
Dywedodd gwraig Iolo Edwards bod rhaid iddo ddisgwyl 28 awr yn yr ysbyty am driniaeth wedi iddo ddioddef llid yr ymennydd
GanHarri Evans
ITV Cymru Fyw
Mae dynes o Sir Conwy yn dweud bod ei gŵr wedi aros 28 awr i gael triniaeth am lid yr ymennydd, gan gynnwys “11 awr ar y llawr yn y man aros”, yn Ysbyty Glan Clwyd.
Wedi ail ymweliad â’i feddyg teulu ar ôl iddo brofi cur yn pen, blinder a chyfog, aeth Iolo Edwards, o Lansannan, i’r adran damweiniau ac achosion brys gyda llythyr gan ei feddyg yn dweud ei fod angen ei weld “ar frys”.
Dywedodd ei wraig, Mari Hughes, a oedd gyda fo’r holl amser, bod “pobl yn camu dros” ei gŵr wrth iddo “fynd yn waeth ac yn waeth” tra ar lawr yr ystafell aros.
Mewn llythyr at y teulu, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro bod Iolo Edwards wedi gorfod cael ei drin yn yr ystafell aros – ond yn mynnu bod ymchwiliad wedi canfod nad oedden nhw wedi methu â chyflawni eu dyletswydd gofal.
Daw sylwadau Ms Hughes wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun fydd yn dod â gofal mewn coridorau i ben erbyn 2029 a helpu cleifion i ddychwelyd adref o’r ysbyty o fewn 72 awr.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gormod o bobl yn wynebu oedi hir ac yn cael profiadau gwael, ac yn nodi cyfres o dargedau i’w cyrraedd dros bum mlynedd er mwyn cyflymu gofal a sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd adref yn gynt.
Bydd mesurau perfformiad newydd hefyd yn cael eu cofnodi o’r gwanwyn nesaf, a bydd £23m o gyllid yn cael ei glustnodi ar ei gyfer.

“Roedd o’n andros o anodd,” meddai Mari
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Mari fod ei gŵr wedi dechrau profi cur yn pen bum diwrnod ynghynt.
Aethon nhw at eu meddyg teulu a chafodd Iolo dabledi ar gyfer meigryn i ddechrau, meddai Mari.
Ond y prynhawn hwnnw, dywedodd Mari fod Iolo “ddim wedi stopio bod yn sâl” ac aethon nhw i’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd lle dywedodd meddyg, ar ôl cynnal profion gwaed, ei fod yn debygol yn dioddef o’r ffliw.
Dywedodd Mari iddi fynd i’r gwaith y diwrnod canlynol ond ar ôl galw Iolo yn ystod ei hegwyl, roedd yn amlwg fod ei sefyllfa wedi gwaethygu.
“Roedd o’n bod yn sâl tra ar y ffôn efo fi,” meddai.
“Aethon ni’n syth yn ôl at y meddyg teulu a wnaeth y doctor weld bod Iolo wedi gwaethygu lot ers y diwrnod cynt ac oedd o’n amau bod ganddo viral meningitis.”

Cafodd Iolo ei symud i’r coridor ar ôl treulio 11 awr yn yr ystafell aros, meddai Mari
Dywedodd Mari fod y meddyg wedi galw’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd ac wedi rhoi llythyr iddi yn dweud fod Iolo angen ei weld “ar frys”.
“Aethon ni syth i’r A&E, cyrraedd yna tua 13:00, a wnes i fynd efo’r llythyr at y dderbynfa a dywedon nhw i ni fynd i’r man aros,” meddai.
“Erbyn hyn roedd Iolo’n mynd i fewn ac allan o bod yn neffro, roedd o’n gorwedd ar y llawr wrth y vending machine am oriau a pobl yn camu drosda fo.”

Roedd pobl yn camu dros Iolo tra’r oedd ar lawr yr ystafell aros, meddai Mari
Roedd Mari’n 22 wythnos yn feichiog ac “mewn poen” wrth iddi “fynd at y staff o hyd yn dweud bod gennon ni lythyr”.
“Roedd Iolo’n gwaethygu ac yn mynd yn dehydrated hefyd. Ar un adeg o’n i’n meddwl bydd rhaid i fi ffonio 999,” meddai.
“Wnaeth o dreulio 11 awr ar y llawr yn y man aros cyn cael corridor care. Roedd o’n 28 awr erbyn iddo gael y driniaeth roedd o angen.
“Wnes i fygwth mynd a fo i Walton achos o’n i’n mynd yn upset yn gweld o’n mynd yn waeth ac yn waeth.
“Doedd o methu isda mewn cadair a doedd o ddim yn ymateb i fi ac o’n i’n teimlo bod y staff ddim yn cymryd o’n ddifrifol.”
Ymateb y Bwrdd Iechyd
Mewn llythyr at Mrs Hughes yn ymateb i gŵyn am y gofal a dderbyniodd ei gŵr, fe ymddiheurodd y bwrdd iechyd am y profiad a gafodd Iolo Edwards a’i deulu o orfod disgwyl yn yr ystafell aros tra’n cael ei drin.
Fe wnaeth y bwrdd iechyd hefyd ymddiheuro am beidio â gallu darparu “safon yr amgylchedd y mae pob claf yn ei haeddu”.
Roedd hefyd ymddiheuriad am y gofid a achoswyd gan y digwyddiadau.
Fodd bynnag, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn mynnu bod ymchwiliad wedi canfod nad oedden nhw wedi methu â chyflawni eu dyletswydd gofal.

Fe dreuliodd Iolo 19 diwrnod yn yr ysbyty
Dywedodd Mari fod Iolo wedi treulio cyfanswm o 19 diwrnod yn yr ysbyty – cyfnod a allai wedi bod yn llawer byrrach pe bai ei gŵr wedi cael ei weld yn syth, mae’n honni.
“Roedd o’n andros o anodd. A be dwi di ddysgu am lid yr ymennydd wedyn ydi bod intervention yn andros o bwysig,” meddai.
“Os bysa fo wedi cael ei weld yn syth fysa fo wedi mynd adra lot cynharach. Mae hyn wedi costio’r GIG lot o bres achos doedden nhw ddim yn gwrando i’r meddyg teulu.”
Mae Iolo bellach dan ofal ysbyty arbenigol Walton yn Lerpwl lle mae’n cael archwiliad pob chwe mis.
“Mae o dal i ddioddef efo fatigue a ddim yn cofio pethau mor dda a mae’n cael cur pen. Mae o’n gwybod lle mae’r aneurysm yn ei ymennydd felly os mae’n cael cur yn pen yn y rhan yna mae’n gwbod i fynd yn syth i’r ysbyty.
“Mae o’n ôl yn gwaith ond ‘dio ddim yn teimlo fel oedd o’r blaen.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.







