cymru’n-colli-yn-erbyn-portiwgal-ac-yn-wynebu-gemau-ail-gyfle
Home / Wales / Cymru’n colli yn erbyn Portiwgal ac yn wynebu gemau ail gyfle

Cymru’n colli yn erbyn Portiwgal ac yn wynebu gemau ail gyfle

Cymru’n colli yn erbyn Portiwgal ac yn wynebu gemau ail gyfle


Cymru v PortiwgalFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Gymru aros tan ddydd Gwener i weld pwy fydd y gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle

GanGwydion Edwards

ITV Cymru Fyw

Colli a wnaeth Cymru nos Fawrth yn erbyn Portiwgal yng Nghynghrair y Cenhedloedd, gyda sgôr terfynol o 2-3.

Roedd hi’n gêm gyffrous llawn goliau, gyda David Brooks a Sorba Thomas yn rhwydo i’r tîm cartref yng Nghaerdydd. Bruno Fernandes, Pedro Neto a Carlos Forbs wnaeth sgorio dros Bortiwgal.

Ond roedd tynged y Cymry eisoes wedi’i benderfynu cyn y chwiban cyntaf, gan nad oedd posib osgoi gorffen ar waelod y grŵp yn dilyn y golled yn erbyn Norwy ddydd Sadwrn diwethaf.

Golyga hynny, ar ôl chwarae’r holl gemau’n erbyn Portiwgal, Denmarc a Norwy, y bydden nhw rŵan yn gorfod chwarae dwy gêm ail gyfle i drio osgoi disgyn o’r haen uchaf, Adran A, lawr i B yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Caiff enwau’r timau sydd i wynebu ei gilydd yn y gemau dau gymal hynny, eu tynnu o het ddydd Gwener 2 Tachwedd, gyda Chymru i wynebu un o’r timau wnaeth orffen yn ail yn Adran B.

Sorba ThomasFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sorba Thomas yn un wnaeth sgorio

Y tîm oddi cartref sgoriodd yn gyntaf wedi tua 10 munud, wrth i Joao Neves fanteisio ar gamgymeriad gwael gan Josh Sheehan ger y cwrt cosbi ac yna Bruno Fernandes yn chwipio’r bêl i gornel uchaf y rhwyd. 0-1.

Ond ymateb a wnaeth y Cymry yn syth wrth i ergyd Harry Wilson gael ei harbed, ond David Brooks yn ymateb a gorffen yn daclus i gornel y rhwyd.

Roedd y dynion mewn coch yn chwarae’n dda ar y cyfan ac mi gafodd y ddau dîm gyfnodau o gyfleoedd da yn ystod yr hanner cyntaf.

Aeth Cymru ar y blaen am gyfnod, wrth i Brooks fwydo’r bêl o flaen Thomas ac ef yna’n gorffen y cyfle yn effeithiol.

Ond byrhoedlog oedd y fantais honno, wedi’i Francisco Trincao groesi’n ddyfn i’r postyn cefn a Pedro Neto yn cyrraedd i rwydo. 2-2 ar yr hanner.

Cerdyn coch i NetoFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Pedro Neto gerdyn coch

Tawelu a wnaeth y cyfleoedd am ran helaeth o’r ail hanner, ond roedd hi’n amlwg bod y ddau dîm eisiau ennill.

Ond wrth i’r gêm ddatblygu roedd y cyfleoedd yn mynd o un cyfeiriad i’r llall eto, gyda nifer o gyfleoedd yn cael eu methu yn y glaw trwm.

Daeth y drydedd i Bortiwgal yn y diwedd, a hynny trwy ffurf Carlos Forbs wrth i Ben Cabango benio pêl hir i ffwrdd i’w gyfeiriad ac ef yna’n gorffen.

Cafodd Neto gerdyn coch gan y dyfarnwr am dderbyn dau felyn wedi hynny.

Er gwaethaf pwysau mawr gan Gymru at derfyn y gêm, 2-3 oedd y sgôr yn y pen draw a cholled arall i’r cochion.

Harry WilsonFfynhonnell y llun, Copyright Hackers PLC

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harry Wilson yn cael ei ganmol ar y noson

Gallai aros yn Adran A helpu Cymru i gyrraedd Euro 2028, oherwydd y byddai’n eu gwneud yn un o’r prif ddetholion ar gyfer rowndiau rhagbrofol Euro 2028.

Byddai’n eu galluogi i osgoi bod mewn grŵp gyda rhai o gewri Ewrop – timau fel Ffrainc, Sbaen, Yr Eidal a’r Iseldiroedd.

Gan fod Cymru yn un o’r gwledydd a fydd yn cynnal Euro 2028 ar y cyd gyda Lloegr, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon – mae cyfle gwell na’r arfer o gyrraedd y rowndiau terfynol.

Mae dau le wrth gefn yn cael eu cadw i’r gwledydd sy’n cynnal y gystadleuaeth, rhag ofn iddyn nhw fethu â chyrraedd trwy’r rowndiau rhagbrofol.

Bydd enwau yn dod allan o het eto ym mis Rhagfyr ar gyfer y rowndiau rhagbrofol, gyda’r gemau hynny i gael eu chwarae yn 2027.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x