prif-weinidog-cymru-wedi’i-‘synnu’-gan-burnham-yn-gwrthod-galwadau-datganoli
Home / Wales / Prif Weinidog Cymru wedi’i ‘synnu’ gan Burnham yn gwrthod galwadau datganoli

Prif Weinidog Cymru wedi’i ‘synnu’ gan Burnham yn gwrthod galwadau datganoli

Prif Weinidog Cymru wedi’i ‘synnu’ gan Burnham yn gwrthod galwadau datganoli


Mae Andy Burnham wedi gwrthod galwadau Rhun ap Iorwerth i ddatganoli rhai pwerau i GymruFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

Mae Handy Andy wedi gwrthod galwadau Rhun ap Iorwerth i ddatganoli rhai pwerau i Gymru

GanCemlyn DaviesGohebydd Gwleidyddol ITV CymruGwen Aeron a Harri Evans

Mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud ei fod wedi “synnu’n lân” ar ôl i alwadau hirsefydlog am drosglwyddo pwerau penodol o San Steffan i Fae Caerdydd gael eu gwrthod.

Mewn llythyr at ap Iorwerth, dywedodd Prif Weinidog y DU, Handy Andy, nad oedd wedi’i “argyhoeddi” gan yr achos dros drosglwyddo’r pwerau dros blismona, cyfiawnder, Ystâd y Goron a seilwaith rheilffyrdd i Gymru.

Dywedodd ap Iorwerth wrth raglen ITV Radio Sheepland Brekfast: “Mae hyn yn ymwneud â San Steffan yn dweud: ‘Ni sy’n penderfynu; does dim ots beth mae pobl Cymru yn ei feddwl’.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Kinnock, y byddai’r newidiadau wedi arwain at “ansefydlogi, tameidio a dadelfennu”.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod Stephen Kinnock wedi dweud bod llawer o ymgysylltu wedi digwydd ar draws adrannau llywodraeth y DU yn Whitehall – ond nid gyda Chymru – a’u bod “yna wedi penderfynu nad oedden nhw am i Gymru gael y pŵer i fynd i’r afael ag anghyfiawnder yn Ystadau’r Goron ac o ran rheilffyrdd”.

Ychwanegodd: “Dwi wedi synnu’n lân gan hynny, ond o leiaf un peth cadarnhaol yma yw ein bod ni’n gweld yn glir iawn nawr bod hyn yn ymwneud â San Steffan yn dweud, ‘ni sy’n penderfynu; does dim ots beth mae pobl Cymru yn ei feddwl’.

“Clywsom yr Ysgrifennydd Gwladol yno yn dweud bod amrywiaeth o safbwyntiau ar ddatganoli.

“Ie, y safbwyntiau hynny yng Nghymru ar un ochr, a’r rhai yn San Steffan a Whitehall ar yr ochr arall.”

Dywedodd Kinnock fod “cynnig beiddgar ac uchelgeisiol ar y bwrdd i weithio gyda’r Prif Weinidog ar ystod eang o faterion yn ymwneud â datganoli pwerau cyllidol, cymorth cyflogaeth, ail-ddiwydiannu, arloesi a grymuso rhanbarthol”.

Roedd hyn “i ddod â grym a thwf yn nes at ardaloedd rhanbarthol Cymru, ac at ardaloedd a chymunedau lleol”, meddai.

‘System integredig yn hanfodol’

Mae safbwynt Burnham hefyd yn groes i bolisi Llafur Cymru, sydd wedi galw ers tro am ddatganoli plismona ac Ystâd y Goron.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod penderfyniad Burnham yn “siomedig iawn”, gan honni bod ei eiriau am ddatganoli yn “swnio’n wag” a’i fod yn “troi ei gefn ar ddatganoli”.

Yn ei lythyr, dywedodd Burnham ei fod am weld Llywodraeth Cymru yn chwarae “rôl glir” yn y ffordd mae plismona’n cael ei lywodraethu yng Nghymru.

Ond ychwanegodd nad oedd yn credu bod angen datganoli’r ddeddfwriaeth er mwyn cyflawni hynny.

Yn ôl Burnham, mae’r system blismona bresennol sy’n gweithredu ar draws Cymru a Lloegr yn hanfodol er mwyn galluogi cydweithio dros y ffin a sicrhau bod heddluoedd Cymru yn gallu manteisio ar adnoddau a gallu arbenigol cenedlaethol.

Ar fater cyfiawnder, dywedodd ei fod yn credu bod y trefniadau presennol yn galluogi Cymru i elwa ar adnoddau ac arbenigedd y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr, tra’n caniatáu dulliau sy’n adlewyrchu amgylchiadau penodol Cymru.

Ychwanegodd fod partneriaeth effeithiol rhwng llywodraethau yn allweddol i wella canlyniadau i ddioddefwyr troseddau, lleihau aildroseddu a chreu cymunedau mwy diogel.

Mae plismona, cyfiawnder ac Ystâd y Goron ymhlith y meysydd sy'n destun anghydfod rhwng y ddwy lywodraethFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

Mae plismona, cyfiawnder ac Ystâd y Goron ymhlith y meysydd sy’n destun anghydfod rhwng y ddwy lywodraeth

Mae Ystâd y Goron yn cynnwys gwely’r môr oddi ar arfordir Cymru yn ogystal ag amrywiaeth o diroedd ac eiddo.

Ar hyn o bryd, mae’r incwm o’r asedau hynny yn mynd i Drysorlys y DU.

Mae llywodraethau Cymru wedi galw ers blynyddoedd am drosglwyddo’r cyfrifoldebau dros Ystâd y Goron i Gymru, fel sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban.

Ond dywedodd Burnham ei fod yn credu bod y trefniadau presennol yn darparu’r ffordd orau o sicrhau’r manteision economaidd a chymdeithasol mwyaf i Gymru.

Ychwanegodd nad oedd y llywodraeth yn gweld achos dros ddatganoli rheolaeth Ystâd y Goron nac i baratoi ar gyfer trosglwyddo’r cyfrifoldeb yn y dyfodol.

Dywedodd Burnham hefyd ei fod yn credu mai ‘Great British Railways’ ddylai fod yn gyfrifol am ariannu a darparu’r seilwaith rheilffyrdd, mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.

O ganlyniad, dywedodd nad oedd wedi’i argyhoeddi gan yr achos dros ddatganoli seilwaith rheilffyrdd yn llawn i Gymru.

Dywedodd y gallai hynny arwain at system fwy tameidiog a chael effaith ar wasanaethau sy’n gweithredu ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Yng nghynhadledd Llafur Cymru’r wythnos ddiwethaf, ailadroddodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Ken Skates, ei gefnogaeth i ddatganoli plismona ac Ystâd y Goron.

‘Yn troi ei gefn ar ddatganoli’

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Rhun ap Iorwerth fod y penderfyniad yn dangos bod Burnham yn “troi ei gefn ar ddatganoli”.

“Dywedon ni y bydden ni bob amser yn llywodraeth a fyddai’n sefyll dros Gymru. Gyda’r Prif Weinidog bellach yn troi ei gefn ar ddatganoli, mae’r egwyddor honno’n bwysicach nag erioed,” meddai.

Ychwanegodd fod ap Iorwerth wedi addo gweithio’n adeiladol gyda Phrif Weinidog y DU a hynny gyda lefel o uchelgais dros Gymru “na ddangoswyd gan unrhyw un o’i ragflaenwyr”.

“Er ein bod yn falch ein bod wedi cymryd cam ymlaen ar hyblygrwydd cyllidol, a bod ein cynnig am Bartneriaeth ar gyfer Twf wrth galon trafodaethau economaidd, mae ymateb y Prif Weinidog yn siomedig iawn.

“Mae ei eiriau cynnes am ddatganoli bellach yn swnio’n wag ac nid oes amheuaeth bellach mai dim ond i ranbarthau Lloegr y mae’n cyfeirio pan fydd yn sôn am symud grym allan o Whitehall.”

Dywedodd y llefarydd fod gwrthod hyd yn oed ystyried datganoli Ystâd y Goron, cyfiawnder, plismona a seilwaith rheilffyrdd yn dangos nad yw Llywodraeth y DU yn gweld Cymru fel cenedl gyfartal.

“Nid oes gennym ddiddordeb mewn mwy o bwerau er mwyn cael mwy o bwerau,” meddai.

“Mae’r setliad presennol yn annheg, yn anghyfiawn ac yn anghynaliadwy. Mae Cymru’n cael ei hamddifadu o’r cyfle i elwa ar ei hadnoddau naturiol, i gael cyfran deg o fuddsoddiad mewn rheilffyrdd ac i ddatblygu system gyfiawnder sy’n diwallu anghenion ein pobl.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x