‘cael-gwared-ar-150-o-swyddi-o-brifysgol-aberystwyth-yn-golled-anferth’
Home / Wales / ‘Cael gwared ar 150 o swyddi o Brifysgol Aberystwyth yn golled anferth’

‘Cael gwared ar 150 o swyddi o Brifysgol Aberystwyth yn golled anferth’

‘Cael gwared ar 150 o swyddi o Brifysgol Aberystwyth yn golled anferth’


Prifysgol AberystwythFfynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y brifysgol yw cyflawni’r arbedion erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2027/28

GanGwydion Edwards a Craig Duggan

Byddai colli dros 150 o swyddi ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael effaith anferth – nid yn unig ar y brifysgol ond ar y dre yn ehangach, medd yr academydd a’r economegydd, yr Athro Dylan Jones-Evans.

Mae’n ymddangos y “bydd pethau’n mynd o ddrwg i waeth” i brifysgolion yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ychwanegodd.

Daw ei sylwadau wedi i Brifysgol Aberystwyth gyhoeddi eu bwriad i arbed £16m wrth “ailstrwythuro” a “chynyddu effeithlonrwydd”.

Dywed Undeb UCU Cymru eu bod wedi’u “llorio ac yn flin gyda’r cyhoeddiad” ac y bydd dros 150 o swyddi yn cael eu colli.

Ddydd Mercher dywedodd yr Is-ganghellor yr Athro Jon Timmis, y “byddwn ni’n cyflogi llai o staff” unwaith bydd yr ailstrwythuro wedi digwydd, er mwyn helpu cynaliadwyedd y brifysgol yn y dyfodol. Ni roddodd ffigwr ar gyfer unrhyw ddiswyddiadau posib.

Disgrifiad,

Y gohebydd Craig Duggan fu ar y safle

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn newidiadau diweddar yn y brifysgol a welodd nifer o swyddi’n cael eu torri.

Dywedodd y brifysgol y byddai’r ailstrwythuro diweddaraf yn arwain at ostyngiadau sylweddol mewn costau cynnal, a’u gobaith yw cyflawni’r arbedion erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2027/28.

Rhoddon nhw gadarnad hefyd bod adolygiad o adrannau anacademaidd eisoes wedi digwydd ac y bydd “cylch nesaf y broses yn cynnwys adolygiad o’r holl unedau academaidd”.

Mae 1,819 o staff yn cael eu cyflogi ganddyn nhw.

Dylan Jones-Evans

Disgrifiad o’r llun,

Mae’r Athro Dylan Jones-Evans wedi bod yn edrych ar sefyllfa prifysgolion ers nifer o flynyddoedd

Mae’r Athro Dylan Jones-Evans wedi bod yn edrych ar sefyllfa prifysgolion ers nifer o flynyddoedd a bu’n trafod y datblygiad diweddaraf ar Dros Frecwast fore Iau.

“‘Di hyn ddim yn sioc a bod yn onast, ‘dan ni wedi gweld y chwyldro sydd wedi bod yn digwydd yn y sector addysg uwch yng Nghymru dros bron i ddwy flynadd rŵan,” meddai.

Cymharodd y sefyllfa i’r hyn sy’n digwydd ym Mhrifysgol Bangor, gan egluro eu bod y llynedd wedi “colli bron i 200 o ddarlithwyr ac mewn sefyllfa ddigon tebyg”.

Ychwanegodd fod Prifysgol Aberystwyth yn “angor i’r economi yng nghanolbarth Cymru – dim hyd yn oed am y swyddi, ond hefyd am bob dim arall – mae’n arloesi i helpu cwmnïa'”.

“Y ffaith ydy ‘sa ni’n colli cyn gymaint â hynna o staff mewn un lle yng nghefn gwlad Cymru, dim mater o effaith bach ydy o – mae o’n cael effaith anferth.”

Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Jon Timmis, y “byddwn ni’n cyflogi llai o staff” unwaith bydd yr ailstrwythuro wedi digwydd

Yn ôl yr Athro Jon Timmis, mae’r sector addysg uwch yn “mynd trwy heriau digynsail – gan olygu bod rhaid i’n sefydliadau addasu i amgylchiadau gwahanol iawn”.

“Yn Aberystwyth, rydym yn canolbwyntio ar gynnal ein profiad myfyrwyr rhagorol, tra ar yr un pryd, yn derbyn bod ffioedd dysgu sy’n cael eu rheoleiddio gan lywodraeth dipyn yn is na’r costau mae prifysgolion yn eu talu i ddysgu myfyrwyr.

“Ers tro byd, mae prifysgolion wedi denu myfyrwyr rhyngwladol sy’n talu ffioedd uwch fel ffrwd incwm bwysig.

“Ond, mae newid yn rheolau fisa a mewnfudo’r DG yn cael effaith sylweddol ar allu prifysgolion i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ac o’r herwydd wedi gwneud recriwtio myfyrwyr domestig yn fwy cystadleuol hefyd.”

Dywedodd na fyddai “addasu prifysgolion i fod yn gynaliadwy yn ariannol yn digwydd, heb benderfyniadau anodd iawn”.

“Unwaith y byddwn ni wedi ailstrwythuro, byddwn ni’n cyflogi llai o staff, a fydd yn helpu cynaliadwyedd y brifysgol yn y dyfodol.

“Mae’r heriau ariannol hyn yn rhywbeth mae’r sector prifysgolion gyfan yn gorfod mynd i’r afael â nhw ac mae’n rhaid i ni weithredu er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’n prifysgol yn y rhan arbennig hwn o ganolbarth Cymru.”

Ychwanegodd bod y brifysgol yn “cydnabod yr ansicrwydd a ddaw yn sgil hyn a byddwn ni’n darparu cymorth ac yn anelu at weithio gyda’r undebau llafur”.

“Rydym hefyd wedi ymrwymo i leihau nifer y staff sy’n wynebu diswyddo, lle bo hynny’n bosibl a bydd cynllun diswyddo gwirfoddol ar gael i staff.”

Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd undeb UCU Cymru eu bod wedi’u “llorio ac yn flin gyda’r cyhoeddiad y bydd dros 150 o swyddi yn cael eu colli” yn y brifysgol

Dywedodd undeb UCU Cymru eu bod wedi’u “llorio ac yn flin gyda’r cyhoeddiad y bydd dros 150 o swyddi yn cael eu colli” yn y brifysgol.

“Daw hyn ar ôl colli mwy na 150 o gydweithwyr dros y 18 mis diwethaf yn y rownd flaenorol o ailstrwythuro.

“Bydd y rhan fwyaf o’r toriadau yma’n effeithio ar staff addysgu ac ymchwilo.”

‘Ergyd ddinistriol’

“Rydym yn amcangyfrif na fydd chwarter, i draean, o’n staff academaidd yn gweithio yn y brifysgol erbyn yr amser yma’r flwyddyn nesaf,” meddai UCU.

Ychwanegodd yr undeb y byddai’r colledion o ran swyddi yn “ergyd ddinistriol i’n prifysgol, ein myfyrwyr a’n cymuned”.

“Mae staff wedi synnu gyda graddfa a chyflymder yr hyn sy’n cael ei gynnig. Y tu ôl i bob swydd mae unigolyn, teulu, a blynyddoedd o wybodaeth, arbenigedd ac ymrwymiad sy’n helpu i wneud Prifysgol Aberystwyth yr hyn ag ydyw.”

Cefin Campbell

Disgrifiad o’r llun,

“Allwn ni ddim a gadael i’n prifysgolion i ddiodde’ dim rhagor,” medd Cefin Campbell AS

Ategodd yr Athro Jones-Evans y byddai’r economi yn gyffredinol yn cael ei heffeithio o golli’r staff, nid y brifysgol a’r dref ei hun yn unig.

“I fod yn deg – wel i fod yn annheg ‘swn i’n deud – mae’r prifathro, y bobl sy’n rhedeg y brifysgol a’r cyngor eu hunain, wedi cael digon o amser i ddatrys y problemau ‘ma.

“‘Dan ni gyd wedi gwybod ers dwy, dair blynadd, bod ‘na broblema’ hefo dod â myfyrwyr o dramor i mewn i Brydain, ond ma’ prifysgolion wedi rhoi eu pennau yn y tywod a dydyn nhw heb drio datrys y broblem yma.”

‘Un o’r gwaethaf ym Mhrydain’

“Ma’ Prifysgol Aberystwyth mewn sefyllfa ariannol ddrwg iawn a dydi hynna’ ddim yn digwydd dros nos.”

Ychwanegodd mai arian i “bara 30 diwrnod” sydd gan y brifysgol, “os ydy popeth yn mynd i’r wal”.

“Felly os yw rhywbeth yn mynd allan o’i le a bo’ nhw’n colli eu harian, mae ganddyn nhw 30 diwrnod o arian cyn iddyn nhw gau i lawr. Mae hynny’n un o’r gwaethaf – dim hyd yn oed yng Nghymru – ond ym Mhrydain.”

Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o’r llun,

Mae’r brifysgol yn cyflogi 1,819 o staff

Bu Cefin Campbell, y Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol, yn siarad ar raglen Post Prynhawn nos Fercher a dywedodd fod “unrhyw golledion o ran staff yn rhywbeth o gonsyrn i bawb ohonon ni”.

“Ond ry’n ni hefyd yn gwybod bod ein prifysgolion ni yn wynebu heriau ariannol difrifol iawn, bron â bod cyhoeddiadau fel hyn yn anorfod er mor siomedig ydyn nhw.

“Mae’n rhaid i fi fod yn onest na’th y llywodraeth ddiwetha’ anwybyddu’r heriau oedd yn wynebu ein prifysgolion ni.”

‘Dyfodol mwy cynaliadwy’

“Ry’n ni wedi dod mewn i lywodraeth a’r peth cyntaf y’n ni wedi’i wneud yw sefydlu’r panel yma er mwyn dod ag argymhellion gerbron i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy yn ariannol ac yn strwythurol hefyd i’n prifysgolion ni,” meddai’r AS.

“Allwn ni ddim a gadael i’n prifysgolion i ddiodde’ dim rhagor.”

Ychwanegodd Mr Campbell fod yn “rhaid i ni greu systemau sydd yn eu cynnal nhw, achos maen nhw’n bwysig yn economaidd i’w hardaloedd, ond maen nhw’n bwysig i’n myfyrwyr ni hefyd, o ran darparu dysg o safon uchel”.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x