
Roedd Bob Mortimer yn gyfreithiwr yn Llundain yn yr 1980au cyn iddo fynd i fyd comedi
GanBryn Jones
Yn gohebu oITV Cymru Fyw
Mae’r comedïwr Bob Mortimer wedi dweud iddo gyfarfod ditectif preifat o Gymru ddyddiau yn unig cyn iddo gael ei ddarganfod yn farw gyda bwyell yn ei ben.
Fe gafodd gynnig swydd gan Daniel Morgan, o Lanfrechfa ger Cwmbrân, a gafodd ei lofruddio mewn maes parcio tafarn yn ne-ddwyrain Llundain yn 1987.
Does neb wedi eu cyhuddo o’i lofruddio ac mae’r achos wedi dod yn un adnabyddus.

Mae teulu Daniel Morgan, a oedd yn dad i ddau, wedi bod yn brwydro am gyfiawnder ers bron i bedwar degawd
Fe gafodd Heddlu’r Met eu cyhuddo o “lygredd sefydliadol” gan banel annibynnol yn 2021 am guddio a gwadu eu methiannau yn yr ymchwiliad.
Yn 2023 fe wnaeth y llu ymddiheuro am beidio datgelu dogfennau mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth gan ddweud eu bod wedi cael eu darganfod mewn cwpwrdd yn eu pencadlys.
Mewn cyfweliad ar bodlediad The Romesh Ranganathan Show, dywedodd Bob Mortimer ei fod wedi cyfarfod Mr Morgan cyn iddo ddechrau yn y byd comedi.
Ar y pryd roedd yn gweithio fel twrnai yn ardal Peckham, Llundain, yn gwneud gwaith cymorth cyfreithiol ac ar gyflog isel. Daeth i adnabod Mr Morgan gan fod ei gyflogwr weithiau’n defnyddio’r ditectif preifat mewn achosion.
Fe gafodd Mr Mortimer wahoddiad i’w gyfarfod mewn tafarn i drafod y posibilrwydd o ddechrau gweithio iddo.
“Wnaeth o gynnig gwaith i mi – oedd yn lot fwy o bres,” meddai. “Tua phedwar diwrnod yn ddiweddarach cafodd ei ddarganfod yn farw, gyda bwyell yn ei ben, mewn maes parcio tu ôl i dafarn yn Sydenham.
“Mae’n achos eithaf enwog – Daniel Morgan.”
Ysbrydoli nofel
Dywedodd bod y digwyddiad wedi ysbrydoli ei nofel gyntaf The Satsuma Complex, a gafodd ei chyhoeddi yn 2022.
Eglurodd nad ydi o’n cynllunio ei nofelau o flaen llaw ond yn tueddu i feddwl am un olygfa neu sefyllfa ac yna’n dechrau ysgrifennu.
Meddai: “Tydi’r llyfr ddim ynglŷn â (llofruddiaeth Daniel Morgan) – ond ‘nes i feddwl ‘wna i fynd i’r lle yna (i ddechrau), fydd tua 2,000 o eiriau’ ac wedyn meddwl ‘lle wna i fynd rŵan?’ Rhywsut ti’n gorffen gyda llyfr.”
Yn The Satsuma Complex mae’r prif gymeriad Gary Thorn, sy’n gweithio fel cymhorthydd cyfraith, yn cyfarfod ei gyd-weithiwr Brendan mewn bar.
Drannoeth mae Brendan yn cael ei ganfod yn farw ac mae’r prif gymeriad, sef y person olaf i’w weld yn fyw, yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd iddo.

Bob Mortimer, dde, gyda’i bartner comedi Vic Reeves, neu Jim Moir
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







