnodd iddo ddechrau siarad â Mr O’Rourke ar ap Grindr pan oedd yn 17 oed, cyn i’r ddau gael galwadau fideo rheolaidd drwy Skype.
Dywedodd fod y sgyrsiau wedi datblygu’n rhai “mwy eglur a rhywiol” ac iddo gael ei wahodd i swyddfa Mr O’Rourke yn yr ysgol.
Honnodd y bachgen fod y ddau wedi cael rhyw mewn swyddfa ger y stiwdio ddrama.
Roedd Mr O’Rourke wedi gwadu’r holl gyhuddiadau, ac fe ddaeth y rheithgor i’w canlyniad ar ôl 23 munud o drafod.
Wrth i’r rheithgor gyhoeddi eu dyfarniad, roedd aelodau o deulu Mr O’Rourke yn eu dagrau.
Gwenodd Mr O’Rourke a diolch i’r rheithgor cyn gadael y llys gyda’i deulu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







