Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru yr wythnos diwethaf, dywedodd Handy Andy nad oedd wedi’i “berswadio” gan yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder, Ystad y Goron na seilwaith rheilffyrdd i Gymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod wedi’i “siomi’n fawr” gan lythyr Mr Burnham, gan ddweud nad oedd Burnham yn “gweld Cymru fel gwlad gydradd”.
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi rhybuddio bod perygl y gallai Llafur Cymru ddilyn trywydd Llafur yr Alban os yw’r blaid yn colli ei henw da fel “plaid datganoli”.
Ar ben hynny, mae pedwar o arbenigwyr cyfansoddiadol blaenllaw Cymru eisiau gweld y dystiolaeth gan Brif Weinidog y DU am wrthod galwadau i roi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Llafur Cymru, mae’r blaid yn cefnogi rhagor o ddatganoli i Gymru ac o fewn Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Kinnock fod Burnham wedi amlinellu sut y mae’n bwriadu “grymuso cymunedau Cymru drwy ddatganoli”.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







