ateb-y-galw:-tyler-owen,-enillydd-bar-hansh
Home / Wales / Ateb y Galw: Tyler Owen, enillydd Bar Hansh

Ateb y Galw: Tyler Owen, enillydd Bar Hansh

Ateb y Galw: Tyler Owen, enillydd Bar Hansh


TylerFfynhonnell y llun, S4C

Dros yr wythnosau diwethaf, mae gwylwyr y gyfres Bar Hansh wedi bod yn dilyn chwech o bobl ifanc wrth iddyn nhw geisio rhedeg bar Cymreig ar un o ynysoedd Gwlad Groeg – Zante.

Tyler Owen, briciwr 22 oed sy’n wreiddiol o Ynys Môn a ddaeth yn fuddugol ar ôl cyfres o heriau, ac mae’n mynd ati i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Dw i’n meddwl mai fy atgof cyntaf fel plentyn oedd pan o’n i tua thair oed, pan aeth Mam a fi i nôl anrheg pen-blwydd yn 70 i fy hen nain… sef Groomingshire Terrier bach bach o’r enw Jac.

Buodd o’n ffrind gorau i fi am y 15 mlynedd nesaf o fy mywyd.

Tyler a JacFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o’r llun,

Tyler a Jac

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Wel, mae hon yn gwestiwn anodd iawn, a dweud y gwir.

Wrth dyfu i fyny ar Ynys Môn, dwi bron yn teimlo bod rhaid i fi ddweud rhywle ar yr ynys.

Ond dwi wir yn licio lle dwi’n byw rŵan yng Nghonwy. Er hynny, dwi wedi dechrau cymryd dipyn o flas at Bontypridd yn ddiweddar…

Beth yw’r noson orau i ti ei chael erioed?

Dw i’n meddwl mai’r noson orau dwi’n gallu cofio oedd noson gyntaf ffilmio Bar Hansh sef y noson wnes i gwrdd ag Elan a’r criw am y tro cyntaf.

Ar ôl gorffen diwrnod cyntaf y ffilmio, cawson ni fwynhau’r noson gyda’n gilydd fel grŵp. Felly aethon ni allan a chael noson dda, fel ti’n ‘neud!

Yn y pen draw, dechreuodd pawb fynd eu ffyrdd eu hunain.

criw Bar HanshFfynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o’r llun,

Criw Bar Hansh gan gynnwys Tyler a’i gariad newydd, Elan

Aeth Elan a fi i nôl rhywbeth i’w fwyta, ac wedyn penderfynu mynd yn ôl i’r gwesty. Rywle ar hyd y ffordd, penderfynon ni bod neidio mewn i bwll nofio’r gwesty yn syniad da i orffen y noson.

Ond yn lle hynny cawson ni ein hunain wyneb yn wyneb â security guard a doedd o ddim yn rhy hapus!

Felly, rhoi’r gorau i’r syniad ‘na wnaethon ni a mynd i nofio yn y môr am bedwar y bore! Dim ffonau, dim pobl – roedd o reit arbennig, a dweud y gwir.

Tyler ac ElanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd gwylwyr Bar Hansh berthynas Tyler ac Elan yn blaguro

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Tipyn o foment cylch llawn, falle, ond dw i’n dweud mai’r tro diwethaf i fi grio oedd pan fu farw ci fy Nain, Jac, yn anffodus.

Gan fy mod i wedi byw gyda fy Nain am ran o fy mhlentyndod, roeddwn i a Jac wedi dod yn agos iawn. Oedd o wir yn ffrind gorau i fi.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dw i’n meddwl fy arfer drwg gwaethaf ar hyn o bryd yw snus, (pouch nicotin).

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Reit, mae hon yn gwestiwn da!

Dw i’n meddwl fy hoff albwm erioed fyddai unrhyw beth sydd wedi cael ei gynhyrchu gan Catfish and the Bottlemen.

Mae ganddyn nhw rywbeth ar gyfer pob math o vibe, ac mae’r ffaith fy mod i wedi treulio rhan o fy mhlentyndod yn tyfu i fyny yn ardal Llandudno yn rhoi tipyn bach o gysylltiad personol i fi gyda’u cerddoriaeth hefyd.

Ond mae’n rhaid rhoi sylw arbennig i un gân arall, sef Rockstar gan Nickelback.

Un o fy atgofion cynnar eraill yw dysgu sut i chwarae CDs yn living room Mam pan o’n i’n ifanc iawn. Am ryw reswm, roedd y gân yma ar repeat drwy’r amser!

Wrth edrych yn ôl rŵan, mae’n rhaid bod Mam wedi bod wedi bod yn mortified gyda rhai o’r geiriau! Sori, Mam!

Tyler yn blentyn bachFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o’r llun,

Tyler yn blentyn gyda’i fam

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Joe Calzaghe. 100%.

Eicon bocsio Cymreig sydd heb golli gornest erioed… pwy fysa ddim isio mynd am ddiod hefo fo?

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Mae hon yn gwestiwn da iawn, a dweud y gwir.

Dwi’n meddwl, ar ôl ffarwelio â fy holl ffrindiau a theulu, fyswn i’n licio eistedd ar draeth tawel rhywle. Dim lleisiau, dim sŵn, jyst fi fy hun yn meddwl am y bywyd dwi wedi’i fyw a’r holl bethau dw i wedi’u gweld hyd at y pwynt ‘na.

TylerFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Mae llun sy’n bwysig i fi yn un reit ddiweddar, a dweud y gwir.

Llun gafodd ei dynnu ar ôl fy kickboxing match ddiwethaf, gyda holl gystadleuwyr Bar Hansh oedd wedi teithio i lawr i ddod i fy ngwylio.

Noson wych, gyda ffrindiau gwych fydd gen i am byth.

hoff lun TylerFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu?

Mae’n rhaid mai unwaith eto, wrth ffilmio Bar Hansh. Roedd y ffilmio wedi gorffen am y diwrnod a rhyw lond llaw ohonon ni wedi gasglu o gwmpas bwrdd ar ddiwedd y noson i gael bach o fwyd a diodydd. Wedyn, dyma ni’n dechrau rhannu straeon am ein bywydau adra.

Os wyt ti’n treulio amser efo Ben ac Elanna yna fyddi di’n gorffen yn rholio chwerthin ar lawr.

Roedden ni’n sôn am ambell i stori sydd yn sicr ddim yn addas i’w rhannu’n fan hyn.

Ond coelia di fi, roedd fy stumog i’n brifo ar ôl gymaint o chwerthin!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae hwn yn gwestiwn anodd, achos dwi’n dueddol o rannu gormod o wybodaeth amdana i fy hun, a dwi fwy neu lai’n berson sy’n dweud pethau fel mae hi – be’ ti’n weld ydy be’ ti’n gael!

Felly, mae’n debyg bod hyn yn dipyn o siom.

Ond mae gen i ddiddordeb bach od mewn Batman a’r holl bethau eraill sy’n dod efo’r byd yna – ddim gymaint mewn superheroes eraill, ond Batman yn sicr.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi’n dueddol o flocio unrhyw eiliadau embarrassing o fy mywyd, jyst er mwyn peidio â gorfod ail-fyw’r profiadau.

Felly, alla’ i ddim meddwl am unrhyw beth penodol i ateb y cwestiwn ‘ma.

Ond petawn i’n gorfod dyfalu, dwi’n siŵr y byddai’n cynnwys clwb nos, Tyler yn 18 oed a llawer gormod o alcohol.

Os fyddet ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dyna gwestiwn da. Un anodd hefyd.

Dwi’n meddwl, petawn i’n cael bod yn rhywun arall am ddiwrnod, byddai’n rhaid iddo fod naill ai’n rhywun sydd wedi byw ei fywyd i’r max, neu rhywun sydd â sgil anhygoel yn ei faes gwaith.

Dyma ambell i opsiwn da; Jeremy Wade o River Monsters, Jeff Hardy – seren WWE – oes yna unrhyw beth na fyddai’r dyn ‘ma’n neidio oddi arno?, neu DJ eiconig hyd yn oed… Calvin Harris ‘falle?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

Sign up for your daily dose of UnWoKe News | Privacy guaranteed | Unsubscribe at any time.

Tagged:
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
0 Comments
Oldest
Newest Most Voted
Secret Link
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x