
Mae Père Lachaise ym Mharis yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid a phobl sydd eisiau talu teyrnged i’w harwyr sydd wedi eu claddu yno, gan gynnwys y canwr Édith Piaf
GanBryn Jones
Yn gohebu oITV Cymru Fyw
Mae mynwentydd lle mae enwogion wedi cael eu claddu yn ennyn diddordeb gan bobl sy’n ymweld i dalu teyrnged i’w harwyr.
Ym Mharis mae mynwent Père Lachaise, sy’n cynnwys beddau pobl adnabyddus fel Chopin, Oscar Wilde a Jim Morrison, yn denu tua 3.5 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn.
Draw ym mynwent Hightage, Llundain, mae’n bosib mynd ar daith tywys ac mae’n rhaid prynu tocyn mynediad i weld rhan o’r fynwent lle mae Karl Marx wedi ei gladdu.
Ond ble mae rhai o feddau Cymry adnabyddus wedi eu lleoli?
Betsi Cadwaladr

Fe wnaeth Betsi Cadwaladr weithio yn rhyfel y Crimea gyda Florence Nightingale, ond doedd y ddwy ddim yn cyd-dynnu
Mae bwrdd iechyd y gogledd wedi ei enwi ar ôl y nyrs a gafodd ei geni a’i magu yn ardal Y Bala, ond yn Llundain mae bedd Betsi Cadwaladr.
Ar ôl gadael Cymru yn ferch ifanc a mynd i weini am gyfnod, bu’n teithio’r byd yn gweithio ar longau gan ddechrau gofalu am unrhywun oedd yn sâl. Fe aeth i weithio’n Guy’s Hospital, Llundain, cyn mynd i nyrsio yn rhyfel y Crimea yn 1854.
Fe wnaeth ei chyfnod yno adael ei ôl a dychwelodd gyda colera a dysentri. Bu farw yn 1860 a cafodd ei chladdu mewn bedd i dlodion ym mynwent Abney Park, Stoke Newington.
Yn 2012 gosodwyd carreg fedd newydd iddi gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ryan Davies

Ryan Davies, un o sêr adloniant disgleiriaf Cymru
Yn gomedïwr, actor, cerddor a chyfansoddwr – Ryan Davies oedd un o enwau mwyaf poblogaidd y byd adloniant yng Nghymru.
Daeth i amlygrwydd gyntaf gyda chyfres Fo a Fe cyn dod yn un rhan o Ryan a Ronnie, gyda Ronnie Williams, fu’n boblogaidd yn Gymraeg a Saesneg.
Fe wnaeth Ryan Davies gyfansoddi clasuron sy’n dal i gael eu canu hyd heddiw, gan gynnwys Nadolig Pwy a Ŵyr, Ti a Dy Ddoniau, Yn y Bore a Pan Fo’r Nos yn Hir.
Pan oedd o ddim ond yn 40 oed, bu farw yn dilyn ymosodiad asthma yn 1977 pan oedd yn ymweld â ffrindiau yn yr UDA.
Cludwyd ei gorff yn ôl i Gymru a chafodd ei gladdu ym mynwent capel Hen Fethel, ger Glanaman, Sir Gaerfyrddin, yn yr ardal lle cafodd ei fagu.
Cynan

Golygfa o Bont Britannia o leoliad bedd Cynan a’i wraig Nel, ym mynwent Eglwys Ynys Tysilio
Mae cerdded drwy Goed Cyrnol neu ar hyd y Promenâd Belgaidd ac ymlaen i Ynys Tysilio, yn Y Fenai, yn lle poblogaidd i fynd am dro ym Mhorthaethwy.
Ac mae unrhyw un sy’n cerdded o amgylch mynwent yr eglwys yno yn siŵr o basio bedd Cynan.
Er mai dyheu am gael bwthyn ger creigiau Aberdaron oedd o yn ei gerdd enwog, gweld a chlywed Y Fenai oedd o’n ei wneud wedi iddo symud o Bwllheli i Borthaethwy yn 1931.
Yn ogystal â’i gerdd boblogaidd Aberdaron – geiriau un o ganeuon Bwncath erbyn hyn – mae Cynan, neu Albert Evans-Jones, hefyd yn adnabyddus am ei gerddi o’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Bu farw’r bardd, dramodydd a chyn-archdderwydd yn 1970 ac mae wedi ei gladdu gyda’i wraig Nel.
Richard Burton

Bedd Richard Burton yn Y Swistir
Fe ddaeth y gŵr o Bont-rhyd-y-fen yn seren fyd-enwog diolch i ffilmiau Hollywood yr 1950au a’r 1960au, ond yn y Swistir mae bedd Richard Burton.
Wedi iddo ddod yn adnabyddus fel actor llwyfan yn Stratford-upon-Avon, Llundain a Broadway fe ddatblygodd yn un o ffigurau enwocaf ei ddydd.
Roedd yn denu sylw am ei ran mewn ffilmiau fel The Robe, The Spy Who Came in From the Cold a Who’s Afraid of Virginia Woolf – a’i fywyd personol lliwgar, gan gynnwys ei briodas (ddwywaith) i’r actores Elizabeth Taylor.
Symudodd i’r Swistir gyda’i wraig gyntaf Sybil – gan enwi eu cartref yn Pays de Galles – er mwyn osgoi talu treth. Bu farw yno ar 5 Awst 1984, yn 58, a chafodd ei gladdu yn yr hen fynwent yn Céligny.
Llywelyn Fawr

Arch garreg Llywelyn Fawr
Bu Llywelyn Fawr – neu Llywelyn ap Iorwerth – yn teyrnasu dros y rhan fwyaf o Gymru cyn ei farwolaeth yn 1240.
Fe gafodd ei gladdu yn Abaty Aberconwy, cyn i’r abaty orfod symyd i Maenan yn 1283 yn dilyn buddugoliaeth Edward I dros y Cymry.
Symudwyd arch garreg Llywelyn Fawr i Eglwys St Grwst, Llanrwst – y lleoliad hyd heddiw.
Ond mae’r arch garreg yn wag a heb gaead, a does dim cofnod o beth ddigwyddodd i weddillion Llywelyn Fawr.
Llywelyn ap Gruffydd a Gwenllian

Cofeb Cilmeri ac Abaty Cwm Hir i Llywelyn ap Gruffydd, a chofeb i’w ferch Gwenllian
Fel Llywelyn Fawr, mae ansicrwydd am leoliad corff ei ŵyr hefyd.
Mae carreg goffa yng Nghilmeri yn nodi’r man ble lladdwyd Llywelyn ap Gruffydd gan fyddin Edward I yn 1282.
Torrwyd ei ben a’i gludo i Lundain ond mae’n debyg i’w gorff gael ei gladdu yn Abaty Cwm Hir, lle mae llechen coffa wedi ei gosod.
Mae lleoliadau eraill wedi eu cynnig fel man claddu Llywelyn Ein Llyw Olaf hefyd, gan gynnwys Neuadd Llanrhymni, Caerdydd.
Fe gafodd ei ferch, Gwenllian, ei chipio gan y Saeson pan oedd hi’n blentyn ifanc iawn er mwyn rhoi diwedd ar linach y tywysogion Cymreig.
Cafodd ei dal yn garcharor yn lleiandy Sempringham ger Lincoln nes iddi farw yn 53 mlwydd oed, ble mae cofeb wedi ei osod i’w chofio.
Gwen John

Hunan-bortread o Gwen John
Fe wnaeth rhaglen deledu S4C Mamwlad gadarnhau lleoliad bedd yr artist o Gymru yn ôl yn 2014.
Roedd Gwen John wedi symud i Dieppe pan oedd hi’n oedrannus a marw’n sydyn ar drothwy’r Ail Ryfel Byd – a’i chladdu mewn bedd tlotyn.
Gyda chymorth ei gor-nith Sara John, fe wnaeth ymchwilwyr y rhaglen ganfod cofnod o’i bedd ym mynwent Janval, yn Dieppe.
Roedd wedi ei dogfennu fel Mary John – Gwendolyn Mary John oedd ei henw llawn – a doedd ‘na ddim carreg fedd.
Yn dilyn y rhaglen fe wnaeth cofeb iddi gael ei gosod yno.
Guto Nyth Brân

Bedd Guto Nyth Brân – a’r cerflun iddo gerllaw ym mhentref Aberpennar
Mae’r rhedwr llwyddiannus Griffith Morgan neu ‘Guto Nyth Brân’ wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Sant Gwynno yn Llanwynno.
Ei ras enwocaf oedd yr un olaf iddo’i rhedeg, lle trechodd ŵr o’r enw Prince trwy redeg 12 milltir mewn 53 munud. Ar ddiwedd y ras, mae’n debyg bod Siân ei gariad, wedi ei guro mor galed ar ei gefn nes i’r ergyd ei ladd.
Gosodwyd carreg ar ei fedd dros ganrif wedi ei farw.

Y fynwent tu allan i Eglwys Sant Gwynno sy’n fan gorffwys i’r rhedwr enwog Guto Nyth Brân
WJ Gruffydd

“Ar draws y gorwel lle â’r haul i lawr…” – bedd WJ Gruffydd ym mynwent Eglwys Llanddeiniolen
Ywen Llanddeiniolen ydi un o gerddi mwyaf adnabyddus WJ Gruffydd, ac mae’r bardd wedi ei gladdu yng nghysgod y goeden honno.
Roedd y bardd, a gafodd ei eni yn 1881 ym mhentref Bethel, ger Caernarfon, hefyd yn ysgolhaig, golygydd ac yn feirniad llenyddol.
Bu farw yn 1954 ac mae ei fedd ym mynwent Llanddeiniolen, ger y goeden ywen ‘hirymharous’ yn ei gerdd enwocaf.

Carreg fedd WJ Gruffydd – mae’r coed ywen ar y chwith, ger yr eglwys
David Lloyd George
Mae nifer o bobl yn ymweld â Llanystumdwy i ddysgu mwy am yr unig Gymro fu’n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Yn ogystal â mynd i Amgueddfa Lloyd George a gweld tu allan i’r tŷ lle’i magwyd, mae’n bosib talu teyrnged iddo wrth ei fedd ar lan Afon Dwyryd.
Ar 30 Mawrth 1945, roedd cannoedd yn gwylio’r orymdaith o’i gartref yn Nhŷ Newydd i’w gladdedigaeth fawreddog.
Y gwleidydd wnaeth ddewis lleoliad y bedd, a gafodd ei ddylunio gan ei ffrind Syr Clough Williams-Ellis, sylfaenydd a phensaer Portmeirion.

Fe wnaeth cannoedd o bobl ardal Llanystumdwy wylio claddedigaeth David Lloyd-George yma ar lan Afon Dwyryd
William Williams Pantycelyn
Fe gafodd un o brif emynwyr Cymru ei eni ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn ger Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, ac yn 1791 yno fu farw hefyd – yn 74 oed.
Mae wedi ei gladdu ym mynwent yr eglwys yno a’i garreg fedd yn adlewyrchu ei statws.

Un o emynau mwyaf adnabyddus William Williams Pantycelyn ydi Arglwydd, Arwain Trwy’r Anialwch, neu Guide Me, O Thou Great Reedemer
Yr Esgob William Morgan

Fe symudodd yr Esgob William Morgan o weithio yng Ngadeirlan Llandaf i Lanelwy yn 1601
Mae’r Esgob William Morgan yn cael ei glodfori am ei waith yn cyfieithu’r Beibl a thrwy hynny helpu sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg – ac mae wedi ei gladdu mewn lleoliad teilwng.
Fe gafodd ei fagu yn Nhŷ Mawr Wybrnant, ger Penmachnno, cyn ei urddo’n offeiriad yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, a dod yn esgob yn Llandaf a Llanelwy.
Fe’i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddiwrnod wedi ei farwolaeth ar 10 Medi 1604. Does ‘na ddim carreg fedd na chofeb fanwl-gywir yn nodi ei union leoliad y tu mewn, ond mae traddodiad yn awgrymu ei fod wedi ei gladdu rhywle ger yr uchel allor neu o dan gadair yr esgob.
Saunders Lewis

Y gwleidydd, academydd a llenor Saunders Lewis
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







