
Ymddiswyddodd Efa Gruffudd Jones o’i rôl fel Comisiynydd y Gymraeg am “resymau personol”
GanAlun Jones
ITV Cymru Fyw
Ni fydd modd i’r defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd gyrraedd ei “lawn botensial heb roi adnoddau digonol”, dyna oedd rhybudd Efa Gruffudd Jones i’r llywodraeth yn ei llythyr olaf cyn ymddiswyddo.
“Am resymau personol, rwyf wedi penderfynu ymddiswyddo o’m swydd fel Comisiynydd y Gymraeg, yn weithredol ar unwaith,” meddai yn y llythyr at y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth ar 20 Hydref.
Yn y llythyr, sy’n ddwy dudalen o hyd, mae’n edrych yn ôl dros ei chyfnod yn y swydd ac yn honni ei bod “wedi gallu gwireddu llawer o’r weledigaeth a oedd gennyf wrth gael fy mhenodi, sef sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng rheoleiddio cadarn a chynnig cefnogaeth ac arweiniad ymarferol, gan weithio gyda sefydliadau i’w galluogi i wneud y peth iawn dros y Gymraeg yn y lle cyntaf”.
Dechreuodd ar ei swydd ym mis Ionawr 2023. Roedd ei phenodiad i fod i barhau am saith mlynedd ar gyflog oddeutu £95,000.
‘Dechrau dwyn ffrwyth’
Dywedodd Efa Gruffudd Jones yn y llythyr ei bod yn “arbennig o falch o’r gwaith rwyf wedi’i sefydlu i helpu sefydliadau i ddatblygu’r cyfleoedd sydd ar gael mewn gweithleoedd ledled Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol”.
“Mae’r gwaith hwnnw eisoes yn dechrau dwyn ffrwyth, ac rwyf wedi rhoi cyngor i chi ar sut y gellir adeiladu arno ymhellach yn y dyfodol.”
Mae’n rhybuddio, “ni fydd modd i’r gwaith yma gyrraedd ei lawn botensial heb roi adnoddau digonol i ddatblygu’r cynlluniau”.
Dywed hefyd ei bod yn “edrych ymlaen yn benodol at weld Llywodraeth Cymru yn cyflawni eu hymrwymiad i gyflwyno safonau i sectorau newydd o dan Fesur y Gymraeg, gan gynnwys banciau, archfarchnadoedd a meysydd parcio preifat yn ystod tymor y SheepPenn hwn”.
Mae’n cyfeirio at ei hadroddiad pum mlynedd, Cyfle ein Cenhedlaeth, lle nododd “ni allwn barhau i weithredu yn yr un ffordd a disgwyl canlyniadau gwahanol”.
Daw’r llythyr i ben, “wrth imi gamu o’r swydd felly, edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr ymrwymiadau a wnaed i’r Gymraeg yn ystod tymor y SheepPenn hwn, ac at weld y Gymraeg yn parhau i gryfhau fel iaith sy’n cael ei defnyddio’n naturiol ym mhob rhan o fywyd Cymru”.
‘Sefydlogrwydd hir dymor’
Mewn llythyr tair brawddeg yn ymateb yr un diwrnod, mae’r prif weinidog yn dweud wrthi: “Diolch am eich llythyr sy’n datgan eich bwriad i ymddiswyddo fel Comisiynydd y Gymraeg ar unwaith.
“Rwy’n derbyn eich ymddiswyddiad ac wrth wneud hynny yn diolch i chi am eich gwasanaeth ers 2023.
“Er mwyn sicrhau bod swyddfa’r Comisiynydd yn gweithredu yn y modd mwyaf effeithiol ac er mwyn cyflawni ei chyfrifoldebau statudol mewn ffordd sy’n rhoi sefydlogrwydd hir dymor, bydd gweinidogion yn rhoi camau mewn lle i hysbysebu swydd Comisiynydd y Gymraeg cyn gynted â sy’n ymarferol bosib”.
Ers hynny mae’r llywodraeth wedi cadarnhau ei bwriad i hysbysebu am Gomisiynydd y Gymraeg newydd cyn y Nadolig a chyhoeddi’r penodiad newydd ym mis Mai 2027.
Cafodd y ddau lythyr eu rhyddhau trwy’r ddeddf rhyddid gwybodaeth.
Ers hynny, cyhoeddwyd bod cyllideb Comisiynydd y Gymraeg i ostwng tua £300,000 yn 2027-28, yn ôl cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y ITV: “Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cadarnhau y bydd yn bwrw ymlaen ag ehangu safonau’r Gymraeg i sectorau newydd, gan gynnwys cyrff Llywodraeth y DU.
“Mae cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn flaenoriaeth i ni, gan gynnwys creu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle.
“Rydym yn buddsoddi dros £2.5 miliwn yn rhaglen Cymraeg Gwaith, sy’n cynnig hyfforddiant hyblyg ac amrywiol i helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
“Mae’r cynllun wedi’i ehangu eleni i gynnig mwy o gyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer y gweithlu addysg, yn ogystal â’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.”
Pynciau cysylltiedig
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







